Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Fabio Gonzalez, o Ddyffryn Camwy Nôl o'r Wladfa
Chwefror 2003
Dysgu am Fenter Cwm Gwendraeth i bobol y Wladfa
A chithau'n dechrau ymlacio a meddwl, "O ffiw, dim rhagor o sôn am Batagonia," dyma fi'n bostio eich balwn fach chi'n sydyn reit ar ddechrau'r flwyddyn fel hyn.

Tra roeddwn yn yr Ariannin yn gweithio yn y Cymunedau Cymraeg ar brosiect 'Dysgu Cymraeg yn y Wladfa' roeddwn yn awyddus iawn i rannu fy mhrofiadau fel rhywun a oedd yn byw yn yr ardal lle dechreuwyd y Fenter Iaith Gyntaf yng Nghymru. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi cael tipyn o sioc pan ystyriais nad oeddynt yn gwybod dim am y Mentrau Iaith o gwbl heblaw am un neu ddau unigolyn yn Y Dyffryn. Yr unig ffordd roedd rheini yn gwybod amdanynt oedd achos eu bod wedi cwrdd ag ambell deithiwr/wraig oedd yn gweithio i Fenter Iaith.

Gan nad yw'r teithiwr cyffredin yn gallu treulio llawer o amser mewn un lle yn arbennig, prin felly oedd y cyfle wedi bod i roi unrhyw wybodaeth am beth oedd Menter Iaith. Hefyd roedd y mwyafrif o'r bobl yr oeddynt wedi cwrdd â nhw - a oedd â chysylltiad gyda'r iaith, yn athrawon yn y Gymraeg. Er bod pobl o Gwm Gwendraeth wedi bod allan yn Y Wladfa ni chawsant y cyfle siwr o fod, i sôn am y Fenter.

Addysgu am draddodiadau Cymru
Beth bynnag, tra bum yno roeddwn yn trio fy ngorau i addysgu'r trigolion am hanes a thraddodiadau Cymru, ei daearyddiaeth a'n harferion yn ogystal â throsglwyddo ac ymestyn eu profiadau ieithyddol. Mewn ambell grwp rhaid oedd canolbwyntio ar yr iaith yn unig, gan mai elfennol oedd eu gwybodaeth os oedd ganddynt wybodaeth o gwbl, ond roedd yna grwpiau gloywi oedd yn hapus i ymarfer ac ehangu ar eu geirfa wrth fynd ati i daclo erthyglau a darnau darllen mwy eang eu hapêl.

Mewn rhannau o'r Wladfa lle nad oedd cymaint o deithwyr o Gymru wedi bod yn ymweld, roedd y trigolion yn dangos ffafriaeth i drin a thrafod pynciau mwy traddodiadol a chyfarwydd. Yn ddigon naturiol (a dealladwy o edrych yn ôl!) byddai'n llawer gwell ganddynt sôn am ardaloedd arbennig o Gymru lle roedd ganddynt deulu. Roedd ambell un wedi bod yng Nghymru ac am sôn am y lle hwnnw a'u profiadau yno yn hytrach na dysgu am rywle newydd. Ar y pryd gwnai hyn i mi deimlo braidd yn rhwystredig, ac ar fy adegau mwyaf hiraethus deuthum i gasau clywed sôn am ambell i le!

Beth bynnag gydag amser (a llawer o gnoi tafod) deuthum i weld y peth am beth ydoedd, sef cariad at rywle yng Nghymru lle y bu iddynt dderbyn croeso mawr pan fuont draw ar ymweliad. Wrth gwrs roedd man geni eu cyndeidiau yn mynd i fod yn annwyl iawn iddynt ac yn agos at eu calon, ac felly roedd yn ddigon dealladwy eu bod wedi sancteiddio'r lle i ryw raddau.

Beth bynnag, yn ffodus i mi fe ddes i ar draws pobl yn ystod y flwyddyn oedd wedi cael profiadau ehangach o fywyd ac o Gymru. Roedd y bobl hyn yn gallu gwrando arnaf yn sôn am fy ngwreiddiau i yng Nghymru ac yn sgil hynny roeddwn yn gallu symud ymlaen i sôn am weledigaeth pobl Cwm Gwendraeth dros ddeng mlynedd yn ôl. Wrth gwrs roedd gan rai o deuluoedd y Dyffryn fwy o ddiddordeb byth wedi clywed fod y peth wedi tyfu allan o'r ffaith i Eisteddfod yr Urdd ymweld â'r Cwm. (Mae Elvey MacDonald, sef cyn-drefnydd Eisteddfod yr Urdd, yn dod yn wreiddiol o Ddyffryn Camwy ac mae ganddo lawer o deulu yno o hyd.)

Adnabod Gwenda a Gaynor
I helpu'r achos roedd gen i gopi o Y Cyffro yn y Cwm' a anfonwyd allan i mi gan Deris Williams. Roedd adnabod ambell i wyneb enwog megis Caryl Parry Jones a Dafydd Iwan, yr oedd pawb yn ei adnabod, yn help i dynnu sylw. Eto oherwydd cysylltiad teulu'r MacDonalds y tro hwn ym mherson Hector Ariel MacDonald roedd yna adnabyddiaeth o Gwenda a Gaynor oherwydd bod y ddau deulu wedi cystadlu yn erbyn ei gilydd adeg Cân i Gymru 2001 a bod cysylltiadau wedi bod cyn hynny oherwydd byd y gân.

Gan fod cymaint o luniau yn y llyfr, doedd neb yn diflasu gyda gormodedd o ddarllen manwl ac roedd y ffaith fod llun cartref yr athrawes ar y clawr yn golygu fod y llyfr yn cael ei dynnu oddi ar silffoedd llyfrgell yr ysgol yn gyson hyd yn oed os nad oedd yn cael ei ddarllen o glawr i glawr!

Roedd hi'n gêm gan rai i 'sbotio Elen' yn y llyfr sydd ddim yn gêm rhwydd i ddweud y gwir gan fy mod wedi gwisgo fel cymeriad mewn drama ym mhob llun ac felly nid yn fi fy hun go iawn yn un ohonynt.

Ein grwp ni o athrawon oedd y grwp olaf ond un i fedru cael y cyfle o dderbyn y profiad arbennig hwn oni bai i grant newydd gael ei dderbyn, ac roeddwn yn digalonni o weld gwaith caled yr holl gyn-athrawon (gwirfoddol a swyddogol) yn diflannu os na fyddai parhâd i'r gefnogaeth ariannol o Gymru. I ddweud y gwir gallwn weld llawer o debygrwydd rhwng gwaith y prosiect a gwaith y Mentrau Iaith.

Dechreubwynt y prosiect oedd yr iaith Gymraeg adosbarthiadau, ond fel yr ehangodd gwaith y Mentrau Iaith i gwmpasu bron pob agwedd o fywyd felly hefyd roedd yn rhaid i waith yr athrawon yn Y Wladfa.

Roedd y sefyllfa economaidd arswydus a ddatblygodd yn ystod ein harosiad yn 2001-02 wedi effeithio'n arbennig ar y dosbarthiadau a bu rhaid i ni ddatblygu strategaeth i drïo achub y niferoedd oedd yn dod i'r dosbarthiadau trwy gymryd i ystyriaeth sefyllfa teuluoedd unigol a chynnig pecynnau gwahanol i'r gwersi arferol a ffordd wahanol i dalu am y gwersi. Roedd fy mhrofiad fel cyfarwyddwr Menter Cwm Gwendraeth a gweld fel roedd y swyddogion a staff y Fenter wedi gorfod addasu a bod yn hyblyg er mwyn cael y gorau i'r Iaith a'r Gymuned, yn fy helpu i feddwl mewn ffordd wahanol. Roeddwn yn ffodus hefyd i gael staff rhan-amser a gwirfoddolwyr at bwyllgorau'r ysgolion a oedd yn adnabod gofynion eu cymunedau gwahanol ac yn gallu ymateb iddynt yn y ffordd fwyaf addas.

Mewn gwirionedd Mentrau Iaith oedd pwyllgorau'r ysgolion ond bod dim digon o amser gan un aelod o staff i ddiwallu gofynion dosbarth, capel a chymuned, serch roedd yn rhaid anelu at wneud hyn. Yn fy marn i dylid anfon i bob tref yn Y Wladfa, weinidog, athro/ athrawes a swyddog datblygu ac nid un person i wneud gwaith y tri mewn ardal eang. Dim ond bryd hynny y gellid gweld datblygiad sylweddol yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg heb golli'r cnewyllyn cadarn o siaradwyr sydd yno'n barod.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý