Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Chwith i'r dde : Ellis Davies, Dan Jones a Jim Herbert yn 'Ground Zero' Ymweliad â Ground Zero
Tachwedd 2003
Beth bynnag yw eich barn am y sefyllfa bresennol yn Irac a mannau eraill yn y byd lle mae gwrthdaro, mae ymweliad â safle Ground Zero' yn sicr yn dwyn i gof eiriau tad a gollodd ei fab tra roedd yn gwasanaethu gyda'r Fyddin yn y Dwyrain Canol y llynedd.

"Politicians make war, not the soldiers or anyone else." Dyna oedd ei farn onest wrth i'w deulu wynebu cylchwyl pen-blwydd marwolaeth ei fab.

Mi wnaeth digwyddiadau ysgytiol Medi 11eg, 2001 ysgwyd U.D.A. i'w seiliau a mi ddeallwch pam wrth i chi geisio dychmygu maint y difrod a achoswyd pan syrthiodd gefelldyrau Canolfan Masnach y Byd yn dilyn yr ymosodiad terfysgol. Wedi ei ddal ar fideo a'i gofnodi am byth, fe'i ddarlledwyd yn fyw ar draws y byd fel penawd newyddion y dydd.

Mae'r digwyddiad yna, yn fwy nag un arall yn y blynyddoedd diwethaf, yn disodli llofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy, fel yr un y byddwch yn cofio ble'n union yr oeddech ar y pryd.

Eleni, mi es yng nghwmni dau aelod arall o Gôr y Mynydd Mawr, Dan Jones a Jim Herbert i ymweld â Ground Zero. Roeddem yn America yn rhan o Gôr Llewod Prydain ar gylchdaith cyngherddau gan gynnwys un yn Sgwâr Hanover, Efrog Newydd, lle mae Gardd Goffa yn cael ei chreu i gofio'r dioddefwyr Prydeinig yn nhrasiedi Medi'r 11eg.

Roedd ein cyngerdd yn rhan o 'r ail-gylchwyl yn Efrog Newydd i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau ac mewn ffordd fechan yn gymorth i'r miloedd o deuluoedd a effeithiwyd am byth gan ddigwyddiadau erchyll y bore heulog hwnnw ddwy flynedd yn ôl.

Gellid mynd heibio Ground Zero a'i ystyried yn safle adeiladu gan fod yr awdurdodau yn parhau i weithio arno. Ond pan edrychwch ar yr entrychdai (skyscrapers) o'ch cwmpas, yna mi ddechreuwch werthfawrogi maint graddfa o sylweddoli i'r gefelldyrau fod hanner cymaint eto o uchder o'u cymharu â'r adeiladau ochr yn ochr â hwy. Ar ddiwrnod y cofio roedd blodau ym mhob man. Daeth miloedd i dalu parch.

Er mai busnes fel arfer yw hi yn Wall Street' gerllaw fe deimlir y tawelwch trawiadol sy'n cwmpasu yr ardal o flaen ac o gwmpas y safle a hyn ynddo'i hun yn dangos parch. Y Tacsis Melyn enwog yn mynd heibio heb furmur, loriau a bysiau yn mynd yn eu blaen yn dawel a'r rhan fwyaf o'r bobl yn plygu pen fel arwydd o barch.

Beth bynnag fydd dyfodol y safle, bydd Efrog Newydd fyth yr un peth eto.

Ellis Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý