主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Teulu Dewr a Mentrus
Haf 2006
A wyddoch chi am y teulu dewr a mentrus yn Nrefach?
Mae'n si诺r fod rhywbeth yn y genynnau. Mentrodd un ohonynt i fyw am flwyddyn mewn gwlad llawn pumas a chreaduriaid pigog eraill ond nawr mae hen famgu ac wyres o'r un teulu wedi bod yn ei mentro hi yn ystod y mis a aeth heibio hefyd.

Efallai i rai ohonoch gofio bod Ruth Davies, 1 Brynheulog, Heol Capel Seion wedi dangos tipyn o fenter ar y maes rygbi pan oedd hi'n cynrychioli Cymru yn nh卯m cenedlaethol y merched tra roedd hi'n ddisgybl ym Maes Yr Yrfa. Ers hynny mae wedi bod i ffwrdd yn y Brifysgol ac wedi cael amser digon pryderus gan bod ei mam, Susanne, wedi cael blynyddoedd digon caled yn ystod y cyfnod hynny yn ymladd yn ddewr ac yn dawel yn erbyn yr hen gancr. Rydym yn falch i weld fod Susanne wedi gwella erbyn hyn er ei bod wedi cael cyfnodau hir o driniaeth caled iawn gan ymweld yn gyson ag Ysbyty'r Waun yng Nghaerdydd ac mae'n dal 芒 chysylltiad agos a Chanolfan Ddyddiol T欧 Bryngwyn, Llanelli.

Teimlodd Ruth yr hoffai wneud rhywbeth gwahanol i godi arian i ddiolch i'r uchod am eu gofal caredig ac arbennig iawn o'i mam. Wel dyw hi ddim yn gallu canu'n rhy dda, na dawnsio'r Tango a galle hi ddim chwarae gem rygbi ar ei phen ei hun felly beth amdani? Teimlodd bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth a fyddai'n helpu eraill neu a fyddai'n anodd iawn i'w wneud fel bod pobl yn teimlo ei hangerdd. Gan bod ganddi wallt trwchus a chryf a'i bod yn cofio sut oedd ei mam yn teimlo pan gollodd ei gwallt oherwydd y driniaeth fe benderfynodd siafio ei gwallt i ffwrdd. Rydych chi ddynion erbyn hyn, fel ni'r merched, yn gwario llawer o arian ac amser yn trin a thrafod eich gwallt ac felly bydd pawb yn deall mai anodd oedd cael gwared o'r `crowning glory', ond dyna a wnaeth.

Nos Sadwrn, Mehefin y 3ydd yn `Y Bridj' (Gwendraeth Arms), Cwm Mawr fe dorrwyd ac yna siafiwyd gwallt Ruth. Roedd gweld ei merch yn gwneud hyn yn anodd iawn i Susanne a gweddill y teulu ond ar 么 gweld y canlyniad roedd llawer yn teimlo'n eithaf eiddigeddus o Ruth gan ei bod yn edrych yn bertach na'r rhan fwyaf ohonom hyd yn oed AR 脭L iddi safio ei gwallt.

Hyd yn hyn mae'r weithred wedi dod 芒 dros bymtheg cant o bunnoedd i mewn i'r gronfa fydd yn cael ei rhannu rhwng Canolfan Gofal Dyddiol T欧 Bryngwyn, Llanelli ac uned gwaed (Haemotology), Ysbyty'r Waun, Prifysgol Cymru, Caerdydd. Hoffai Susanne a Geraint, mam a thad Ruth, a'r holl deulu ddiolch i bawb o'r teulu, ffrindiau, cymdogion a'r gymuned sydd wedi cefnogi eu hymdrechion i godi'r arian y tro hwn ac ar adegau eraill dros y blynyddoedd diwethaf. Petai rhywun am gyfrannu ymhellach gallwch gysylltu 芒 Ruth neu Susanne ar 01269 841419, Diolch yn fawr.

Petai clywed am Ruth ddim yn ddigon i godi gwallt eich pen darllenwch ymlaen i glywed beth mae ei mamgu wedi ei wneud yn ddiweddar. Dau ddiwrnod cyn i Ruth dorri ei gwallt roedd ei mamgu, Mrs. Margaret Davies, 6 Brynglas, Drefach wedi gofyn iddi fynd draw er mwyn iddi gael rhoi'r arian roedd wedi eu casglu oddi wrth ei ffrindiau ym Mrynglas ond dyma neges ff么n yn dod i Ruth: "Paid 芒 dod draw heddiw rwy'n mynd i hedfan!"

Oes rhywbeth tipyn bach yn anarferol am hynny meddech chi? Wel gan gofio bod Mrs. Davies yn 83 mlwydd oed a heb fod yn agos i awyren erioed gallwch weld cymaint o sioc oedd clywed y neges honno. Ond fel y dywedais mae'n rhaid bod mentro yn y gwaed. Wedi gweld ei merch yn hedfan mewn awyren fach mis yn gynt roedd chwilfrydedd Mrs. Davies wedi codi ac roedd eisiau gweld sut brofiad oedd e. Gan bod ei merch wedi dod 'n么l i'r ddaear yn ddigon diogel ac yn hapus dros ben dyma Margaret Hannah Davies yn mentro i'r awyr am y tro cyntaf yn ei bywyd yn 83 oed.

Yn y llun gwelwn Margaret gyda'i pheilot funudau ar 么l glanio. Bu yn yr awyren am tua 20 munud yn gweld Doc Penfro. Abergwaun a Th欧 Ddewi o'r awyr. "Roeddwn i wastad eisiau gwybod beth oedd e fel i hedfan", Meddai Mrs. Davies, "ond pan ofynnodd y dyn bath neis i fi os oeddwn am drio'r `controls' o ni'n meddwl well i fi beidio a neud 'ny rhag ofan y bydden ni'n woblan yn yr awyr," meddai hi. Hoffai gymryd y cyfle yma i ddiolch i Howard Owen, Foelgastell (Bysys Gwenval gynt) am y cyfle o gael y profiad byth gofiadwy o hedfan ac am iddo roi benthyg ei awyren newydd sbon iddi wneud hynny!

Mae dod yn henfamgu ers mis Ionawr wedi gwneud rhywbeth i Margaret Davies! Clywyd hi'n dweud wrth ei chwaer y prynhawn hwnnw wrth wylio cwch yn mynd heibio i farina Neyland ei bod wastad wedi ffansio SG脧O AR Y D糯R! Pwy sy'n dweud mai am 40 oed mae bywyd yn dechrau!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy