Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Aelodau o Fand Pres Cyhoeddus Ystalyfera gyda'r artisitiad a'r cyfeilydd Cyngerdd llwyddiannus yn Ystalyfera
Mai 2007
Cafwyd gwledd yng nghyngerdd Band Pres Cyhoeddus Ystalyfera ar nos Wener, Mawrth 23, i gefnogi ymdrechion codi arian Cronfa Atgyweirio Capel y Wern.

Roedd y band ar ei orau, ac yn wir cafwyd noson ganddynt fydd yn aros yn y cof am amser hir i ddod. Darparwyd rhaglen o gerddoriaeth amrywiol a diddorol gan y band gyda phob datganiad yn cael ei berfformio yn feis¬trolgar iawn.

Cyflwynwyd y cyfansoddiadau gan Mr Hywel Williams a gwnaethpwyd hynny yn ei ffordd ddihafal ei hun. Yn cadw trefn ar y cyfan oll oedd Miss Erica Lloyd, B.A., ac yn sicr iawn roedd ei dawn a'i brwdfrydedd wedi tynnu'r gorau allan o'r Band.

Dyledus ydym hefyd i Naomi Jenkins ac Emyr Myers am eu cyfraniadau hwythau at lwyddiant y gyngerdd. Mae Naomi ac Emyr wedi eu bendithio'n helaeth iawn â dawn gerddorol arbennig iawn. Diolch am eu parodrwydd i'n cy¬northwyo yn y Wern, mae'n bob amser yn bleser cael gwrando arnynt.

Yn cyfeilio iddynt yn naturiol iawn oedd eu hathro Mr Douglas Roberts, B.A., ac afraid yw dweud bod ei gyfraniad yntau wedi cyfrannu'n wirioneddol at y boddhad a'r pleser a gafodd pawb oedd yn bresennol. Gair o ddiolch am y gwobrwyon gwerthfawr a gyfrannwyd a'r teisennod a'r brechdanau a baratowyd gan ffrindiau care¬dig.

Melys iawn oedd y cymdeithasu o gwmpas y byrddau wedi'r gyngerdd ddod i ben gyda Chwiorydd y Wern yn gweini'n siriol yn ôl eu harfer. Diolch hefyd i Ysgol Gyfun Ystalyfera am gael defnyddio'r adnoddau at ein bwriad.

Yn sicr iawn fe gawsom fel capel ein calonogi'n fawr iawn gan y gynulleidfa hardd oedd yn llanw'r neuadd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth, da yw cael dweud, at i gilydd i'r noson fod yn fodd i ni wneud elw o £500 ond llawn mor bwysig â hynny oedd y ffaith ein bod wedi cael noson fendigedig yng nghwmni ein gilydd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý