Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Tîm buddugol Cwm Gwendraeth a enillodd y darian Y darian yn ôl yng nghwm Gwendraeth
Chwefror 2005
Mae'r Darian Sialens Ryng-Ranbarthol wedi dychwelyd i Gwm Gwendraeth ar ôl pedwar tymor yn dilyn buddugoliaeth o 31 pwynt i 7 yn erbyn Dyffryn Aman yn rownd derfynol y Darian Sialens yn y Ffwrnais.
Yn ôl Huw Daniels, cadeirydd Rhanbarth Llanelli: "Gwendraeth oedd y meistri yn y sgrym, gyda blaenwyr mwy cryf dan arweinyddiaeth Chris Cray, blaen-asgellwr Cydweli, yn gosod sylfaen i fuddugoliaeth ysgubol."

Dyffryn Aman gafodd y cyfle cyntaf i agor y sgorio ar ôl dim ond chwe munud, pan gafodd blaenwyr y Gwendraeth eu cosbi mewn ryc. Fodd bynnag, llithrodd cic gosb Matthew Ladd, maswr Penybanc, o dan y trawsbost.

O flaen tyrfa sylweddol yn mentro'r tywydd glawog, bu blaenwyr Cwm Gwendraeth yn pwyso'n gyson am gyfnod ac nid syndod pan wthiodd Richard Samuel, bachwr Trimsaran, ei ffordd drosodd am gais gynta'r gêm i roi ei dîm ar y blaen. Trosiodd ei frawd, y canolwr Matthew, a llwyddodd hefyd i drosi cais gyntaf wythwr Pontyberem, Delfryg Treharne, ddeg munud yn ddiweddarach. Atebodd Dyffryn Aman gyda chais Chris Davies, asgellwr Penybanc, a droswyd gan y maswr Matthew Ladd gan dorri'r bwlch i saith pwynt ar ôl yr egwyl.

Parhaodd blaenwyr Cwm Gwendraeth i feistroli yn yr ail hanner, a gwthiodd Delfyg Treharne drosodd am ei ail gais. Yna tro'r olwyr oedd hi wrth i wibiwr Pontyberem, Hefin Jones, groesi yn y cornel i wneud y sgôr yn 24 - 7.

Daeth cais ola'r gêm i Matthew Davies, mewnwr Cydweli, a chwaraeodd yn gyson dda drwy'r gêm Trosiodd Matthew Samuel gyda'i drydedd gic lwyddiannus i wneud y sgôr terfynol yn Cwm Gwendraeth 31, Dyffryn Aman, 7.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý