Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Eglwys Gadeiriol Tyddewi, © Bwrdd Croeso Cymru Cofio Dewi
Mawrth 2005
Mae Gŵyl Dewi, ein nawddsant, yn taro ei gysgod dros fis Mawrth. Mawr fydd y dathlu - ciniawa gyda'r llwncdestun arferol i goffadwriaeth anfarwol Dewi Sant, Eisteddfodau a chyngherddau a gwasanaethau arbennig.

Rhaid cofio mai mynach oedd Dewi yn byw yn ôl yn y chweched ganrif. Bywyd syml o hunanddisgyblaeth oedd hanfod ei fywyd - yn byw ar fara a llysiau, gan yfed dŵr fe'i disgrifiwyd fel Aquacitus-Dyfrwr.

Roedd yn genhadwr ac mae'n debyg y bu iddo deithio drwy wledydd Celtaidd, heblaw Cymru, megis Llydaw ac Iwerddon. Ond ei brif weithgarwch oedd yn ardal ei febyd yng Ngorllewin Cymru - Ceredigion a Dyfed tu fewn i'r triongl gan gynnwys Mynyw (TÅ·ddewi), Hen Fynyw (gerllaw Aberaeron) a Llanddewi Brefi. Sylfaenodd ei brif eglwys yn NhÅ·ddewi yng Nglyn Rhosyn ac yma bu'n abad-esgob. Roedd Teilo a Phadarn yn perthyn i'r un cylch gorllewinol hwn.

Roedd yna draddodiad ei fod o dras brenhinol neu o leiaf o dras pendefigaidd, a chafodd ei ddysg gan Peulin (Paulinus).

Bu sôn am Ddewi mewn synod yn Llanddewi Brefi. Mae'n anodd dod o hyd i ffeithiau hanesyddol am fywyd Dewi oherwydd fe'i gorliwiwyd 5 mesur helaeth o chwedloniaeth e.e. y codiad tir yn Llanddewi Brefi pan fu'n pregethu yn y synod a cholomen wen yn disgyn ar ei ysgwydd. Mae'n debyg bod hyn yn tystio i'w huodledd.

Y mae'r gor-ddweud hwn yn hollol nodweddiadol o'r traddodiad a geir ym Mucheddau'r Saint. Fe sgrifennwyd Buchedd Ddewi tua diwedd y 11eg neu 12fed ganrif gan Rhigyfarch, un o feibion Sulian Ddoeth, a oedd yn Esgob TÅ·ddewi (11eg ganrif). Ymgais a gafwyd fan hyn am ddadl dros annibyniaeth Esgobion Cymru oddi wrth Archesgob Caergaint, felly yn adlewyrchu brwydrau diweddarach ac yn wir gydag ychydig o berthynas; bywyd Dewi ei hun.

Mae hyn yn dangos yn eglur fel y mae holl gwltws Dewi yn ymblethu yn hanes diweddaraf Cymru. Fodd bynnag, dywed Rhigyfarch am Ddewi yn pregethu ei neges olaf "Frodyr a Chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch a welsoch gennyf fi."

Dyma genhadwri sydd mor berthnasol i'n dyddiau cythryblus ni heddiw â'r oesau y llefarwyd hwy dros bedair canrif ar ddeg yn ôl.
Charles Eurwyn Jones - Nottingham


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý