Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Cornel Natur
Tachwedd 2005
I'r rhai sydd yn ymddiddori ym myd natur mae'n hanfodol bod yn berchen ar lygaid craff.

Mae llygaid craff yn golygu bod y gwyliwr yn gallu nid yn unig edrych ond hefyd sylwi ar elfennau a fyddai'r rhelyw o bobl yn eu hanwybyddu, bydded hynny yn flodyn wedi ei hanner orchuddio mewn gwrych, nyth dryw mewn drysni neu ôl troed anifail mewn tir meddal.

Defnyddio'r llygad i sylwi nid gweld
I'r rhai sydd â llygaid barcud daw byd natur yn llawer mwy diddorol. Ond nid yw llygaid craff yn unig yn ddigon. Mae rhai pobl yn edrych ar bethau ond heb sylwi yn ofalus. Y blodyn hwnnw yn y gwrych...beth oedd ei liw.... nyth y dryw yn y drysni....beth oedd ei faint.. yr ôl troed mewn tir medal ...cadno neu wenci? Dyma'r manylion fel arfer sydd yn cael eu hanwybyddu ond y manylion sydd yn gallu ehangu mwynhad a gwybodaeth rhywun o fyd natur.

Rwy'n cofio unwaith clywed grŵp o blant yn cael eu harwiain allan yn y wlad am wers natur. Wedi peth crwydro dyma'r athro yn gofyn i'r plant beth welsoch chi? A dyma'r atebion, "gwair", "coeden", "cae", "awyr". Rhyw atebion amwys oedd y cyfan. Gofynnwyd i'r plant fynd yn ôl i'r maes gyda'r gorchymyn i edrych yn fanylach. Yr ail dro roedd yr atebion i gwestiwn yr athro yn llawer manylach. Y tro yma yr oeddynt wedi sylwi yn hytrach na gweld. Wedi sylwi ar gwningen yn bwyta gwair, nyth pioden yn y goeden, defaid yn y cae a bwncath yn yr awyr.

Gall sylwi ar ymddygiad un creadur yn y gwyllt arwain at ddarganfod creadur arall. Weithiau mae cri neu sgrechfeydd adar megis pioden neu sgrech y coed yn arwydd eu bod yn ymosod ar gadno neu dylluan. Mae sylwi ar haid neu heidiau o adar yn codi yn sydyn i'r awyr yn arwydd bod aderyn ysglyfaethus yn y cyffiniau. Mae hyd yn oed yn werth sylwi ar ymddygiad defaid mewn cae. Os ydynt yn peidio â bwyta ac yn symud yn gyflym gall hyn fod yn arwydd bod rhyw greadur arall yn amharu arnynt, dyn, ci neu efallai gadno.

Sylwi ar arwyddion natur
Gall carthion neu belenni adar fod yn arwyddion pwysig hefyd. Nid yn unig gallwn ddarganfod pa aderyn fu'n gyfrifol am adael y pelenni ond gallwn hefyd sylwi ar y math o rwyd mae'r adar hynny yn bwyta. Nid tylluanod yn unig sydd yn cynhyrchu pelenni ond hefyd brain, jac do, pioden, gwylanod a chreyr glas. Gydag ymarfer a phrofiad gellir dysgu i wahaniaethu rhwng pelenni aderyn ysglyfaethus megis bwncath a phelenni tylluan megis y tylluan fach.

Bwyd y creaduriaid
Mae sylwi ar wahanol gyflenwadau o fwyd hefyd yn gallu arwain at ba fath o rywogaethau sydd yn elwa o'u bwyta. Er enghraifft wrth sylwi ar gragen cneuen cyll gellir darganfod pa greadur sydd wedi ei bwyta trwy edrych ar y modd y mae wedi ei hagor. Mae llygod, titw, delor y cnau, cnocell y coed a'r wiwer i gyd yn defnyddio techneg gwahanol i agor y gragen.

Mewn gwirionedd nid oes terfyn ar yr hyn y gallwn ddarganfod am fyd natur trwy sylwi yn hytrach nag edrych. Ond nid y llygaid yn unig sydd o gymorth i ni wrth fynd allan i wylio a sylwi ar fyd natur. Gallwn ddefnyddio ein ffroenau hefyd i ddarganfod olion cadno wrth iddo farcio ei diriogaeth. Gallwn ddefnyddio ein clustiau yn yr modd i wrando ar sŵn y gwahanol greaduriaid.

Ac nid yn ystod y dydd yn unig y mae modd i wneud hyn. Hyd yn oed yn y nos mae na greaduriaid y gallwn wrando arnynt. Yr adeg yma o'r flwyddyn un o'r synnau mwyaf trawiadol yw'r dylluan frech yn hwtian a sgrechian wrth sefydlu tiriogaeth. Adeg yma o'r flwyddyn hefyd mae heidiau anferth o adar mudol megis coch dan adain yn hedfan gyda'r nos ac o wrando'n astud mae'n bosibl clywed eu chwiban yn y tywyllwch.

Beth amdani felly? Y tro nesaf' da chi am fentro allan i'r wlad beth am sylwi yn ogystal ag edrych ar ryfeddodau byd.

Dewi Lewis


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý