Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Lee Williams Pontyberem Seren y dyfodol - Lee Williams Pontyberem
Chwefror 2004
Gyda phencampwriaeth unigryw y chwe gwlad newydd ddechrau fe fydd nifer o chwaraewyr ifanc a dawnus y bêl hirgron yn chwarae eu rhan hwy yn y bencampwriaeth sy'n addas at eu hoedran.

Un o'r chwaraewyr talentog hynny sydd yn gwneud enw iddo'i hun ac ynte dim ond yn ddwy ar bymtheg oed yw Lee Williams o Bentyberem. I ddweud y gwir cymaint yw'r galw am ei ddawn ar y cae rygbi prin iawn yw ei amser sbâr.

Mae Lee yn aelod o garfan 'elite' Cymru. Carfan yw hon sydd yn adnabod talent arbennig ar y cae rygbi ac yn rhoi help a chefnogaeth arbennig iddynt trwy roi'r cyfle gorau posib iddyn nhw i gyrraedd y brig. Ond nid yr elite' yn unig sydd angen Lee i roi ei amser prin i, o na mae yn aelod o dîm hŷn Ysgol Maes Yr Yrfa, tîm ieuenctid Pontyberem a charfan dan 18 oed rhanbarthol Llanelli.

Mae'r hyn oll yn golygu fod Lee yn gorfod ymarfer o leiaf saith gwaith yr wythnos a dwy waith y dydd ar ambell ddiwrnod. Ond mae un peth yn bendant, bydd hyn yn siŵr o dalu ffordd i'r crwtyn ifanc talentog a chwrtais yma. Pob lwc yn y dyfodol.

Nigel Owens

Dyma atebion Lee Williams i holiadur Papur Y Cwm :

Enw: Lee Williams, Pontyberem
Dyddiad a man geni: 27-10-86, yn y car ar y ffordd i Glangwili
Lle cawsoch eich magu: Pontyberem
Hoff Chwaraeon: Rygbi a Phêl-droed
Addysg: Ysgol Gynradd Pontyberem ac Ysgol Gyfun Maes Yr Yrfa
Cefndir personol: Mae gen i un brawd hÅ·n, Adrian, ag enw'n fam yw Maggs a 'nhad Huw
Hoff Gerddoriaeth: Tamaid bath o bopeth
Hoff berson: Alan Smith a Shane Williams
Hoff dîm rygbi a phêl-droed: Llanelli a Leeds United
Caru: Na, neb ar hyn o bryd
Hoff Raglen Teledu: Hoff o wylio 'Neighbours', 'Ö÷²¥´óÐã and Away', 'Eastenders' a 'Premiership'
Hoff Ffilm: Remember The Titans
Hoff Fwyd: Pasta a Chyw Iâr
Cas Bethau: Pobl sydd ddim yn hoff o'r Nadolig a chwaraeon
Hoff Bethau: Chwaraeon wrth gwrs a gwylio ffilmiau a chwarae 'Play Station 2'
Diddordebau: Hoff o chwarae pêl-droed, 'Play Station 2' a mynd allan efo ffrindiau
Eiliadau gorau eich bywyd: Cael fy newis i chwarae i dîm rygbi ysgolion Cymru o dan 16 oed ac ennill 4 cap a sgorio dau gais yn erbyn Lloegr a'r Eidal
Eiliadau gwaetha' eich bywyd: Colli yn erbyn Lloegr yn y gêm i ffwrdd yn Plymouth
Uchelgais ym myd chwaraeon: Chwarae rygbi yn broffesiynol a chael fy newis i chwarae dros fy ngwlad
Uchelgais Bywyd: Cwblhau fy addysg lefel A yn llwyddiannus a mynd i ddilyn cwrs yn UWIC Caerdydd
Pentref y Cwm yr hoffech fyw ynddo: Pontyberem
Pwy yw eich ffrind / ffrindiau gorau: Bois rygbi tîmau ieuenctid Pontyberem a Maes Yr Yrfa
Beth yw eich barn chi ar eich hoff chwaraeon: Fe ddyle fod mwy o amser i chwaraeon ar Gwricwlwm yr Ysgol ond eto rhaid cofio bod astudio yn bwysig.
A ydych yn prynu Papur Y Cwm?: Ambell Waith


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý