Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Golygfa o'r sioe gerdd <i>Dal Ein Tir</i> Ail-fyw'r frwydr
Hydref 2002
Aeth deugain mlynedd heibio bellach ers brwydro maith pobol Llangyndeyrn yn erbyn boddi Cwm Gwendraeth Fach.
Ar y pryd, cafodd yr ymdrech honno gryn sylw yn y wasg a'r cyfryngau a chafodd y rhai a'i hymladdodd hi lawer o gefnogaeth oherwydd eu safiad yn erbyn Awdurdodau Abertawe.

Bryd hynny, roedd pobol Llangyndeyrn yn ymladd i gadw eu ffordd o fyw. Pe bai'r cynlluniau i greu cronfa ddwr ar ddechrau chwedegau'r ganrif ddiwethaf wedi eu gwireddu, yna byddai ardal Llangyndeyrn wedi ei gweddnewid am byth.

Erbyn hyn, wrth gwrs, mae bywyd wedi symud ymlaen wedi'r fuddugoliaeth honno, ond nid yw hynny'n golygu fod y peryglon i ffordd o fyw yr ardal wedi eu dileu.

Yn wir, peryglon gwahanol sy'n bygwth y fro erbyn hyn. O gael gwared ar fygythiad y dwr, ton o fewnfudwyr sy'n achosi gofid i'r ardalwyr erbyn hyn.

Fel mewn llawer man arall ledled Cymru, mae'r ifanc yn gorfod symud i'r dinasoedd poblog i weithio ac mae'r dyfodol yn dywyll i ardal a fu unwaith yn un o'r Cymreiciaf yng Nghymru.

Ond nid yw'r dyfodol heb lygedyn o obaith ar y gorwel chwaith. Prawf o hynny yw'r ffaith fod cynifer o ieuenctid Cwm Gwendraeth wedi dewis ail-fyw'r frwydr ar lwyfan, a hynny yn y sioe gerdd Dal Ein Tir gan geisio ennill cefnogaeth yn erbyn y bygythiadau newydd.

Mewn undod mae nerth.




0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý