Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Ieuenctid yn ymarfer Cyflwyniad ein pobol ifanc
Mai 2004
Mae criw o ieuenctid wrthi ar hyn o bryd yn paratoi cyflwyniad ar gyfer Undeb '04. Mae'r sgript 'Yn Gymysg oll i Gyd' wedi ei lunio gan Arwel John a'r alawon dan ofal Emlyn Dole.

Mae'r tîm Cyfarwyddo dan arweiniad Carys Edwards, Gwenda Owen a Marie Seymour.

Mae ieuenctid yr ardal yn heidio i arferion a hynny ar gyfer canu, dawnsio, llefaru, meimio, coluro a llawer mwy! Fe fydd ein pobl ifanc yn ein harwain mewn ffordd fentrus a bywiog iawn ar daith bywyd gan gofio am erchylltra'r byd sydd o'n cwmpas.

"Mae'r gerddoriaeth yn fodern a bywiog ac rydym yn cael llawer o hwyl," ategodd Emma Sullivan o Bontyberem. "Mae'n sioe sy'n codi hwyl gyda stori gref ac yn ein hatgoffa ni gyd o'r hyn sydd yn digwydd," nododd Aled Thomas, Drefach.

Mae pobl ifanc o wahanol ardaloedd o'r Cwm yn manteisio ar y cyfle i ddod at ei gilydd ac yn cael cyfle i gymdeithasu, dysgu a joio!

Mae'r drysau ar agor a chyfle i fwy o ieuenctid 10+ i ymuno yn yr hwyl!

Fe fydd dau berfformiad o'r Cyflwyniad yn Neuadd Pontyberem ar 11 Mehefin a 18 Mehefin gan gychwyn am 7.30 o'r gloch. Archebwch eich tocynnau o Swyddfa Menter Cwm Gwendraeth 01269 971600. Cofiwch - cyntaf i'r felin!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý