Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth yn perfformio 'Tra Bo Dau' yn 2006 Perfformiadau Theatr Ieuenctid
Ionawr 2007
Bu criw Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth yn brysur yn perfformio "Y Garol a'r Gair" ac yn recordio i Radio Cymru ar ddiwedd 2006.
(Llun: Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth yn perfformio 'Tra Bo Dau' yn 2006)

Ar nos Sul, Rhagfyr 3 yng Nghapel Caersalem yr oedd Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth yn perfformio oedfa Nadolig, 'Y Garol a'r Gair'. Yr oedd aelodau iau a hÅ·n y theatr wedi dod at ei gilydd er mwyn perfformio neges y Nadolig mewn modd traddodiadol a modern.

Caed amrywiaeth o ganu, adrodd, darlleniadau a storïau'r Geni; oll yn cynnwys elfennau o brofiadau plentyn bach yn ystod yr Ŵyl, i gofio am y rhai sy'n dal i ddioddef ac i drosglwyddo gwir ystyr y Nadolig - yr hyn yr ydym weithiau yn ei anghofio pan fyddwn yn pryderu am ein hanrhegion, y twrci a'r pwdin plwm!

Trefnwyd yr oedfa ar gyfer apêl Pwyllgor Llefaru Eisteddfod yr Urdd i godi arian i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gâr 2007 ac i sicrhau mwy o brofiadau o'r math hwn i'r bobl ifainc. Rydym yn ffodus iawn fel theatr ieuenctid i gael pobl broffesiynol yn cyfarwyddo ac yn gweithio i'r eithaf i gynhyrchu ein sioeau. Mae'r diolch hynny yn mynd i gyfarwyddwr artistig y theatr, sef Carys Edwards, y cyfarwyddwr cerdd, Gwenda Owen, ac i gyfarwyddwr y theatr iau, Catrin Rees. Hefyd gwerthfawrogwn waith caled y band, a hefyd Emlyn Dole am ei arbenigrwydd yn y cyfansoddi!

Braf oedd gweld nifer o blant y Cwm yn cyd-weithio mor effeithiol a phroffesiynol. Bu amrywiaeth yn oedrannau'r perfformwyr - o'r ysgolion cynradd i fyny at ddosbarth y chweched yn yr ysgolion uwchradd ac roedd y safon yn uchel iawn! Rydym yn ffodus iawn eto i gael pobl ifanc o'r fath yma yng Nghwm Gwendraeth.

Wedi oedfa'r Nadolig, gofynnodd Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru Bangor i Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth i gymeryd rhan yn oedfa Nadolig y radio ar fore Sul, Rhagfyr 10fed gyda'r Parchedig Emlyn Dole. Canwyd sawl cân allan o Oedfa'r Nadolig, a bu sawl darlleniad gan yr aelodau am eni'r Iesu.

Profiad anhygoel oedd hyn i'r aelodau, oherwydd rhoddwyd blas iddynt ar waith y cyfryngau, a hefyd roedd yn gyffro mawr i glywed eu hunain ar Radio Cymru.

gan Emma Weston, Menter Cwm Gwendraeth


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý