Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Ysgol Llanddarog yn dathlu 150 gyda gwersi hanes o Oes Fictoria Ysgol yn dathlu
Hyfref 2003
Roedd y flwyddyn a aeth heibio yn un bwysig yn hanes yr ysgol am ei bod wedi dathlu ei chanmlwyddiant a hanner eleni. Bu'r plant a'r athrawon yn ystod y flwyddyn yn paratoi ar gyfer y dathliadau.

Ar ddiwedd tymor yr haf felly, cafwyd wythnos o weithgareddau i ddathlu'r achlysur arbennig hwn. Ddydd Merched 9fed o Orffennaf ail-grewyd diwrnod ysgol yn ystod Oes Fictoria.

Braf oedd gweld y plant a'r athrawon wedi gwisgo eu dillad Fictoraidd. Yn y prynhawn cafwyd parti a gemau ar yr iard i orffen y dydd.

Diolch i Mrs. Linda Rees am wneud y gacen ar gyfer y dathliadau. Yna Nos Iau Gorffennaf l0fed, cynhaliwyd noson agored yn yr ysgol. Cyfle oedd hwn i gyn-ddisgyblion, hen a newydd, a rhieni ddod at ei gilydd i grwydro o amgylch yr ysgol a gweld arddangosfa o hen luniau.

I ddechrau'r noson hon cafwyd cyflwyniad gan y disgyblion. Cyflwyniad oedd hwn yn portreadu bywyd ysgol ar hyd y ganrif a hanner diwethaf. Dechreuwyd gyda'r agoriad swyddogol yn ôl yn 1852 wedi cyhoeddiad y Llyfrau Gleision. Cafwyd pytiau byrion am fywyd ysgol yn ogystal â'r gymdeithas o'i chwmpas o'r llyfrau log.

Yn dilyn cyflwyniad y plant rhoddwyd perfformiadau cerddorol gan Emma Niorgan a Rebeca Davies ar y clarinet; Jessica Jenkins a Sophie Pick ar y ffidil a Dafydd Pritchard ar y trombôn.

Uchafbwynt y noson oedd dadorchuddio'r mosaig. Cynlluniwyd a gwnaethpwyd y mosaig gan blant yr ysgol dan arweiniad yr artist Gwenllian Beynon o Bontrhydfendigaid a fu'n gweithio gyda'r plant yn ystod y flwyddyn.

Roedd hwn yn brofiad newydd i nifer ohonynt a chawsant fwynhad mawr allan o gydweithio gydag artist proffesiynol. Mae ein diolch yn fawr iddi hi am roi o'i hamser ac am yr amynedd a ddangosodd wrth weithio gyda nhw. Mae'r mosaig hyfryd hwn, sydd i'w weld bellach ar wal yr ysgol yn darlunio gwahanol agweddau o Landdarog a'r cyffiniau ac yn gyfuniad o'r gorffennol a'r presennol.

Yn ystod y noson cafodd nifer o bobl gyfle i ymweld â'r ystafell gyfrifiaduron newydd sef Ystafell Trefor Voyle. Mae'r ysgol wedi buddsoddi yn ddiweddar mewn deg cyfrifiadur newydd lle mae'r plant bellach yn gallu gweithio fel grwp neu fel dosbarth cyfan i ddatblygu eu sgiliau technoleg gwybodaeth. Heb os rydym yn falch iawn o'r ffaith fod gennym ystafell bwrpasol bellach i gyflwyno cyfrifiaduron i'r plant.

Yn sicr roedd hon yn noson lwyddiannus a chafodd sawl cyn ddisgybl fwynhad o edrych ar hen luniau, hel atgofion a chymharu sut mae'r ysgol wedi newid ar hyd y blynyddoedd. Braf oedd gweld cymaint o bobol wedi dod ynghyd. Diolch i bawb a fynychodd y noson yn ogystal â phawb a gyfrannodd tuag at ei llwyddiant.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý