Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Neuadd Pontyberem Pontyberem Ddoe a Heddiw
Mawrth 2003
Yn ystod y can mlynedd diwethaf bu llawer o newidiadau ym mywyd pentref Pontyberem yng nghwm Gwendraeth Fawr. Cymaint oedd twf y boblogaeth yn yr ardal ar ddechrau'r ugeinfed ganrif fel bod rhaid ad-drefnu llywodraeth leol, ac ym 1919 sefydlwyd Plwyf newydd Pontyberem.

(Gyda llaw ni ddaeth Pontyberem yn blwyf eglwysig tan 1934.)Cynhaliwyd cyfarfod agoriadol y cyngor plwyf newydd ar Ebrill 15fed, 1919 ac amcangyfrif eu gwariant yn ystod y flwyddyn gyntaf oedd £50. Cyn ffurfio'r cyngor plwyf newydd roedd pentref Pontyberem, yn ddaearyddol, wedi ei rannu rhwng pedwar plwyf gwahanol, sef Llangyndeyrn, Llanddarog, Llannon a Llanelli wledig ac, ers deddf Llywodraeth Leol 1889, o dan bedwar plwyf gwahanol.

Gellir diffinio'r hen raniadau tiriogaethol yn fwy manwl. Yr oedd Pontyberem yn cynnwys rhan o hen bentrefannau Cilcarw yn Llangyndeym, Cilau yn Llanddarog, a'r Glyn yn Llannon a Llanelli.Mae'n werth nodi ffiniau'r pentrefannau uchod gan mai hwy hefyd oedd ffiniau'r pedwar plwyf.

Yr afon Berem oedd y rhaniad rhwng Llanddarog a Llangyndeyrn, yr afon Chwith oedd y ffm rhwng Llannon a Llanelli, a'r Gwendraeth Fawr oedd y prif ffin rhwng Llannon a Llanelli ar y lan ddwyreiniol, a Llanddarog a Llangyndeyrn ar y lan orllewinol. Mae'r ffiniau hyn yn bod ers cyn cof a chymer afonydd y Berem â'r Gwendraeth Fawr oedd unig fan cyfarfod cymydau Cydweli, Iscennen a Charnwallon.

Newidiadau mawr
O ystyried mai pentref glofaol llewyrchus oedd Pontyberem yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, gwelir bod newid mawr wedi digwydd o gymharu â'r hyn ydyw heddiw. Er enghraifft, hyd yn oed yn 1915 yr oedd gan Bontyberem wasanaeth tacsi preifat; heddiw ni ellir prynu petrol mewn unrhyw fan o fewn y plwyf. Prin iawn yw'r crefftwyr yn awr, a'r angen am of yn y pentref yn fach iawn: nid oes yma deiliwr fel yn y dyddiau gynt pryd y gallech gael eich mesur am siwt newydd.

Unwaith roedd yma gyfanwerthwyr nwyddau yn diwallu anghenion y busnesau bach, bellach take-aways sydd yn yr adeiladau hynny. Erbyn hyn gorchuddir tomennydd glo'r pentref gan lystyfiant. Gadawyd i olion camlas Dyffryn Gwendraeth ddiflannu ac mae'r chwyn yn tyfu tros y rheilffordd a oedd unwaith yn wythïen bywyd y cwm. Pe cymerech Heol Coalbrook ym Mhontyberem fel prif enghraifft o'r newid a fu yn y pentref, mae'r gymhariaeth rhwng heddiw a'r cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd yn aruthrol.

Mae Coalbrook House a adeiladwyd yn y 1670-au, yng ngeiriau Major Francis Jones, pan ymwelodd â'r hen dy ddechrau'r 1960au, "has been efficiently destroyed to comply with provincial ideas of modem progress."Lle bu lawnt odidog Clwb Bowlio Pontyberem, yn awr saif Cartref Henoed Nantyglo', a Gyferbyn lle'r oedd Stablau Gwaith Glo Glynhebog yn awr ceir canolfan lewyrchus yn gwerthu teiars, a thu cefn iddi lwybr a arweiniai at Gwm Shallong, lle, yn ystod Terfysgoedd Beca, yr adeiladodd y Dragwns eu gwersyll.

Tu cefn i'r ganolfan deiars hefyd mae busnes llwyddiannus yn hurio offer, lle yng nghanol y bedwaredd ganrif at bymtheg yr oedd Gwaith Glo'r Gwendraeth. Yno ar y lOfed o Fai 1852 y digwyddodd y trychineb gwaethaf yng Nghwm Gwendraeth pan gollodd 26 o ddynion a bechgyn eu bywydau pan dorrodd ddwr i mewn i'r pwll. Lle saif gwaith peirianneg modern R.M.D. Engineering heddiw, ar un adeg roedd cyrtiau tenis lawnt Eglwys St. loan. Yr oedd gan Coalbrook House eu cyrtiau tenis eu hunain lle saif Cyfnewidfa Gyfathrebu Brydeinig yn awr.

Dywedir mai'r unig dramwywyr tros reilffordd Dyffryn Gwendraeth erbyn hyn yw cefnogwyr brwd chwaraeon sy'n cymryd llwybr byr i gyrraedd Parc Pontyberem o Heol Coalbrook. Mae sinema'r Palas a agorwyd ym 1926 wedi hen gau erbyn hyn fel darlundy, ac wedi blynyddoedd o'i ddefnyddio fel clwb cymdeithasol i gyn-filwyr, adweinir ef nawr fel Tafam Paddy' sy'n dy bwyta yn ystod yr wythnos ac yn cynnal gweithgareddau hwyr ar benwythnos.

Gyferbyn â Thafam Paddy mae Meddygfa fodern Coalbrook, a aeth ar din un waith pan oedd yn cael ei hadeiladu. Dau ddrws oddi wrthi, lle'r oedd unwaith siop yn gwerthu cyfarpar cerddorol, saif y Swyddfa Bost ganolog, ac ychydig yn nes draw lle'r oedd gorsaf yr heddlu mae ty annedd erbyn hyn.

Y drws nesaf mae Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr a adeiladwyd ym 1894, ac a ddaeth yn 2001, yn Eglwys Blwyf Plwyf Rheithorol newydd Cwmgwendraeth. Sylwer ar uno'r ddau air Cwm a Gwendraeth.Yr oedd yr hen eglwys a elwid hefyd yn Capel Ifan, tua thri chwarter milltir o'r pentref ac a adweinid hefyd yn Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr yn swyddogol, wedi bod ar un adeg yn gapel anwes o dan St. Elli, Eglwys y Plwyf, Llanelli. Am hyn yn adroddiad Comisiynwyr Edward VI nodwyd. -It'm, a chalyce in the hands of Harry Nycholas, which he bought upon his owen costes and charges, to s've the chaple of Saynte John annexed to the sayd p'ishe.

Sgwâr y pentref
O gyrraedd y sgwâr, a oedd ar un adeg yn ganolbwynt y pentref, gwelwn fod yr Hen Ystafell Ddarllen ar werth. Hefyd ym 1992 datblygwyd system ffordd newydd trwy adeiladu pont gryfach yn lle hen bont y Plough, a diflannodd y siop ffrwythau boblogaidd ynghyd â'r busnes atgyweirio ceir.

Yn y cul-de-sac mae maes parcio bychan sy'n gyfleus i gwsmeriaid y siop garpedi gerllaw, y siop flodau a'r fferyllfa brysur. Trosglwyddwyd busnes caffi Lupi a adnabyddid ar un adeg fel y ' Pontyberem Temperance Bar' o'r sgwâr i'r Caffi Cynnes a enillodd enwogrwydd trwy gyfres Pobol y Cwm ar S4C. Yn ei le daeth cigydd lleol, siop a roddodd wasanaeth clodwiw i'r gymuned am flynyddoedd. Trist yw meddwl nad oes yr un cigydd yn y pentref yn awr tra cynt yr oedd nifer mawr ohonynt. Bu cyfnod pan oedd tri banc gwahanol yn cynnig gwasanaeth rhannol yn y pentref. Erbyn heddiw- nid oes yr un.

Yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, yr oedd busnes mewn adeilad tri llawr ar sgwâr Pontyberem. Harries and Walters oedd yr enw swyddogol, ond a adweinid yn lleol fel Siop yr Ironmonger, lle gallech brynu dodrefn, pob anghenrhaid o siop o'r fath gan gynnwys caib a rhaw gogyfer â'r pwll glo, celfi garddio, beiciau a hyd yn oed betrol Pratts. Dymchwelwyd ef pan gafodd y ffordd ei lledu.

Y pentref ar ei newydd wedd
Mae'r Emporium, lle gallech gael eich mesur am siwt newydd, yn awr yn off-licence gan gynnwys hurio fideos, a'r drws nesaf mae siop pysgod a sglodion. Mae'r Co-op, y siop gydweithredol a fu yno gyhyd, ac a oedd ar un adeg â changhennau ym Mhontiets a Chwmmawr, wedi hen ddiflannu. Yn ei lle mae archfarchnad sydd ar agor am oriau hir ac ar benwythnos, sy'n ennyn cenfigen pentrefi cyfagos oherwydd y cyfleustra a gynigir.

Mae'r Institiwt Coffa, a oedd ar un adeg yn darparu ystafell ddarllen, ystafell snwcer, a chanolfan cyfarfod cyffredinol, yn para i fod yn boblogaidd gyda'r pentrefwyr gan ei fod yn dal i ddarparu ystafell ir llyfrgell ac ystafelloedd ymgynnull ar gyfer cymdeithasau lleol. Yr institiwt yw rhan flaen y Neuadd Goffa a adeiladwyd yn gynnar yn y 1930au, un o'r neuaddau pentref gorau a adeiladwyd erioed. Nid oes dim gwell acwsteg i'w gael trwy'r wlad.

Mae'r lle rhwng y Neuadd Goffa a hen sinema'r Palas, sef Tafarn Paddy erbyn hyn, ar Heol Coalbrook wedi ei drawsnewid yn llwyr. Yn ystod yr ugeinfed ganrif yr oedd yno siop esgidiau, siop groser, siop flodau a siop melysion a elwid yn Ty'r Pownd a oedd yn gyfleus i fynychwyr y sinema, tra'r oedd y siop flodau, o'r enw Y Fronllan, yn gwerthu blodau ar gyfer pob achlysur. Mae'r ddwy hyn bellach wedi eu dymchwelyd i wneud lle i faes parcio gwir angenrheidiol.

Mae'r hen siop esgidiau a'r siop groser wedi newid eu swyddogaeth yn llwyr. Adweinid y siop esgidiau flynyddoedd yn ô1 fel y Boot Mart ac yma y ganwyd y Fonesig Amy Parry Williams. Mae trigolion hyn y pentref yn ei chofio'n ferch ifanc, sef Amy Thomas, yn actio yn y ddrama Gymraeg boblogaidd, Y Ferch o Gefn Ydfa', ar lwyfan y Neuadd Goffa. Menter Cwm Gwendraeth yw preswyliwr bywiog yr hen siop erbyn hyn, ac mae'r Fenter yn cynnig gwersi trin y cyfrifiadur yn y Cyber Caffi yn yr un adeilad.

Yn olaf, mae'r hen siop groser o'r enw Melias wedi bod ym meddiant llawer o wahanol fusnesau lleol, ond wedi dod i amlygrwydd cenedlaethol pan agorodd y diweddar Mario Lupi ei Gaffi Cynnes yno. Wedi marw Mario dirywiodd yr adeilad, ond, diolch i flaengarwch y Fenter, mae'n Gaffi Cynnes unwaith eto, gan gynnig bwyd blasus a man cyfarfod i gymdeithasu.

Cafwyd ymateb gwych gan Gyngor Cymuned Pontyberem, ceidwaid yr Institiwt a'r Neuadd Goffa, i gynnig gan un o'r aelodau, bod y tir lle safai'r Fronllan gynt yn cael ei lunio yn ardd goffa i gofio am y glowyr a gollodd eu bywydau yng nglofeydd Cwm Gwendraeth, yn enwedig y 26 a laddwyd yng Ngwaith Glo y Gwendraeth, Pontyberem ar y l0fed o Fai, 1852.

Ar y 10fed o Fai, 2002. union 150 o flynyddoedd ar ô1 y drychineb, agorwyd yr Ardd Goffa yn swyddogol. Dadorchuddiwyd dwy lechen goffa gydag enwau'r dynion a'r bechgyn a gollodd eu bywydau yn nhrychineb Gwaith Glo'r Gwendraeth wedi eu cerfio arnynt.O flaen y Neuadd Goffa a'r Institiwt mae dau biler o gerrig sydd yn haeddu sylw hefyd. Olion yw'r rhain o gyfnod Terfysgoedd Beca, 1839-1843 y chwaraeodd. trigolion Pontyberem ran mor flaenllaw ynddynt. Mae'r pileri yn union yr un ffurf ac uchder, a gellir gweld olion y colfachau arnynt. Yn ô1 y sôn nid yw'r pileri hyn yn perthyn i Bontyberem, ond eu bod yn wreiddiol ar un o'r ddwy glwyd ym Mancffosfelen yn ffinio ar Sgwâr Bancffosfelen. Mynn rhai hefyd bod y gwn maes Almaenig ynghyd â'i gerbyd, creiriau o'r Rhyfel Mawr 1914-18, a dderbyniwyd gan Gyngor Plwyf Pontyberem ym 1919 ar gyfer arddangosfa, wedi eu claddu o dan lawr Neuadd Goffa Pontyberem.

Donald Williams

Diolch i Gymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin am yr hawl i gyfieithu a chyhoeddir erthygl hon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý