Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Rhian, enillydd y fedal Llên Saesneg Eisteddfod Maes
Ebrill 2008
Ar ddiwrnod olaf mis Chwefror cynhaliwyd eisteddfod flynyddol Ysgol Maes Yr Yrfa.

Cafwyd diwrnod o gystadlu brwd a hwyliog rhwng y pedwar llys. Eleni Llys Darog oedd yn fuddugol o dan arweiniad y ddau gapten Rebecca Evans a Dafydd Llyr Thomas. Yn wir, rhaid llongyfarch holl fyfyrwyr blwyddyn 12 am eu hymroddiad wrth baratoi'r disgyblion ar gyfer y cystadlaethau. Mor ymroddedig oedd ambell fyfyriwr blwyddyn 12 nes i un ferch oedd yn dysgu parti dawnsio gwerin Llys Darog, wneud y dillad, i'r bechgyn ac i'r merched, i gyd ei hun!

Roedd yn bleser gweld lliw a safon baneri'r llysoedd a ddyluniwyd gan fyfyrwyr blwyddyn 12, yn arbennig y faner fuddugol, sef Llys Darog a ddyluniwyd gan Carwyn David.

Rhown ein diolch gwresog i'r beirniaid a fu'n rhoi eu gwasanaeth ar hyd y dydd. Beirniad y fedal Llên Saesneg oedd Mr. Huw Iorwerth; Cystadleuaeth Y Gadair Mrs. Mair Evans; Y Cylchgrawn, Miss Margaret Davies a Mrs. Siân Evans; sgets, Mr. Jonathan Thomas; cystadlaethaucerddorol, Miss Catherine Davies a chystadlaethau dawnsio disgo a dawnsio gwerin, Miss Ffion Medi a Miss Hayley Price. Braf, yn wir, oedd gweld cymaint o gyn disgyblion a chyn athrawon ymhlith y beirniaid.

Rhian, enillydd y Fedal Llên Saesneg Enillydd Cystadleuaeth y gadair oedd Nathan Munday, blwyddyn 10 o Lys Darog a Rhian Lloyd o Lys Darog, eto, enillodd y Fedal Llên Saesneg. Llys Darog hefyd enillodd Gystadleuaeth y Cylchgrawn. Disgyblion blwyddyn 13 a 12 ac un o flwyddyn 10 oedd aelodau'r orsedd. Mathew Williams a Roy Llywelyn oedd y trwmpedwyr a Bella, Catherine, Ioan ac Osian o flynyddoedd 7 ac 8 oedd y clocswyr yn seremoni'r cadeirio. Yn wir, blwyddyn Llys Darog oedd hi eleni - yn y cystadlaethau llwyfan a'r cystadlaethau ysgrifenedig. Mwynhawyd diwrnod o hwyl a sbri yn ogystal â chystadlu safonol iawn - heb unrhyw awgrym o gythraul y canu.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý