Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Nigel Owens yn lansio'i hunangofiant Hanner Amser - Y digrif a'r difrifol
Ionawr 2009
Daeth nifer o sêr o'r byd rygbi at ei gilydd ar gyfer lansiad hunangofiant y dyfarnwr, Nigel Owens.

Mae'n debyg fod sawl un ohonom wedi cadw dyddiadur fel cofnod o deimladau a digwyddiadau yr ydym wedi eu profi dros y blynyddoedd. Ac wrth edrych yn ôl drwy dudalennau ein bywyd, sawl un ohonom sydd wedi rhoi ochenaid o ryddhad o wybod mai ar gyfer ein llygaid ni'n unig y mae'r cofnodion hyn?

Un dewr ar y naw felly fyddai'n cytuno i rannu ei brofiadau gyda gweddill y genedl, yn enwedig pan fo rhai o'r profiadau hynny yn rai ingol iawn.

Ond, dyna'n union mae'r dyfarnwr rygbi rhyngwladol a'r digrifwr adnabyddus, Nigel Owens wedi penderfynu ei wneud wrth i'w hunangofiant 'Hanner Amser' gael ei gyhoeddi gan wasg Y Lolfa.

"Bues i'n meddwl am y peth yn hir, os o'n i moyn gwneud y llyfr a dweud y gwir, achos unwaith y'ch chi wedi gwneud un, ma' pawb yn gwybod bob dim am eich bywyd chi," meddai Nigel, a ddaw'n wreiddiol o Fynyddcerrig, ond sydd bellach yn byw ym Mhontyberem.

"Ro'n i'n gwybod o siarad am fy mhrofiadau personol o'r blaen 'mod i wedi helpu rhai pobol. Felly wedi meddwl am y peth am sbel, ro'n i'n meddwl falle y byddai sgwennu hwn yn helpu pobol sy'n wynebu'r un probleme a nes i."

Mae'r problemau hyn yn cynnwys ei frwydr gyda bwlimia, steroids, a'i benderfyniad i gyhoeddi'n gyhoeddus ei fod yn hoyw a'r modd y gwthiodd y problemau hyn Nigel i'r eithaf.

Mae'r gyfrol yn dilyn Nigel o'i ddyddiau cynnar yng Nghwm Gwendraeth gyda'i fryd ar fod yn ffermwr, drwy ei ddyddiau yn yr ysgol pan wnaeth cic wael ar y cae rygbi ei ysgogi i ddyfarnu yn hytrach na dilyn gyrfa fel chwaraewr. Cawn hefyd brofi ei ddycnwch a'i ddyfalbarhad wrth iddo ddringo'r ysgol ddyfarnu nes cyrraedd safon broffesiynol a dod yn un o brif ddyfarnwyr y byd.

Yng nghanol hanes ei fagwraeth, ei yrfa a'i ddiddordebau mae'r gyfrol yn frith o straeon doniol a difyr am brofiadau y mae Nigel wedi dod ar eu traws ar hyd a lled y byd. Fel pan fu bron iddo gwffio gyda rhai o aelodau blaenllaw'r IRA, pan fu'n sgwrsio gyda Sven-Goran Eriksson ar awyren a'r modd y mae nifer yn drysu rhyngddo ef a Jonathan Davies.

Yn wr a dylanwad awdurdodol ar y maes, gan sicrhau fod pob chwaraewr yn glynu wrth y rheolau, cawn yn y gyfrol hon adnabod y bachgen ifanc drygionus, na fu ei hun yn un i ddilyn y rheolau pob tro. Cawn ddod i adnabod Nigel Owens y bachgen fu'n dynwared ac yn tynnu coes athrawon yn yr ysgol, a'r gwr sy'n mwynhau difyrru cynulleidfa.

"Fe ddechreuais i ddynwared Ifan Gruffydd pan o'n i'n bedair ar ddeg ac roedd comedi yn dod yn eitha' naturiol i mi gan fod yr aelwyd yn un eitha' humourous a ro'n i'n byw mewn ardal a oedd yn llawn o gymeriadau cefn gwlad," eglurai Nigel, sydd wedi ymddangos ar lwyfan y Noson Lawen sawl gwaith, yn ogystal â chyfres Jocars ar S4C.

Ond mae'n debyg fod y rhan fwyaf yn ei adnabod fel y cyflwynydd y mae tri arall wastad yn tynnu ei goes ar raglen Jonathan ac yn ddiweddar, 'Bwrw'r Bar'.

Mae'r rhaglenni hyn wedi rhoi'r cyfle i Nigel gyfuno dwy elfen bwysig yn ei fywyd, sef rygbi a chomedi. Er ei fod yn adnabyddus yn y ddau faes erbyn hyn, mae'r gyfrol hon yn rhoi'r cyfle i ni ddod i adnabod y gwr tu ôl i'r chwiban ar y maes, a'r jôcs ar y sgrin a'r llwyfan.

Mae 'Hanner Amser', sy'n deitl a awgrymwyd gan Gwyn Elfyn sy'n chwarae rhan Denzil yn 'Pobol y Cwm' wedi i Nigel ofyn am gymorth ei ffrindiau ar wefan Facebook i enwi'r llyfr yn gyfrol onest a didwyll ac yn gofnod o'r llon a'r lleddf, yr uchel a'r iselfannau a'r digrif a'r difrifol.

"Ro'n i wedi penderfynu o'r dechrau 'mod i'n mynd i fod yn onest yn y llyfr, doedd yna ddim pwynt i mi beidio â bod, gan fod rhai pobl yn gwybod amdanyn nhw yn barod - yr holl fusnes o fod yn hoyw a cheisio cymryd bywyd 'yn hunan - ac os na fyddwn i'n sôn am y pethau yma yn y llyfr, yna bydde pobl yn meddwl nad ydy hwn yn hunangofiant go iawn," eglurai Nigel.

Yn sicr yma, mae Nigel wedi cyflawni'r hyn oedd wedi bwriadu ei wneud, sef creu 'hunangofiant go iawn' wrth i'r tudalennau fyrlymu o'r hiwmor a'r cynhesrwydd a'i wnaeth yn un o'r cymeriadau mwyaf poblogaidd ar lwyfannau a meysydd rygbi trwy Gymru a thu hwnt.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý