Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Arwr lleol yn serennu ar lwyfan y West End
Mawrth 2009
Mae disgyblion yn Ysgol Maes yr Yrfa wedi bod i Lundain i weld Gwion Jones yn chwarae rhan Oliver Twist yn y sioe gerdd Oliver!

Yn gynnar ar yr unfed ar ddeg o Chwefror, cychwynnodd rhai o ddisgyblion Maes yr Yrfa ar daith i Lundain er mwyn gweld perfformiad Gwion o'r sioe gerdd 'Oliver!'. Cyrhaeddon yn Llundain am tua hanner awr wedi unarddeg a chael cyfle i grwydro 'Covent Garden'.

Fe wnaethom ymgynnull am hanner awr wedi un er mwyn cerdded i theatr Royal Drury Lane i weld perfformiad matinée o 'Oliver!'. Roedd y llen i fyny a phawb yn gyffrous wrth weld tua chant o blant wedi'u gwisgo fel plant amddifad yn cerdded i'r llwyfan, wrth ganu 'Food Glorious Food' - roedd yr awyrgylch yn rhagorol.

Ar ôl golygfeydd arbennig, daeth Gwion (Oliver) i'r llwyfan ac roedd pawb yn gweiddi a sgrechian. Cyn hir, tro Rowan Atkinson a oedd yn actio Fagin ydoedd i ymddangos. Cafodd gymeradwyaeth wrth gerdded i'r llwyfan.

Yna, sgipiodd Nancy (Jodie Prenger) i'r llwyfan gan ganu.

Wrth i'r sioe ddod i ben a phawb yn cymeradwyo, aethon ni i gyd i ddrws y llwyfan er mwyn llongyfarch Gwion. Syrpreis hyfryd oedd gweld Jodie Prenger yno hefyd, a buom yn ddigon ffodus i gael ei llofnod. Yn anffodus, bu'n rhaid i ni adael Llundain wedyn er mwyn cychwyn ar ein taith nôl i Faes yr Yrfa. Diwrnod i'w gofio!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý