Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Mae un o brif sylwebwyr y theatr Gymraeg wedi disgrifio Romeo a Juliet fel y cynhyrchiad anghywir gan Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru.


Mae hefyd wedi galw am newid yn ffordd y cwmni o weithredu.

Yn siarad ar Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun, Tachwedd 1, dywedodd Ceri Sherlock nad yw'r cynhyrchiad o safon theatr genedlaethol ac i'r ddrama anghywir gael ei dewis.

Ceri SherlockFodd bynnag achubwyd cam y cynhyrchiad a'r ddrama gan , cadeirydd Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn siarad ar yr un rhaglen.

Yr oedd Ceri Sherlock wedi dweud na fu ef yn gefnogol o'r cychwyn i'r syniad o gwmni theatr cenedlaethol fel yr un presennol.

Yn hytrach, mae o'n ffafrio clwstwr o gwmnïau bychain.

Angen cwmnïau byrlymus ac arloesgar
"Rhaid imi ddweud, faswn i ddim - dydw i ddim - yn gefnogwr o'r Theatr Genedlaethol fel yr unig ddarpariaeth o theatr yn yr iaith Gymraeg," meddai.

"Mae llawer mwy o ddiddordeb gennyf fi mewn nifer o gwmnïau byrlymus, arloesgar, yn cynhyrchu yn yr iaith Gymraeg.

"Mae hynny yn mynd i roi llawer mwy inni yn y theatr Gymraeg yn y dyfodol ac yn y cyd-destun yna mae'r bobol sydd wedi mynd ati - yn erbyn yr ymholiad oedd wedi digwydd 2001 a'r cyngor na ddylid creu theatr genedlaethol Gymraeg - maen nhw wedyn yn trio creu rhywbeth sydd yn efelychu theatr genedlaethol yn Lloegr neu leoedd eraill ac wrth wneud hynny maen nhw wedi gosod cynsail o ddisgwyliadau sydd yn anodd iawn eu cyflawni efo rhywun heb ddigon o brofiad," meddai.

Ychwanegodd: "O edrych ar y disgwyliadau sydd wedi'u rhoi ar ysgwyddau'r cyfarwyddwr artistig a disgwyliadau post colonial fel petai y Theatr Genedlaethol sydd ohoni ar hyn o bryd dwi'n meddwl fod yn rhaid gofyn eto ai dyma'r ffordd orau ar gyfer darpariaeth o'r safon uchaf, theatr yn yr iaith Gymraeg."

Nid chwalu
Ond dywedodd nad oedd yn galw am chwalu Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru a chychwyn eto ond yn hytrach am i reolwyr y Theatr Genedlaethol edrych yn ehangach am bobl "sydd wedi cael profiad helaeth yn y maes . . . sydd wedyn yn gallu cyrraedd y disgwyliadau sydd o anghenraid wedi'u gosod arnyn nhw oherwydd y tag, theatr genedlaethol.

"Fe fyddwn i'n sicr yn ailystyried y drefn bresennol a'r disgwyliadau a osodwyd gan y Theatr Genedlaethol," meddai.

Ymhelaethu yr oedd Ceri Sherlock ar sylwadau hynod o feirniadol a wnaeth am y cynhyrchiad o Romeo a Juliet yn y cylchgrawn Golwg.

Nid yn unig dywedodd wrth Gwilym Owen fod dewis y ddrama hynod o anodd hon yn gamgymeriad ond awgrymodd hefyd nad cyfarwyddwr artisitg Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru oedd yr un i'w chyfarwyddo.

Gwneud sioe
Meddai wrth Gwilym Owen:
"Mae Cefin Roberts yn gyfarwyddwr o showman ac yn medru rhoi sioe arno yn dda - miwsicals ac ati - ac mewn ffordd yn pontio'r byd amatur ac addysg yn arbennig o dda ond ryda ni'n sôn am theatr genedlaethol yn y cyd-destun yma ac felly roeddwn i'n gorfod edrych, fel petai, ar pa fath o ddisgwyliadau sydd yna i gyfarwyddwr sydd yn gyfarwyddwr artistig theatr genedlaethol a lle oedd e'n arwain y cwmni fel petai a'r actorion crai ac hefyd yr actorion gwadd," meddai.

Pan ofynnodd Gwilym Owen iddo ai dweud yr oedd o nad oedd gan Cefin Roberts "yr adnoddau proffesiynol" i fod yn gyfarwyddwr artistig cwmni theatr cenedlaethol dywedodd:
"Mae'n rhaid datblygu'r adnoddau yna trwy yrfa broffesiynol - ac mae'n dipyn o gamp i gael eich parasiwtio i mewn a chael eich landio ar y lefel broffesiynol aruchel - sef disgwyliadau y theatr genedlaethol a dydw i ddim yn siŵr ond faswn i'n meddwl mai dysgu ar y pryd ydi'r peth," meddai.

Dewis arall
Wrth feirniadu'r penderfyniad i ddewis y ddrama ond am ei bod yn llyfr gosod yn yr ysgolion dywedodd:
"Buaswn i wedi lecio gweld actorion profiadol Cymraeg yn cael go ar rywbeth fel Y Dymestl neu Brenin Llŷr efo rhywun fel John Ogwen . . . achos rwy'n meddwl y byddem wedi cyrraedd safon ychydig yn well."

Dywedodd iddo ef, oherwydd ei brofiad personol, edrych ar y cynhyrchiad drwy lygaid cyfarwyddwr pan aeth i weld y ddrama."Cyfrifoldeb y cyfarwyddwr ydi'r dadansoddiad a'r dehongliad a'r cynhyrchu fel petae ac mae pob elfen o'r llwyfaniad yn deillio o hynny a doeddwn i ddim, yn y cyd-destun yna, yn gweld beth oedd bwriad y cyfarwyddwr ar y gwahanol lefelau yna.

"Mae'n dipyn o her ac yn dipyn o gamp i lwyddo - ac rwy'n siŵr nad ydw i wedi llwyddo yn y gorffennol wrth wneud Hamlet yn y Gymraeg," meddai.

Beth ddywedwyd yn Golwg?
Yn ei adolygiad yn Golwg yr oedd Ceri Sherlock wedi dweud:
"Yn anffodus, methais â gweld beth oedd y prif reswm dros lwyfannu Romeo a Juliet gan y Theatr Genedlaethol, a doedd y cynhyrchiad ddim yn cynnig rhywbeth ffres na newydd i mi.

"Ro'n i hefyd yn disgwyl safon theatr genedlaethol ond, yn anffodus, mi weles i gynhyrchiad oedd yn fwy addas i goleg neu, i fod yn garedig, yr hen weekly rep

"Roedd yna or-ymadroddi cas, gorystumio pantomeim, comedi tebyg i Ma' Ifan 'Ma, set a gwisgoedd retro o'r 1970au. Beth oedd arwyddocad y set bwrdd gwyddbwyll, y miwsig a'r goleuo diystyr ac anghyson?"A beth am y simsanu rhwng Cymraeg a Saesneg? Yn yr ystafell ymarfer, plis, nid yn y cynhyrchiad terfynol."

Gan ddweud ei bod yn her y dylai'r "Theatr Genedlaethol honedig" fynd i'r afael â hi ychwanegodd y dylai hynny fod "at bwrpas ac o safon eithriadol sy'n gweddu i'r statws y mae'r cwmni'n ymgyrraedd ato".

Ychwanegodd y byddai'n llawer gwell ganddo ef weld trosiadau o'r Tempest a Lear " gyda'n prif actorion mwya' profiadol yn gadarn wrth y llyw."

Dywedodd Cefin Roberts na ddymunai ef gymryd rhan yn Wythnos Gwilym Owen

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý