Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Blodau Glais yn ei flodau 2006
Gorffennaf / Awst 2006
Fe ddyblwyd a threblwyd poblogaeth pentref Glais ar Fai 29, pan gynhaliwyd 'Gŵyl yn ei Flodau', ac unwaith eto, fe'i bendithiwyd â thywydd ffafriol.
Syniad y Parchg. Basil Jenkyns oedd yr Ŵyl gyntaf yn 2004, yn fuan wedi iddo symud i'r Glais o Abercraf, ar ôl llawdriniaeth am ben-lin newydd. Tra'n cerdded yn hamddenol o amgylch y pentref, sylwodd fod yna erddi diddorol a phrydferth yno, a gofynnodd Basil i'r garddwyr am agor eu gerddi i'r cyhoedd, er mwyn codi arian tuag at 'Ymchwil Cancr'.

Atebion swil gafodd, gan i'r garddwyr honni nad oeddent ddigon da i'w harddangos. Ond gydag anogaeth, a dyfal barhad, bodlonodd 16 a arddwyr agor eu gerddi i'r cyhoedd, a chafwyd Arddangosfa Celf a Chrefft hefyd ar brynhawn braf. Gwerthwyd planhigion, trefnwyd lluniaeth yn Neuadd yr Hen Oed, ac er syndod i bawb, codwyd dros £2,200.

Erbyn 2005 agorwyd mwy o erddi, tyfodd y gweithgareddau Crefft yn yr Eglwys, cafwyd 'caffi' ychwanegol yn festri Seion, gwerthwyd cannoedd o blanhigion a llwyni yn y Clwb Rygbi, a rhyfeddodd pawb o ddeall fod yr elw wedi codi i £4,677!!!

Agor y gerddi yn 2006
Ond eleni, aethpwyd i'r eithaf. Agorwyd clwydi 20 o erddi prydferth, lliwgar, defnyddiwyd yr Eglwys a'r Ysgol i arddangos Arlunia ffotograffiaeth, brodwaith, cwiltio, gwaith coed, caligraffi, a gwneud cardiau o ffelt. Roedd rhywbeth at ddant pawb yno, ar wahân i'r bwyd blasus yn festri Seion a Neuadd yr Hen Oed. Bu plant Ysgol Glais yn brysur yn gwneud 'gerddi twt' - gwerthwyd dros £800 o blanhigion, a daeth Val Lloyd, Edwina Hart a'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, o'r Senedd ym Mae Caerdydd i gefnogi a thynnu'r Raffl Fawr.

Y brif wobr oedd pot blodau 'Terra Cotta' rhodd gan Dywysog Cymru, ac a enillwyd gan wraig o Rhos. Yr elw terfynol oedd bron £8,000, ond roedd pentrefwyr Y Glais, ac ymwelwyr o bell ac agos wedi profi diwrnod arbennig, a chyfrannu'n haelionus tuag at achos mor deilwng.

Ond mae'r diolch pennaf i Canon Jenkyns ei hunan, am ei weledigaeth, am brocio ac ysbrydoli'r garddwyr, am roi'r Glais ar y map am ddiwrnod cyfan ac am fod y pentref wedi cyfrannu bron £15,000 tuag at 'Ymchwil Cancr' mewn tair blynedd. Mae ef a phreswylwyr Y Glais yn haeddu ein diolch a'n llongyfarchion didwyll.

Ennill gwobr arbennig
Sue JenkinsTra ar ymweliad â "Glais yn ei Blodau", ddiwedd mis Mai, bu Sue Jenkins, Rhos, Cilybebyll, yn ffodus i ennill llestr pridd, rhodd gan y Tywysog Charles a Camilla.

Dywedodd Sue sydd yn gyn athrawes "Cefais sioc fy mywyd wedi i mi glywed fy mod wedi ennill y wobr gyntaf yn y raffl. Mae'n lestr hardd iawn, rhy werthfawr i'w gadw yn yr ardd. Caiff le parchus yn y tÅ·.

Mae Sue yn wreiddiol o Landudno, ac yn briod â Con, ŵyr y Parch David Jenkins, Ebeneser Rhos. Symudodd y ddau nol i Rhos yn 1997 wedi cyfnod o 30 mlynedd yn Bromley Swydd Caint, lle roedd Sue yn Bennaeth Adran.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý