Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Iwan Rhys Eleni Mewn Englynion
Chwefror 2009
Mae'r bardd ifanc o Gwm Gwendraeth, Iwan Rhys wedi cadw cofnod o'i fywyd am flwyddyn ar ffurf englynion.

Faint ohonoch chi sy'n cadw dyddiadur o ryw fath? Mae 'na rai sy'n sgrifennu'n fanwl am bob digwyddiad - rhywbeth personol fel arfer. Mae eraill wedyn sy'n cadw rhyw ddyddiadur bras o ambell i beth pwysig yn eu bywyd neu'r ardal, neu falle'n genedlaethol.

Wel, mae 'na un gwr ifanc o Borthyrhyd wedi cadw dyddiadur am flwyddyn gron mewn ffordd dra gwahanol. Gan ddechrau adeg Steddfod yr Urdd, Caerfyrddin 2007, bu Iwan Rhys yn sgrifennu englyn bob dydd am flwyddyn gan orffen adeg Steddfod yr Urdd Conwy 2008. Roedd yn gyd-ddigwyddiad rhyfedd iddo ennill y gadair yn yr eisteddfod honno.

Bu'n sgrifennu englynion am bethau personol a theuluol, y fro, yn genedlaethol a byd eang. Felly, mae 'na groes-doriad neu gymysgwch o dipyn o bopeth wedi ei groniclo ganddo yn ystod y flwyddyn.

Dyma lyfr bach defnyddiol iawn i gadw wrth ochr y gwely, a'i roi lawr yn rhwydd. Gallwch ofyn - "sgwn i beth ddigwyddodd ar y dyddiad arbennig yma? Byddai'n ddiddorol ffindo mas".

Gan fod Angharad, gwraig Iwan, yn gweithio i Gymorth Cristnogol, penderfynodd Iwan y byddai unrhyw elw a wnâi ef yn bersonol yn cael mynd tuag at Gymorth Cristnogol. Felly os am awr neu ddwy o fwynhau darllen a helpu achos da'r un pryd, pam na phrynwch chi'r llyfr, 'Eleni Mewn Englynion' gan Iwan Rhys o Borthyrhyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý