Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Criw y Chweched Taith y Chweched i Baris
Mehefin 2003
Aeth criw o ddisgyblion y chweched dosbarth o ysgol Maes Yr Yrfa ar drip i Baris yn ddiweddar ...
Bellach mae taith yr Adran Ddaearyddiaeth bob yn ail flwyddyn i Baris wedi ennill ei lle ar galendr yr ysgol. Eleni, rhaid fu aros tan Ddydd Mawrth hanner tymor Chwefror cyn cychwyn am brifddinas Ffrainc, er mwyn i Rhian gyrraedd nôl o wylio'r gêm rygbi yn yr Eidal. Meddyliwch, man a man ein bod wedi mynd ar y Dydd Sadwrn! Er, fe sgoriodd Dwayne Peel (Daearyddwr o fri) gais ar ddiwedd y gêm dorcalonnus honno.

Wedi cyrraedd Paris mawr fu siom y bechgyn wrth sylweddoli nad oeddynt yn aros yn yr un gwesty â'r merched ar y noson gyntaf. Ond buan iawn y daeth Aled dros y siom wrth iddo ddod o hyd i ferched Americanaidd pert i'w cysuro. Aeth ein diwrnod cyntaf ym Mharis yn unswydd i werthfawrogi holl atyniadau 'Disneyland Resort Paris'. Mae'n rhyfedd sut roedd y criw yn ddigon amyneddgar i aros mewn ciw am dros ddwy awr er mwyn cyrraedd entrychion Space Mountain', Indiana Jones and the Temple of Doom' a Thunder Mountain'. Daeth Aliens' i gipio Miss Bellamy a'i denu unwaith yn rhagor i brofi gwefr taith ar long-ofod Star Wars'. Cyrhaeddodd Mrs. Lewis a Mrs. Hans Arizona a'r Mississippi! (Pa fath o athrawon Daearyddiaeth yw'r rhain tybed?)

Y noswaith honno pawb am y cyntaf i gerdded i fyny'r Champs Elysees at yr Arc de Triomphe oedd hi. Fe ffeindion ni'r Arlywydd Mugabe a'i 'entourage' enfawr a'i fyddin o amddiffynwyr Ffrengig heb unrhyw broblem - OND ble'r oedd Mair, Emily a Menna tybed? Mae'n debyg fod gan Frenin Siôr y pumed rywbeth i'w wneud â'u diflaniad byr! Yng nghanol holl fwrlwm un o heolydd mwyaf prysur a byrlymus y byd, beth aeth â bryd Rhys - neb llai na Rocky, neu'n hytrach Sylvester Stallone yn Planet Hollywood'.

Gwibdeithiau i sawl cyrchfan dwristaidd Paris oedd ar yr amserlen ar Ddydd Iau. "Tamed bath yn frwnt on' dyw e?" oedd sylw Keith am Ganolfan Gelfyddydau George Pompidou, tra rhyfeddodd y criw cyfan at gampwaith ffenestri lliw Eglwys Gadeiriol Notre Dame. Cafwyd awr fach o hoe ar ôl cinio, ond nid cyn i Tomos orfod talu £1.80 am wydryn bach o ddwr tap! Doedd e ddim hyd yn oed wedi ei archebu chwaith.

Sglefrio iâ fu'r dull o ymlacio gydag ambell i Torvill a Dean yn gwibio heibio a phob un ohonyn nhw o Faes Yr Yrfa. Roedd Hefin yn rhwystredig iawn gan i'w goes ei atal rhag ymuno yn yr hwyl. Fodd bynnag fe wellodd ei sgiliau fel ffotograffydd yn ystod y cyfnod. A diolch byth roedd Angharad yn rhy brysur yn perffeithio'i Triple Salco' fel ei bod wedi rhoi seibiant i'w chamera. Twr Eiffel oedd yr atyniad nesaf ac roedd pawb wedi rhyfeddu at y golygfeydd bendigedig o'r Troisieme Etage'. Er dydyn ni ddim yn siwr i ba etage gyrhaeddodd Hannah a Luticia. A phwy gerddodd lawr y grisiau go iawn?

Am ddeuddeg y noson honno dathlwyd penblwydd Edward wrth i fand Gwyddelig gymryd cwpl o funudau o'u set o ganeuon i chwarae a chanu Penblwydd Hapus' yn GYMRAEG iddo. Ar y bore olaf y Bateaux Mouches' oedd ein man cychwyn. Roedd PAWB gan gynnwys yr athrawon wedi blino'n lân. Doedd dim hyd yn oed y 'Statue of Liberty' gwreiddiol yn gallu eu bywiogi. Roedd y daith lan i Eglwys Gadeiriol Sacre Coeur yn un llawn cyffro gyda Keith yn cael ei 'cono' i dalu £5 am freichled Affricanaidd draddodiadol tra talodd Hefin £1 am yr union freichled.

Cael a chael oedd hi i grafu digon o arian mân i brynu dau carnet' i'n tywys yn ôl i'r 'Gare du Nord' ond didrafferth fu'r daith yn ôl i Gymru fach yn enwedig i Edward gan iddo dderbyn potel o siampên gorau Ffrainc a gwydryn i gofio'i benblwydd arbennig. Gobeithio y bydd pob un o'r teithwyr yn cofio'r daith gydag atgofion melys.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý