Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Hunaniaeth mewn tair iaith
  • Adolygiad Lowri Johnston o Bwrw Hen Wragedd a Ffyn gan Adam Strickson, Gwyneth Glyn ac M. Y. Alam. Cyd-gynhyrchiad rhwng Llwyfan Gogledd Cymru a Theatre in the Mill, Bradford.


  • Tair iaith ar un llwyfan a'r perfformiad yn cael ei lwyfannu mewn dwy wlad gyda chast o Gymry ac Asiad Prydeinig.

    Chwilfrydedd pur a'm denodd at gynhyrchiad diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru - sut yn y byd oedd hyn am weithio?

    Tawelwch
    Cyn mynd i sôn am gefndir y ddrama rhaid cyfaddef mai'r ddrama hon sydd wedi creu y benbleth a'r gwewyr meddwl mwyaf imi ers tro.

    Dwi o hyd yn dweud bod cynulleidfa dawel ar ôl i ddrama ddod i ben yn arwydd o ddrama dda - drama gref ta beth - a dyma'n union ddigwyddodd gyda hon.

    Mae'r ddrama wedi ei seilio yng Nghymru 2026 pryd mae Prydain yng nghanol rhyfel ddiddiwedd gyda thaleithiau'r Dwyrain Canol.

    Rhoddodd y rhaglen lawer o wybodaeth am gefndir y ddrama na chafodd ei chynnwys yn glir yn y ddrama ei hunan felly byddai'n werth darllen hon cyn gweld y ddrama.

    Pum cymeriad oedd ynddi, tri o Gymru a dau Asiad Prydeinig yn siarad Mirpuri yn ogystal â'r Gymraeg a Saesneg.

    Dydw i ddim yn sicr sut byddwn i wedi ymdopi â'r ddrama pe na bawn yn siarad Cymraeg.

    Mae'n debyg y byddwn wedi deall i raddau yr hyn oedd yn digwydd ond anodd gwybod a fuaswn wedi deall y cyfan.

    Wedi'r cwbl, roeddwn i'n teimlo ar goll braidd a minnau yn deall Cymraeg!

    Ond roedd y sgript yn llifo'n naturiol rhwng y tair iaith - er bod llawer llai o Mirpuri yn y ddrama nag a ddisgwyliwn.

    Goleuo medrus
    Roedd y llwyfan syml yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf gyda goleuo medrus, bwyd, cerddoriaeth a thaflunwyr fideo.

    Cydweithiai'r pum actor yn dda, a chafwyd perfformiad grymus gan Wyn Bowen Harries yn actio cymeriad cymhleth Geraint 'Bwbach'.

    Byddai'r ddrama wedi bod yn llawer rhy ddwfn heb gymeriadau'r ddwy ferch ifanc, (Catrin Roberts a Lleuwen Steffan).

    Daeth llais Gwyneth Glyn i'r amlwg trwy gyfrwng y ddwy ferch - yn enwedig pan cawsom ein cyflwyno iddynt am y tro cyntaf - ac roedd yr elfennau o hiwmor yn chwa o awyr iach mewn sefyllfa mor sensitif.

    Rhy ddwys
    Dyma ddrama rymus, drom, yn archwilio hunaniaeth hiliol a ieithyddol, ond drama a oedd ar adegau braidd yn rhy ddwys yn fy marn i.

    Er mai dim ond ychydig dros awr barodd y perfformiad roedd hynny'n amseriad perffaith a digon posib y byddai'r gynulleidfa wedi diflasu ar ôl hynny.

    Llwyddodd i gadw fy sylw am yr awr gyfan a phrin imi dynnu fy llygaid oddi ar y llwyfan a llwyddodd yr actorion i ddal y tensiwn ynghlwm tan yr eiliad olaf.

    Roeddwn i'n teimlo'n reit flinedig yn gadael y theatr wedi'r holl ganolbwyntio!

    Doedd hi ddim yn ddrama hawdd dod i farn ynglŷn â hi ac ni allaf ddweud imi ei mwynhau hi - doedd y profiad o'i gwylio ddim yn un pleserus - ond ai dyma oedd bwriad y ddrama beth bynnag?

    Ond yr oedd yn ddrama a fydd yn gwneud i chi feddwl ac ystyried ein hunaniaeth yn y byd ehangach.

    Hiliaeth a rhyfel
    Dyw hiliaeth, rhyfel a gwleidyddiaeth ddim yn bynciau ysgafn fel y cyfryw ac o ran hynny ni allaf ddweud imi gael mwynhad.

    Ar y llaw arall gallaf werthfawrogi'r ffaith iddi gael ei llunio yn fedrus ac yr oedd y sgript yn llifo'n rhwydd gyda chriw o actorion dawnus.

    Llwyddo i bigo'r cydwybod oedd ei phrif rinwedd a gwneud i'r gynulleidfa feddwl.

    Yn ansicr
    Ond rwy'n dal yn ansicr a gafodd problemau hiliaeth a hunaniaeth eu trin a'u harddangos yn y ffordd gywir a theimlwn ar adegau fod yma ymdrech i geisio bod yn rhy glyfar a mynd yn rhy ddwfn.

  • Gair o rybudd gyda llaw: doedd y rhaglen ddim yn sôn bod y perfformiad yn anaddas i blant ond rhaid dweud mai dyna fy nheimlad i, yn enwedig gyda'i themâu dwys, gwaed, iaith grefa gynnau'n cael eu tanio. Meddyliwch ddwywaith cyn mynd â phlant ifanc i'w gweld!

  • Cysylltiadau Perthnasol



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý