Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Adolygiad o'r gyfrol 'Y Tymbl Ddoe a Heddiw'
Ionawr 2004
Calennig arbennig. Llyfr dros gant o dudalennau yn cynnwys dros ddau gant o luniau du a gwyn yn bennaf, yn portreadu hanes pentre'r Tymbl.

Ar y clawr a'r cefn, ceir lluniau o ganolfannau'r pentref, sgwâr top Tymbl a High Street fel ag yr oeddynt ddoe, gyda llun lliw cyfredol wedi ei arosod ar ei ben.

Cyhoeddwyd y gyfrol gynhwysfawr hon gan 'Cyfle i bawb', Tymbl. sef nifer o bobl lleol sy'n cwrdd yn rheolaidd yng Nghlwb y Gweithwyr i gynnal a threfnu gweithgareddau cymdeithasol yn y fro. Argraffwyd gan Wasg CMS, Capel Hendre. Cydnabyddir cefnogaeth a chyfraniadau pobl leol, ynghyd â chyfraniad hael gan Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo.

Ychydig o waith darllen a geir, gan fod y lluniau yn siarad drostynt eu hunain. Cyfeirir ar y dechrau at gysylltiad Jac Tyisha a'r pentref. Dosrennir y lluniau i wahanol destunau megis y diwydiant glo, ffordd o fyw, diwydiant addoldai, a.y.y.b.

Ceir erthygl gan Alun B. Jones am hoelen olaf yn y diwydiant glo, ond fe galonogir calon y darllenydd yn fuan o weld bod y bobl sy wedi sefydlu'r lle wedi codi o'r llwch, wedi anghofio am y dirwasgiad o'r pyllau'n cau ac yn wynebu'r dyfodol yn hyderus. Ceir datganiadau gan rai o feirdd yr ardal; Lilian Rees yn canu yn fanwl am hanes y Tymbl; Emyr Wyn Thomas yn cyflwyno baled er cof am Elizabeth Mary Aitken, yn portreadu ei gweledigaeth a'i phrofiadau hi o fywyd yn y Tymbl. I gloi, telyneg fach dlos gan Meryl Evans yn edrych ymlaen i'r dyfodol.

Mae'r holl luniau wedi eu trefnu yn gelfydd a chryno iawn, ac yn portreadu pob agwedd o fywyd y pentre, ac o ddiddordeb i bawb. Mae diolch yn ddyledus i Mr. Ian Aitken a Mr. Graham Jones am eu gwaith manwl a chywir.

Rhaid cofio hefyd am Mona Jones ac Alvis Richards a fu'n llywio'r holl brosiect. £5 yw ei bris; bargen os bu un erioed, os gellwch ei gael. Mae'n debyg bod mynd mawr arno'n barod. Brysiwch i'r siopau da chi - mae'r ail argraffiad yn awr ar werth!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý