Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sue Roderick, Dyfan Roberts a Valmai JonesActus Reus - adolygiad
Gor goractio - os oes y fath beth!
Dau adolygiad o'r Bara Caws diweddaraf
  • Adolygiad Rhodri Ll Evans o Actus Reus gan Valmai Jones. Bara Caws. Tachwedd 2006.


  • Gellir clicio i adolygiad arall ar waelod y ddalen

    Roedd llofruddiaeth yn y gwynt yn Neuadd Goffa Amlwch wrth i'r neuadd lawn ddisgwyl yn eiddgar am berfformiad diweddaraf Bara Caws, Actus Reus gan Valmai Jones gyda Tony Llywelyn yn cyfarwyddo.

    Nrewid byd
    Mae Magi Bowen (Valmai Jones) yn actores sydd bellach wedi cyfnewid byd y llwyfan am westy Ash Hall (da ŵan...) ym Mhen Llŷn.

    Yn ei helpu (dadleuol), y mae Beenie Stokes (Maldwyn John), rhyw gr'adur diniwed Manuel-aidd sydd ag obsesiwn â George Formby.

    Â'r mags braidd yn dynn, mae Magi yn gwahodd Henryd P. Rowlands (Dyfan Roberts) a'i bladras o wraig, Dame Elenora Pritchard OBE (Sue Roderick) i gynnal Murder Mystery Weekend ger bron twristiaid o Lerpwl - perfformiad o Death of a Diva Henryd.

    Yn rhan o'r 'cast' y mae Richard Edgar (Eilir Jones) ac yn nes ymlaen yn y ddrama, Rhys ap Brynmor (Jonathan Nefydd).

    Maent oll yn actorion sydd wedi hen ddweud ta-ta wrth eu hoes aur ar lwyfannau'r wlad a gellir eu dosbarthu i'r grwpiau canlynol:
    Magi (yr actores sy'n hiraethu am y dyddiau a fu),
  • Beenie Stokes (yr hoffus ddiniwed),
  • Henryd (y 'perfformiwr mawr' sydd byth a beunydd yn dyfynnu llithiau Marc Anthony),
  • Elenora (y difa di-flewyn-ar-dafod sy'n yfed jin fesul galwyn)
  • Richard Edgar (y perfformiwr camp) a
  • Rhys (yr actor sy'n cael y cyfle i wireddu ei freuddwyd o gael actio'r Inspector go-iawn).

    Actor marw
    Ond wrth iddi luwchio'n ddidrugaredd y tu allan, mae'r ymwelwyr o Lerpwl yn ffonio i ganslo a chyn i'r cast gilio o'r llwyfan, mae un ohonynt yn farw.

    A hynny dan amgylchiadau amheus iawn.
    Llofruddiaeth.

    Buan iawn y daw'n amlwg i'r cast fod y llofrudd yn eu plith...

    Yr hyn a gawn wedyn yw'r hen, hen, fformiwla (boblogaidd) o Inspector unig yn ceisio canfod y llofrudd a hynny dan amgylchiadau clawstroffobig gwesty gwledig dan warchae'r eira.

    Y cast Hen het braidd ac nid oes gwir ymgais i gynnig cipolwg newydd ar genre sy'n llethol o sâff.

    Dull hirwyntog
    Roedd meddwl am Cluedo, Poirot, Midsomer Murders a'u tebyg yn anochel wrth wylio'r ddrama ac mae'n rhaid i mi gyfaddef iddi rygnu yn ei blaen tuag at ei therfyn gyda'r diweddglo yn gymharol ragweladwy.

    Gellid fod wedi ei thocio'n sylweddol a'i chyflymu rhyw fymryn.

    Roedd cyflwyno 'motif' neu gymhelliad pob cymeriad fesul un yn ddull eithaf hirwyntog a'r cyfan yn llithro i niwl diflastod wedi i'r 'Inspector' gyfweld yr ail gymeriad.

    Â chynulleidfaoedd ledled Cymru bellach wedi hen arfer â hiwmor ffraeth Bara Caws, llugoer oedd ymateb cynulleidfa'r Neuadd Goffa yn Amlwch i'r hyn a oedd ar y llwyfan ac ni fu morio chwerthin torfol o gwbl, dim ond rhyw 'ha-ha-ha' cwta yn awr ac yn y man.

    Oedd, roedd rhai llinellau a golygfeydd yn ennyn mwy o ymateb na'i gilydd ond ar y cyfan, teimlwn fod y sgript braidd yn fflat ac yn brin o'r 'sbarc' hwnnw a fu mor nodweddiadol o berfformiadau Bara Caws ar hyd y blynyddoedd.

    Ond eto, roedd y 'sbarc' i'w gael ar adegau - jôcs am enwogion Cymru ac ati - ac yn nes at steil y sioeau clwb ond nodwyddau mân mewn tas fawr oedd y rhain yn anffodus.

    Gor goractio
    Gwn mai comedi yw hi ac mai goractio, o bosib, yw un o nodweddion amlycaf dramâu'r genre hwnnw a gwn hefyd mai hynny yw un o rinweddau'r lyfis ystrydebol a bortreadir ynddi ond mae ffasiwn beth a gor goractio ac roedd ambell un o berfformwyr y noson yn ei gorwneud hi'n sylweddol.

    Serch hyn, dylid nodi fod y rhai ieuanc yn y gynulleidfa yn ei morio hi ar adegau ac yn hyn o beth, roedd yn llwyddo yn ei hamcan fel 'comedi deuluol'.

    Mae'n debyg mai eu hoff gymeriad oedd Elenora - rhyw Cruela De Ville feddw, finiog ei thafod.

    Yr unig drueni yw nad oedd y rhieni yn cael yr un diddanwch â'u plant.

    Efallai bod llunio sgript ar gyfer plant ac oedolion a diddanu'r ddwy garfan i'r un graddau yn dasg braidd yn rhy uchelgeisiol. Rwy'n sicr y byddai dwy sioe ar wahân - un i blant ac un arall i oedolion - yn llawer mwy llwyddiannus.

    Tipyn o siom, felly, oedd Actus Reus. Enghraifft brin iawn o gynhyrchiad Bara Caws yn methu â tharo deuddeg.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Manylion taith Actus Reus

  • Adolygiad Glyn Jones


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý