Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Sara Edwards, Gwyneth Petty a Iestyn Hughes (Pennaeth Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru). Llun : westwalessport.com Pa eisiau Hollywood pan fo gyda ni Sir Gâr ?
Ebrill 2004
Ar Chwefror 23ain lansiwyd taith ffilm Archif Cenedlaethol Sgrîn a Sain Cymru 'Clasuron ar Olwyn' yn sinema Cross Hands.

Y prif ffilm oedd 'David' - y ffilm enwog yn seiliedig ar fywyd y cyn-löwr a gofalwr ysgol o Rydaman D. R. Griffiths, ac yn fwy adnabyddus fel y bardd Amanwy. Cyflwynwyd hwn gan un o'r sêr - Gwenyth Petty a'i merch Sara Edwards, sy'n fwy cyfarwydd i ni fel darlledwraig 'Wales Today'.

Yn y gynulleidfa roedd cryn nifer o dylwyth David Griffiths (Amanwy) a'i frawd y gwleidydd Jim Griffiths. Gyda'r ddwy ffilm roedd casgliad diddorol o hysbysebion sinemaRhydaman o'r 1930au.

Fodd bynnag yr ail ffilm 'Dylan Thomas' oedd yr un â chyswllt lleol. Mae rhai o drigolion Llanddarog yn cofio fel yr arferai Dylan oedi yno am ddiod ar ei deithiau o Abertawe i Dalacharn ac yn ôl. Fe gafwyd perfformiad caboledig gan Richard Burton ond i lawer y ffotograffiaeth a roes adlewyrchiad cofiadwy iawn o eiriau'r bardd hwn.

A dyma lle ceir y cyswllt gwir leol. Fel y nodwyd yn y teitlau y person a oedd yn gyfrifol am y ffotograffiaeth oedd Ifor Thomas. Serch hynny ychydig bach o bobl a wyddai ei fod yn dod o bentref llai na milltir o'r sinema.

Mab i löwr o Gefneithin oedd Ifor Thomas ac mae ei chwaer Morwen yn dal i fyw yng Nghefneithin. Efe i lawer oedd yn gyfrifol am ddyrchafu ffotograffiaeth yn fodd o gelfyddyd. Yn un o brif ddatblygwyr ffotograffiaeth wedi'r rhyfel ymddangosodd ei waith yn gyson yn yr Academi Frenhinol. Un o arwyr y Genedl ac yn sicr arwr lleol nad yw'n cael ei gydnabod yn ddigonol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý