Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Catrin Finch Rhys Taylor a Dewi Ellis Jones Noson i'w Chofio
Chwefror 2008
Daeth yn agos at ddau gant o bobl i Neuadd Pontyberem, nos Iau 24 Ionawr ar gyfer cyngerdd clasurol fyth gofiadwy.

Seren y noson oedd Catrin Finch ond fe gafodd gwmni disglair Rhys Taylor ar y clarinet a Dewi Ellis Jones ar yr offerynnau taro.

Roedd yr arlwy yn un diddorol gyda chyfle i'r tri ohonynt i ddangos eu dawn a'u bwrlwm creadigol. Ar ôl i Catrin ddechrau'r gyngerdd gyda dau ddarn, un o waith Carlos Salzedo, ac un gan Debussy perfformiodd Dewi Ellis Jones yn drawiadol ar yr offerynnau taro. Roedd y llwyfan yn llawn o offerynnau cyfarwydd ac egsotig a'r cerddor wedi dangos ei fod yn feistr ar y cyfan gan gynnig blas i ni ar waith Evelyn Glenni a Mattius Schmitt ymhlith eraill.

Roedd Catrin yn serennu fel arfer, roedd ei dehongliad o'r Carnival De Venise ar ddechrau'r ail hanner yn wefreiddiol ond fe wnes i fwynhau ei phortread o un o ddarnau Paul Patterson sef `Bugs! Mosquito Massacre'. Dyma Catrin Finch ar ei gorau yn dehongli yn rhydd ac yn wreiddiol.

Yr oeddwn yn edrych ymlaen i weld beth fyddai'r finale i'r cymysgwch offerynnau yma. `The arrival of the Queen of Sheba' oedd y diweddglo a chafodd neb ei siomi.

Roedd y gyngerdd yn wefreiddiol o'r dechrau i'r diwedd a'r gynulleidfa ar ei thraed ar y diwedd wrth gymeradwyo er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad o safon ac amrywiaeth cyngerdd a fydd yn aros yn y cof. Edrychwn ymlaen at groesawu Brenhines y Delyn yn ôl i Bontyberem yn fuan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý