Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Profiad Emlyn Dole
Mehefin 2004
Emlyn Dole sy'n sôn am ei brofiad o gyfansoddi'r gerddoriaeth i sioe pobl ifanc Cwm Gwnedraeth - Yn gymsysg oll i gyd.

Roedd hi'n noson oer pan gyfeiriais i drwyn y car i mewn i'r gwynt ac ymlwybro dros yr ychydig filltiroedd sydd yn gwahanu Pontyberem a phentref Crwbin.

Roedd hi'n oer hefyd a hithau yng nghanol y cyfnod annelwig yna pan fo'r Hydref yn dechrau ildio i'r gaeaf. Ymweld ag Arwel John oeddwn i, a hynny ar gais pwyllgor Undeb Cwm Gwendraeth, Os oedd hi'n oer y tu fas,, roedd croeso twymgalon gan Arwel a Meinir ac erbyn i mi adael roedden ni'n dau wedi cytuno y byddai ef yn llunio'r sgript a minnau'n cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer y cyflwyniad.

Fe gafodd Arwel Nadolig go fishi oherwydd yn driw i'w air, fe gyrhaeddodd y sgript ar fy nesg i erbyn diwedd Ionawr ac ynddi y deuddeg cân oedd angen cerddoriaeth ar eu cyfer. Y teitl a roddodd ar y gwaith oedd 'Yn gymyg oll i gyd', ac fel mae'r teitl yn awgrymu redd geiriau Arwel yn galw am amrywiaeth o gerddoriaeth o ran steil a diwyg ac fe gefais lawer o hwyl yn cyfansoddi dros y ddeufis nesaf.

Yn ôl ei arfer mae Arwel wedi cyflwyno gwaith sydd yn safonol, yn wreiddiol ac yn gyfoes ac un sydd yn codi pob math o emosiynau a chwestiynau.

'Dwi i ddim am ddatgelu mwy i chi oherwydd byddai hynny yn sbwylio'r cyfan i'r rhai ohonoch a fydd yn gallu ei fwynhau Nos Wener, Mehefin 18fed yn Neuadd Pontyberem.

Pan ddechreuodd y rihyrsals ym mis Mawrth daeth llond lle o blant a phobl ifanc yr Eglwysi at ei gilydd i ddechrau rihyrsio. Mae llawer ohonyn nhw eisoes yn perthyn i gwmni Drama ieuenctid Cwm Gwendraeth ac mae llawer o' Cwmni wedi ymuno â ni i'w pherfformio. Mae e wedi bod yn bleser cael bod yn rhan o'r broses a gweithio gyda'r bobol ifanc. Mae eu brwdfrydedd yn heintus. Mae na dîm helaeth ohonon mi yn cynorthwyo gyda'r cynhyrchiad a hynny o dan arweiniad Carys Edwards sydd yn cyfarwyddo'r sioe a Gwenda Owen sydd yn cyfarwyddo'r canu.

Wrth ysgrifennu hwn ar eich cyfer chi mae'r rihyrsio wedi cyrraedd y man lle mae'r cyfan yn dechrau dod at ei gilydd a'r glud theatraidd yn dechrau cydio'r cyfan yn ei gilydd er mwyn gwneud un cyfanwaith hyfryd. Mae na dipyn o waith ar ôl i'w wneud, ond erbyn nos Wener y 18fed bydd pawb a phopeth yn ei le, er mwyn rhoi noson gofiadwy iawn i bawb fydd yno. Byddwch chi'n gallu mynd â'r cyfan gartref gyda chi hefyd, gan ein bod yn paratoi Cryno ddisg o ganeuon y sioe a fydd ar werth ar y noson ac ar ôl hynny o Swyddfa Menter Cwm Gwendraeth. Edrychwn ymlaen i'ch gweld ar y noson .

Rhag ofn na fyddwch yn gallu bod yn bresennol, fe fyddwch yn gallu gweld y Sioe yn yr Eisteddfod, fe fyddwn yn ei pherfformio yn Theatr y Maes ar ddydd Sul cynta'r Eisteddfod ar Awst 1af am 1.00 o'r gloch.

Emlyn Dole.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý