Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Steffan yn chwarae rygbi Steffan Thomas - Y Glas o'r Graig
Ionawr 2007
Mae Steffan Thomas yn fyfyriwr sydd ar fin cwblhau ei astudiaethau yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt.
Wedi llwyddo i ennill ei radd eleni, mae Steffan ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ei radd Meistr mewn peirianneg. Cefais sgwrs gyda Steffan adeg y Nadolig.

Beth oedd mor wahanol i'r flwyddvn hon o'i chymharu â'r blynyddoedd cynt?
O ran y gwaith academaidd mae pethau yn llai dwys o lawer. Ar draws tymor y Nadolig a'r Pasg, byddai'n astudio wyth modiwl, gyda dwy ddarlith i bob modiwl, a chynhelir rhain rhwng naw y bore ac un o'r gloch y prynhawn. Yn y prynhawniau wedyn byddai'n gweithio ar fy ngwaith ymchwil, sy'n ymwneud â'r llif nwy sy'n dod mas o'r tyrbin i'r tryledwr (diffuser). Yna rhagor o arholiadau yn nhymor yr Haf a chyfle i dynnu'r gwaith ymchwil i'w derfyn. Ac i bob pwrpas fe fydd fy ngyrfa yng Nghaergrawnt ar ben.

Sut mae'r ymarfer a'r chwarae rygbi yn ffitio mewn i'r ochr academaidd o bethe?
Dy ni'n ymarfer bob bore dydd Mercher a phob dydd Gwener rhwng saith ac wyth o'r gloch y bore yn codi pwysau. Mae'r sesiynau ymarfer yn parhau wedyn, o nos Fercher hyd at nos Wener rhwng chwech o'r gloch a hanner awr wedi saith. Yn y sesiynau hynny ry'n ni'n ymarfer sgiliau, symudiadau, trafod tactegau a gwella lefel ein ffitrwydd fel tîm. Ar ben hynny i gyd, ry'n ni hefyd yn ymarfer ar fore Sadwrn rhwng deg a hanner awr wedi un ar ddeg o'r gloch, a phrynhawn Sul rhwng tri a hanner awr wedi pedwar o'r gloch. Ry'n ni'n barod wedyn ar gyfer y gemau sy'n cael eu chwarae ar nos Lun.

Sut mae pethau wedi mynd y tymor yma i'r tîm?
Yn dda iawn ar y cyfan, ry'n ni wedi chwarae un ar ddeg o gemau ac wedi ennill wyth ohonynt. Gan ystyried ein bod wedi chwarae ymhlith eraill, timau fel Harlequins, Wasps, Leicester a Northampton, rwy'n meddwl bod ein record ni yn un digon parchus. Gan eich bod yn gofyn dw i'n bersonol wedi chwarae fel canolwr ymhob un o'r gemau hyn, ac wedi bod yn ddigon ffodus i sgorio pedwar cais. Mae rhyw ddwy fil o bobl yn gwylio ein gemau ni, felly yn amlach na pheidio mae nhw wedi bod yn hapus ac yn fodlon iawn ar berfformiadau'r tîm hyd yn hyn.

Wrth gwrs uchafbwynt y tymor yw'r gêm fawr yn erbyn Rhydychen yn Twickenham
Ie yn siŵr, rhaid cyfaddef mae'n dipyn o achlysur. A dweud y gwir mae pob gêm yn fodd i ni adeiladu ar gyfer y gêm honno. Y capten sydd â'r cyfrifoldeb o ddewis y tîm, mewn ymgynghoriad â'r ddau hyfforddwr sef Tony Rodgers a Richard Mathews. Roedd y gêm yn cael ei chynnal ar Ragfyr 12. Dewiswyd y tîm ar Ragfyr 4, ac ar Ragfyr 5 roedd aelodau'r garfan yn cael gwybod os oedden nhw'n chwarae neu beidio neu'n eilyddion. Mae pob aelod yn cael gwybod yn unigol, wrth i'r capten fynd ar ei feic o gwmpas pawb i roi'r wybodaeth iddynt.

Er mawr lawenydd i mi, cnociodd ar ddrws fy ystafell tua un ar ddeg o'r gloch gan ddweud: "Bore da Steffan, llongyfarchiadau rwyt wedi cael dy ddewis i chwarae yn y gêm yn erbyn Rhydychen. Pob dymuniad da i ti." Roedd yr oedi heibio, a braf oedd cael gwybod fy mod wedi cael fy newis i chwarae, tra llynedd roeddwn yn eilydd. Rhaid oedd ffonio gartre wedyn, a rhannu'r newyddion da gyda mam a dad. Y drefn wedyn yw bod pob aelod sydd wedi cael ei ddewis i chwarae yn mynd i ginio'r noson honno, sy'n cael ei gynnal yn yr Hawks Club, er mwyn cael gwybod pwy arall fydd yn cynrychioli'r Coleg yn y gêm fawr yn Twickenham.

Beth am y dydd mawr ei hun?
Y drefn arferol yw, yn ystod yr wythnos cyn y gêm, mae'r ymarfer dipyn yn ysgafnach, rhag i neb anafu. Ar y dydd cyn y gêm ry'n ni'n teithio i Lundain, ac yn aros y nos yno. Mae'r gêm yn dechrau am ddau o'r gloch felly ry'n ni'n cyr¬raedd Twickenham erbyn hanner awr wedi deuddeg a wedyn bant a ni.

Mae chwarae yn Twickenham yn brofiad anhygoel o flaen pedwardeg mil o bobl. Mae'r lle mor fawr, mor swnllyd a'r adnoddau yn ardderchog. Fe enillon ni'r gêm pymtheg pwynt i chwech. Y cynllun oedd i geisio cadw Joe Roff y seren ddisglair o Awstralia'n dawel. Dyna lwyddon ni wneud, roedd y canlyniad yn anochel.

Ac ar ôl y gêm?
Pryd o fwyd ysgafn, rhyw fath o bwffe, a dweud y gwir i'r gwesteion arbennig, rhieni a ffrindiau ac ati, ac yn hwyrach wedyn ar ôl ffarwelio â phawb, pryd o fwyd yn yr Oxford Cambridge Club yn Llundain, gyda'r ddau dîm yn bwyta ar wahân. Wrth gwrs mae pawb yn ymuno yn y "Ball" i gloi'r achlysur - diweddglo perffaith i ddiwrnod perffaith, a'r bore wedyn dychwelyd i Gaergrawnt.

Llongyfarchiadau mawr i Steffan ar gael ei ddewis i chwarae yn erbyn Rhydychen. Erbyn hyn mae Caergrawnt a Rhydychen wedi chwarae yn erbyn ei gilydd cant dau¬ddeg pump o weithiau. Diolch hefyd i John Blackie, Capten Caergrawnt am ddewis Steffan fel canolwr yn erbyn Rhydychen. Gwyddom i Steffan roi cyfri da o'i hunan yn y gêm. Roedd yn dipyn o anrhydedd cael rhan yn y fath achlysur ond yn anrhydedd haeddiannol iawn.

  • Sgwrs gyda Steffan Thomas ym mhapur bro Llais - Ionawr 2006


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý