Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Cynhyrchiad ysgytwol gwerth ei weld
  • Adolygiad Eifion Lloyd Jones o gynhyrchiad cwmni Bara Caws Gwaun Cwm Garw gan Sharon Morgan. Clwyd Theatr Cymru. Mawrth 20, 2007.


  • Gwerth ei gweld!
    Camp fwya' unrhyw addasiad yw ymddangos fel pe bai'n waith gwreiddiol - ac mae dwy ffordd o ymgyrraedd at hynny.

    Y naill yw sicrhau fod y ddeialog a'r iaith yn llifo'n gwbl naturiol o enau'r cymeriadau fel pe bai nhw sy'n dweud y geiriau am y tro cynta'; a'r llall yw sicrhau fod y digwydd mewn lleoliad cwbl gredadwy fel y gellid derbyn mai yno'n wir y digwyddodd y cyfan.

    Ydi'r dref ger Gwaun Cwm Garw yr un mor gredadwy â Laramie'r gwreiddiol?

    Ydi'r cymeriadau'n ein argyhoeddi mai iddyn nhw y digwyddodd hyn go iawn?

    Braf ydi gallu ateb yn gadarnhaol a datgan fod yr addasiad a'r cynhyrchiad wedi gweithio'n llwyddiannus iawn.

    Ymgyrchol
    Drama ymgyrchol sydd yma: ymgais i gyflwyno ymateb cymysglyd ac ansicr brodorion y dref i lofruddiaeth Matthew Shepard, llanc hoyw un ar hugain oed.

    Am y digwyddiad hwnnw yn Laramie yn yr Unol Daleithiau ddechrau Hydref 1998 y lluniodd Moisés Kaufman ei ddrama wreiddiol, gan adlewyrchu barn a rhagfarn tua deugain o drigolion a holwyd am eu hymateb i'r ymosodiad.

    Chwech o actorion
    Dim ond chwech o actorion sy'n cyfleu hanner cant o gymeriadau yn y cynhyrchiad yma gan Bara Caws ac maen nhw'n gwneud hynny'n rhyfeddol o gelfydd.

    Rydyn ni'n gallu derbyn yr holl newid cymeriadau gydol y ddrama ac mae'r clod am hynny i'w rannu rhwng yr actorion a chyfarwyddo Catrin Edwards, oedd yn gwneud defnydd da o'r symud o bob cwr o'r llwyfan.

    Mae'r symud yn sydyn gan gynnal diddordeb mewn dwsinau o olygfeydd byrion. Ond yn naturiol, mewn cyfresi mor bytiog, mae'n anodd adeiladu llawer o densiwn dramatig rhwng y cymeriadau.

    Er hynny, ac er ei bod yn amhosib' mynd o dan groen y cymeriadau unigol, rydyn ni'n dod i adnabod teimladau a thueddiadau pobl y dref yn gyffredinol, a thrwyddynt, ddod i adnabod y ddynoliaeth.

    Defnydd effeithiol o sgriniau
    Set gyfoes, syml a llonydd sydd ar y llwyfan gydol y cynhyrchiad, gyda thair sgrîn go fawr, dau lwyfan bychan, gofod fel bar tafarn a nifer o flociau y mae'r actorion eu hunain yn eu symud yn hwylus fel bo'r galw.

    Gwneir defnydd pur effeithiol o'r sgriniau gyda golau lliw a nifer o luniau a delweddau: gan gynnwys pobl yn symud tu ôl i'r sgriniau i gyfleu prysurdeb ac, yn arbennig, y cysgod o'r llanc wedi'i glymu i'r ffens lle'i gadawyd i farw - a'r ffurf ar y sgrîn yn cyfleu Crist ar y Groes.

    Ceir cerddoriaeth gefndirol addas yn achlysurol drwy'r ddrama, er bod sain y côr lleisiol eglwysig braidd yn ymwthiol tua'r canol.

    Addasiad yn gampwaith
    Mae addasiad Sharon Morgan yn gampwaith sy'n llifo'n gwbl rwydd mewn iaith lafar naturiol ddeheuol, gyda chyffyrddiadau o fewn y sgript sy'n unigryw Gymraeg a Chymreig fel sôn am y 'Steddfod ar y naill law, a'r mart a'r ffatri la'th ar y llaw arall.

    Prin iawn ydi'r dywediadau anaddas: "dwyn oddi wrtho" yn hytrach nag "oddi arno", "pum cant o fobol" yn hytrach nag "o bobol", ac "am un deg wyth awr" yn hytrach na'r "deunaw awr" a fyddai'n fwy naturiol mewn iaith ffurfiol barnwr y llys.

    Taflu geiriau
    Ar ddechrau'r ddrama, roeddwn i'n teimlo fod gormod o eiriau'n cael eu taflu atom ni ar ruthr gwyllt ond buan iawn y setlodd y rhythm yn un hollol naturiol ac, weddill y ddrama, roedd y llefaru'n gweddu i bob cymeriad, a hwnnw'n llefaru hynod o naturiol: siarad efo'i gilydd ac efo ni oedden nhw.

    Dylid canmol pob un o'r actorion am amrywiaeth eu cymeriadu: Ifan Huw Dafydd, Jonathan Nefydd, Rhodri Evan, Geraint Pickard, Delyth Wyn a Maria Pride, er mai Maria, hwyrach, oedd fwyaf unffurf ei goslefu.

    Ar y llaw arall, Rhodri Evan oedd fwyaf amrywiol ac effeithiol ei bortreadau, tra mai'r eiliadau mwyaf emosiynol oedd Ifan Huw Dafydd yn darllen llythyr tad y llanc marw gerbron y llys.

    Neges - nid pregeth
    Cynhyrchiad digon ysgytwol ar adegau, felly, gyda'r neges gref am ragfarnau ac anoddefgarwch ein cymdeithas yn cael ei chyfleu'n gadarn, ond heb fynd yn ormod o bregeth.

    Ac mae'r goleuni sydd yn llewyrchu trwy'r tywyllwch yn ei gwneud yn werth ei gweld ar bob cyfrif.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Y ddrama a'r daith


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý