Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Aderyn I Uno yn yr Anthem
Ebrill 2003
Ers ymddeol, profiad anarferol iawn i mi yw codi cyn toriad gwawr - ac eithrio bore'r Nadolig pan godaf cyn chwech er mwyn mynychu oedfa'r Plygain yn eglwys y plwyf.

Ar fore'r Nadolig diwethaf, mi gefais brofiad arbennig iawn wrth gerdded o'm cartref tua'r llan. Gellid teimlo'r tawelwch bron, fel petai'r byd heb ddihuno i rialtwch a dwndwr gwyl sydd bellach wedi troi yn ddiystyr a seciwlar i'r rhan fwyaf.

Yn sydyn, torrwyd ar draws y distawrwydd dwys gan drydar un aderyn bach yn dechrau canu. Ymunodd un arall ac un arall yn y gân nes yr oedd yr awyr yn atseinio gan gorws y wawr. Sefais yn llonydd i wrando ar swn anghymarol o brydferth wrth i'r adar foliannu eu Crewr a gaed yn y crud.

Daeth pennill o emyn a ddysgais yn blentyn, yn ôl i'm cof :

Yr adar bach sy'n canu
Yn swynol ar y coed,
Canmolant gariad Iesu
Y gorau fu erioed.
Telynau bychain ydynt
I lonni'r galon drist,
'Does allu i ddistewi
Eu cân o fawl i Grist.
Telynau bychain Iesu
Âu sain yn cyrraedd nef
I uno yn yr anthem
O foliant iddo Ef.

Erbyn hyn mae'r Nadolig wedi hen fynd heibio ac mae geiriau a welir yng Nghaniad Solomon yn briodol iawn. Canys wele y gaeaf a aeth heibio ... Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad.'

Mae gan ddynion achos da i ganu hefyd. Mae'r gwanwyn yn amser i ni ganu coedydd ein Crewr am fod oerni'r gaeaf wedi mynd heibio a gwelwn brydferthwch lliw a llun y blodau ar y ddaear. Ond yn fwy na hyn, mae'r gwanwyn yn dymor yr Atgyfodiad, a thestun gorfoleddus ein cân yw buddugoliaeth ein Gwaredwr dros angau a'r bedd. Ffaith hanesyddol sydd yn dwyn cân dragwyddol i bwy bynnag a gredo ynddo Ef.

Cofiwch am esiampl yr adar bach! Telynau bychain Iesu â'u sain yn cyrraedd nef. Dewch gyda ni â chroeso i uno yn yr anthem o foliant iddo Ef!

Pat Turner


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý