Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Y wiwer lwyd Gelyn neu Gyfaill?
Mai 2002
Adeg yma o'r flwyddyn un o greaduriaid mwyaf bywiog byd natur yw'r wiwer lwyd. Mae hi i'w gweld mewn sawl ardal a chynefin. Gellir ei gweld mewn tir agored, mewn coedwigoedd a hyd yn oed mewn gerddi.
Mae'n cael ei chroesawu gan rai ond testun casineb yw hi i eraill yn enwedig mewn gardd.

Nid creadur brodorol yw'r wiwer lwyd, yn hytrach cafodd ei mewnforio yma o America yn ystod y 19eg.

Mynd ati i reoli ei lledaeniad
Ar y dechrau de Lloegr oedd ei chartref ond fe ledodd ei thiriogaeth nes yr oedd yn rhaid mynd ati i geisio rheoli ei lledaeniad a hynny drwy gynnig arian am ei difa. Yn ystod y 30au cynigiwyd tair ceiniog (tua £1.75) heddiw) am bob cynffon.

Yna ar ôl tuag ugain mlynedd o'i hela a'i herlid a thua miliwn ohonyn nhw wedi'u difa penderfynwyd atal y difa.

Ers hynny mae'r wiwer lwyd wedi lledu i bron bob cwr o Brydain ac o ganlyniad wedi goresgyn tiriogaeth y wiwer goch sef ein gwiwer frodorol.

Erbyn heddiw dim ond mewn ychydig o ardaloedd mae'r wiwer goch yn ffynnu a hynny oherwydd bod y wiwer lwyd yn ymosod arni ac yn ei lladd. Nid oes gan y wiwer lwyd elyn naturiol heblaw am ddyn er fy mod ar ambell achlysur wedi gweld cath yn ymladd â gwiwer lwyd ifanc.

Fel arfer bydd y gwiwerod ifanc yn cael eu geni yn ystod mis Chwefror sy'n golygu eu bod erbyn mis Mai wedi tyfu ac yn llawn hyder i fentro allan i'r byd mawr.

Dod yn fwy hyderus a mentrus
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gwiwerod llwyd wedi dod yn llawer mwy hyderus a mentrus yn eu dull o fwydo nes bod rhai ohonyn nhw bron yn ddof ac yn mynychu ein gerddi a'n parciau cyhoeddus yn rheolaidd.

I rai pobol mae gweld gwiwer lwyd yn eu gardd yn destun llawenydd ond i eraill mae ymweliad y gwiwerod yn arwyddo llanast. Mae'r wiwerod yn gallu cnoi blagur ar goed, twrio i lawr i bridd y lawnt, cloddio mewn potiau er mwyn bwyta bylbiau a hefyd amharu ar adar gwyllt a allai fod yn defnyddio'r ardd i fagu.

Yn ystod y gaeaf nid yw'n anghyffredin gweld gwiwer lwyd yn glynu wrth fwydydd cnau sydd wedi eu gosod ar gyfer denu adar i'r ardd. Mae'r gallu gan y wiwer lwyd i gnoi drwy orchuddio bwydydd wedi eu gwneud o blastig yn weddol hawdd ac rwyf wedi gweld rhai gorchuddion bwydydd metel wedi eu malurio gan ddannedd gwiwer.

Mae'n debyg mai'r dinistr mwyaf a wneir yr adeg yma o'r flwyddyn yw'r dinistr i risgl coed. Wrth gwrs nid yw hyn yn broblem mewn gardd ond mewn busnes masnachol megis coedwigaeth gall hyn arwain at golledion enfawr.

Dulliau oi difa
Mewn rhai ardaloedd mae sawl dull o geisio difa'r wiwer, megis saethu, eu dal mewn trapiau neu ddinistrio eu nythod, wedi methu â gostwng eu niferoedd.

Beth felly ywr ateb? Mae arbenigwyr wedi defnyddio gwenwyn, ond mae hynny yn gallu bod yn andwyol i fathau eraill o greaduriaid. Perygl arall hefyd yw y gall y creaduriaid ddatblygu imiwnyddiaeth i'r gwenwyn.

Un cynllun sydd ar y gweill yw defnyddio cemegau atal cenhedlu. Mae'r dull yma wedi cael ei ddefnyddio eisoes i geisio rheoli niferoedd o adar yn enwedig gwylanod a cholomennod. Tybed a fydd yn llwyddiannus i geisio atal lledaeniad y wiwer lwyd?

Rhaid cofio nad yw'n gyfreithlon i bobol osod gwenwyn heb drwydded er mwyn ceisio difa'r wiwer lwyd yn ddireswm. Rhaid galw ar bobol broffesiynol er mwyn gwaredu'r creaduriaid os ydyn nhw wedi nythu yn llofft eich ty neu unrhyw safle arall sydd yn amharu ar eich bywyd beunyddiol.

Swn i ddychryn y wiwer
Ar y llaw arall nid yw yn angenrheidiol mynd ati i geisio difa'r wiwer lwyd os nad oes croeso iddi ar eich tir. Erbyn heddiw gellir prynu dyfeisiadau sydd yn cynhyrchu swn er mwyn cadw'r wiwer (a chathod neu lwynogod o ran hynny) draw o'ch gardd.

Nid yw'r glust ddynol yn gallu clywed y swn yma ond i greaduriaid gwyllt mae'r swn yn annioddefol. Nid yw'r swn yn amharu nac yn niweidio dim ar yr anifail ond mae'n sicrhau nad oes croeso iddo ar eich tir.

Felly os yw'r wiwer lwyd yn elyn neu gyfaill, mis Mai yw un o'r misoedd gorau i sylwi arni yn y maes.

Erthygl gan Dewi Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý