Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Decharu gorymdaith Cynrychiolwyr y Gwledydd Celtaidd yn yr Wyl Ban Geltaidd yng Nghilkenny Taith Cantorion y Rhyd i Cil Channaigh
Mehefin 2002
Ar ôl y Pasg, aeth aelodau o Gantorion y Rhyd a ieuenctid Cantorion y Winllan i'r Wyl Ban Geltaidd.
Gwyl yw hon sy'n rhoi cyfle i'r Gwledydd Celtaidd - yr Alban, Ynys Manaw, Cymru, Yr Iwerddon, Cernyw a Llydaw i ddod at ei gilydd i gystadlu a mwynhau'r awyrgylch Geltaidd amlddiwylliannol ac amlieithog.

Yn y gorffennol mae'r wyl wedi cael ei chynnal mewn amryw o drefi yn Iwerddon fel Galway, Ennis, Killarney neu Tralee. Ond eleni cafodd ei chynnal yng Nghil Channaigh.

Noson agoriadol mewn castell
Cafodd noson agoriadol yr wyl ei chynnal yng nghastell Cil Channaigh ac yn nes ymlaen yn yr wythnos, cafwyd gorymdaith o gynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd trwy ganol y ddinas, gyda chorau o Gymru, dawnswyr o Gymru a'r Alban, ac offerynwyr o Iwerddon.

Gyda'r nos cafwyd cyngherddau anffurfiol gydag offerynwyr o Iwerddon ac acordwyr piano o'r Alban mewn sawl tafarn leol, a chafwyd diferyn neu ddau o Ginis yn y fargen.

Yn y gystadleuaeth Cân Pan Geltaidd daeth Elin Fflur, enillydd Cân i Gymru, yn fuddugol gyda'r gân Harbwr Diogel gyda chystadleuydd Cernyw yn dynn wrth ei sodlau.

Cyngerdd mawreddog
Nos Wener, cafodd Cantorion y Rhyd gyfle i ganu mewn cyngerdd mawreddog yng Nghadeirlan St. Candice. St. Candice ywr Eglwys fwyaf yn Iwerddon, gyda'r acwstics gorau yn Ewrop . Yn dilyn hyn aeth y côr i berfformio yng nghyngerdd Noson y Cymru yn un o westai'r ddinas. Un o uchafbwyntiau'r noson oedd i Jac a Catrin ganu hen gân werin gyda'i gilydd.

Y dydd Sadwrn canlynol bu'r côr yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Gorawl y Corau Gwledig. Ar ôl diwrnod o gystadlu, daeth y côr yn ail y ddwy gân oedd Gwanwyn Deyrn Llon a Cennin Aur.

Braf yw gallu dweud i'r daith fod yn llwyddiant ysgubol gan ei bod yn gyfrwng i dynnu pawb at ei gilydd. Cafodd ieuenctid Cantorion y Winllan gyfle i fwynhau eu hunain. Diolch i bawb a weithiodd i sicrhau cydweithrediad a llwyddiant y daith.

Edrychwn ymlaen yn awr at gystadlu yn yr Eisteddfod yn Nhyddewi ac am y daith i'r Amerig y Pasg nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý