Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Buddug James JonesBuddug James Jones
Colled fawr i fyd y ddrama
Lowri Rees yn cofio Buddug James Jones

Collwyd un y bu ei chyfraniad yn fawr i fyd y ddrama yng Nghymru ym marwolaeth Buddug James Jones, Ionawr 2006.

Rhoddodd ei bywyd i bobl ifanc a'r llwyfan yng Nghymru ac yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth Ionawr 7 talwyd teyrnged iddi gan y cadeirydd, Dafydd Whittall.

Roedd Buddug James Jones - o Fryn Gwyn Ganol, Dole, Bow Street, Aberystwyth - yn gyfaill yn ogystal ag athrawes i genedlaethau o blant ac fe ddysgodd i lawer ohonom dechneg y bêl hoci yn ogystal â sut i actio a mwynhau ar lwyfan Ysgol y Berwyn yn y Bala lle'r oedd yn athrawes.

Trwyddi hi y cyflwynwyd byd y ddrama i nifer ohonom ac yn sgil ei brwdfrydedd hi y penderfynodd nifer o ddisgyblion ddilyn cwrs coleg ac yna gyrfa yn y maes.

fgh Graddiodd Buddug James Jones yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth ac yr oedd yn cynhyrchu dramâu'r adeg honno hefyd a'i brwdfrydedd heintus yn ymledu ymysg y myfyrwyr eraill.

Yn 1953 y daeth i'w swydd gyntaf yn Ysgol Ramadeg y Merched yn Y Bala ac o'r cychwyn cymerodd yr ardal hi at ei chalon a daeth hithau yn un a gyslltid gan bawb â'r ardal.

Meddai Mrs Bethan Edwards o Lanuwchllyn, cyn athrawes fathemateg yn Ysgol y Berwyn amdani:
"Mae colli Buddug yn golled fawr i sawl ardal drwy Gymru. Tan ei dyddiau olaf roedd hi'n parhau i helpu ym myd y ddrama mewn ysgolion drwy Gymru. Fe roddodd ei bywyd i ddrama ac i ieuenctid Cymru.

"Nid yn unig mae'n golled i rai a fu'n cydweithio â Buddug ond hefyd yn golled i'r holl ddisgyblion a ddysgwyd ganddi ar hyd y blynyddoedd."

Ysbrydoliaeth
Athrawes chwaraeon oedd hi yn Ysgol y Berwyn a'i brwdfrydedd a'i hysbrydoliaeth gymaint yn y maes hwnnw hefyd - yn wir parhaodd gyda'r pwnc nes iddi ymddeol yn 65 oed.

Deuai llwyddiant cyson i dimau Ysgol y Berwyn yn sirol a chenedlaethol.

Ond am ei chyfraniad i fyd y ddrama y bydd yn cael ei chofio'n bennaf ac yn ystod fy nghyfnod yn Ysgol Y Berwyn cefais y fraint o dreulio oriau lawer yn ei chwmni yn trafod perfformiadau, neu'n ystyried a chychwyn paratoi'r perfformiad nesaf.

Yn ystod blynyddoedd pedwar a phump bu inni fynd ar deithiau o amgylch gogledd Cymru gyda pherfformiadau gwahanol.

Yn Y Bala bu yn hyfforddi Cwmni Drama Tegid am flynyddoedd lawer gan sicrhau rhediad anhygoel o fuddugoliaethau yng nghystadlaethau dramâu byrion yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1970au.

Mewn theatr
Yn 1977 pan ofynnwyd iddi gynhyrchu drama hir ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam casglodd gwmni cymysg o oedolion a chyn -ddisgyblion i gyflwyno Ymweliad yr Hen Foneddiges yn Theatr Clwyd gyda holl adnoddau theatr broffesiynol.

Meddai cyn prifathro Ysgol y Berwyn, Dr Iwan Bryn Williams, amdani:

"Yr oedd yn frwd dros yr Urdd ac yn mwynhau hyfforddi at gystadlaethau drama, dawnsio gwerin ac adrodd. Roedd hi'n gystadleuydd i'r bôn. Wrth ei bodd yn mynd a thimau a chwmnïau o gwmpas y wlad a'r rheini yn llwyddiannus iawn.

"Doedd hi ddim yn hoffi colli ond gyd yn oed pe byddai tîm hoci wedi cael cweir fawr byddai yn gweld llygedyn o oleuni," meddai.

"Yr oedd y 1970au yn flynyddoedd llwyddiannus iawn iddi hi gyda chwmnïau'r ysgol yng nghystadlaethau dramau byrion yr Urdd ac nid oedd yn anghyffredin i dîm athletau'r merched ddod yn ôl o fabolgampau'r Sir efo mwyafrif mawr o'r tlysau," ychwanegodd.

Ymroi yn llwyr
"Byddaf yn meddwl amdani fel un a ymrôdd yn llwyr i hybu gweithgarwch chwaraeon a drama ymhlith plant yr Ysgol.

"Yr oedd ganddi lygaid yr artist i gynhyrchu drama eithriadol o lwyddiannus. Uwch popeth yr oedd yn ysgogydd plant ac fe enynnodd barch mawr ymysg rhieni Penllyn ac Edeyrnion am ei gwaith," meddai.



cyfannwch

Alun Pontarfynach
Y ffon yn canu."Helo , BJ sydd 'ma""Pardwn, pwy?""Buddug Bryngwyn Ganol, be' wyt ti'n 'neud nos Lun nesa?""Pardwn, nos Lun nesa ,pam?""Der draw i Neuadd Rhydypenne erbyn wyth o'r gloch am baned, ac hefyd i ti gael cyfarfod a gweddyll y gang""Pardwn ,pa gang?""Criw Licris Olsorts ,ok, cofia erbyn wyth, am baned, Hwyl". Distawrwydd. A dyna fy nghysylltiad cynta a BJ erioed, ond pwy oedd BJ?. Dirgelch mawr. Dim ond un ffordd oedd i ddatrus y dirgelch, mynd draw i'r Neuadd nos Lun erbyn wyth.Daeth nos Lun, a chyn cychwyn a'r fy siwrne , y wraig yn gofyn. " Ble ti'n mynd heno te?" " O , mynd draw i Rhydypenne i gael paned gyda BJ"" I gael paned gyda BJ , Pwy yw BJ ?""Buddug Bryngwyn Ganol""Pwy yw'r Buddud 'ma te?""Dim syniad gyda fi, hwyl,"Wel dyna beth oedd croeso, paned o de a Cadburys Mini Rolls, bocsed cyfan, a dyna gychwyn fy nghyrfa fel aelod o Gwmni Drama Licris Olsorts ac hefyd datrus y dirgelch. Pwy oedd BJ?. Dim on un gair sydd i ddisgrifio BJ, UNIGRYW, yn ei ffordd o ddweud , gwneud a gwisgo, y siwmper wen, y trowser coch 'half mast', un hosan binc , y llall yn 'lime green', a'r plimsols coch, a'r sgarff borffor flewog am ei gwddw , oedd fe'r oedd BJ yn berson unigryw a lliwgar iawn, yng ngwir ystyr y gair. Does dim amheuaeth fod BJ wedi agor drws newydd yn fy mywyd i , fel y gwnaeth i erall, a diolchaf fy mod wedi mentro drwy'r drws hwnnw. Mae gen i atgofion hyfryd iawn yn nhrysor fy nghof, llawer rhy niferus i'w rhestri yma. Ond yn fyr, fy Eiteddfod Genedlaethol gynta fel aelod o'r 'gang' ym Mhenybont ar Ogwr, ac roedd y Cwmni i fod i gystadlu yng nghystadleueth Y Ddrama yn Theatr y Maes, wel dyna beth oedd Drama , nid ar y llwyfan , ond wrth fynedfa y Maes, doedd dim tocyn mynedfa i'w gael gan BJ ar y car, a hwnnw yn llawn dop o wisgoedd, y ces 'make up,y picnic a digon o waith papur i lanw Llyfrgell, y cyfan yn un mwdwl yng nghefn y car , y mwdwl mwya anrhefnus a welais i erioed. Roedd y stiward yn gwrthod gadel i BJ fynd ar car i mewn i'r maes ,heb docyn arno , wel dyna gychwyn brwydyr a barodd am bron i chwarter awr, a phwy gariodd y dydd?.Y milwr yn y siwmper wen, y trowser coch a'r 'sane lliwgar. Bu dathlu mawr yn y garafan y noson honno , do yn wir , hyd orie man y bore. Cafodd y 'gang wahoddiad i fynd i berfformio drama Gymraeg mewn Gwyl Geltaidd yn yr Iwerddon, a phwy dderbyniodd y gwahoddiad a gwneud y trefniadau?. BJ. Roedd y gang i fod ar lwyfan Theatr New Ross am hanner awr wedi saith yr hwyr, ond ble'r oedd y gang am saith o'r gloch, y Wexford yn chwilio am y Theatr, a ble'r oedd y Theatr, yn nhref New Ross, ugain milltir i ffwrdd. 'Miss print' yn y trefniadau oedd ateb BJ i'r cyfan, son am hwyl a sbri, bu dathlu mawr yn yr Iwerddon y noson honno hefyd. Gwell peidio a son am y daith i Gaerdydd, yn ol y dywediad, gadel llonydd i gi sy'n cysgu sydd ore. Mae'r atgofion yn llifo yn ol, digon i lenwi llyfr , 'falle rhyw ddiwrnod y rhoddaf bensil ar bapur, a be fydd teitl y llyfr,ie ' Drama BJ.' Does dim amheuaeth fod BJ yn athrylith ym myd y Ddrama , yn Gynhyrchydd pen i gamp , yn gwbod yn union sut oedd cael y gorau allan o'r sgript a'r cast oedd ynddi , roedd hi hefyd yn feirniadol iawn o ambell i feirniad " Bobol bach , be 'ma fe y 'wbod ar shwd 'ma perfformo drama ,dim hanner digon" yn ol BJ , doedd hynny ddim yn digwydd yn amal iawn!!!!!!Mae rhai yn dal i son am Yr Hen Ysgol Brofiad , do mi fues i yn ddisgybl yn yr ysgol honno, o dan arweiniad BJ. Pob gwers ar lafar , llafar cefn gwlad Sir y Cardi. Diolch i ti BJ am gael y cyfle i fod yn un o'th ddisgyblion , mae pob gwers yn drysor byth gofiadwy yn y cof. Diolch am gael y cyfle o gyd droedio rhan o lwybyr bywyd yn dy gwmni , am y sgwrs dros baned o de ar ol y practis ym Neuadd Rhydypenne , a rhannu'r Mini Rolls a'r Custard Creams ,y Chinese tec awe ym Mhorthmadog am un o'r gloch y bore ( peidiwch a gofyn ) am y trip yng nghefn y Metro i Wyl Ddrama Corwen , am y mefus yn yr Iwerddon , am y tatws a'r carots o gaeau Bryngwyn Ganol, am yr holl wybodaeth am fyd y Ddrama, y cyfan oll yn rhad ac am ddim , un fel yna oedd BJ.

Rhydian Mason, Trefeurig
Roedd Buddug James Jones yn fenyw rhyfeddol, Oedd yn byw gyda’r cathod ym Mryngwyn Canol. Roedd ei char yn ofnadwy – y metro bach gwyn, Ac er fod e’n yfflon roedd e’n rhyfeddol o chwym. Ac yn y car bach oedd ei ‘filing system’ – Stwff ‘in’ ar set flaen, a stwff ‘owt’ ar y cefen.. Ychydig linellau o bennillion a ysgrifenwyd pan ymddangosodd ar ‘halen y ddaear’. Anodd iawn ystyried mae yn y ‘gorffennol’ mae’r pennillion yna nawr, a Buddug mor fyw yn ein cof. Fel cyn-aelod ac arweinydd yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Talybont, Ceredigion (fel yr oedd Buddug flynyddoedd yn ol), rhaid procio fy nghap iddi am ei ymroddiad, amynedd, gwybodaeth, ac yn fwy pwysig na dim – ei nonsens plentynaidd, pryfocllyd a oedd bob amser yn dadlau gyda’i oedran ac aeddfedrwydd. Y cyrten wedi cau – ond fel arfer dyna pryd mae’r partio’n cychwyn…. So long BJ !

Peter Leggett, Dole
Cymeriad heb ei ail oedd BJ gan gyffwrdd â chalon pawb daeth ar ei thraws hi. Colled i ardal ac yn wir i Genedl. Hwyl a sbort oedd yn ei chwmni pob tro a'i doniau dawnus wedi gadael ei hol ar nifer o bobl, hen ac ifanc. Ni fydd Dole 'run fath hebddi, ac rydym yn gweld eisiau'r Metro gwyn (filing cabinet) yn gwibio trwy'r pentref fel mellten! Parod iawn ei gymwynas pob tro. Pob bendith BJ

Osian Edwards, Aberllefenni, ger Machynlleth
Heb diwtoriaeth BJ, ni fyswn wedi dal ati gyda drama cymaint a rydw i heddiw. Hefyd, ni fyswn wedi ennill gwobrau ar lwyfannau Eisteddfodau Sir a'r Genedlaethol, ar faes y Faenol. Colled enfawr i fyd y ddrama yng Nghymru, ac i blant a phobl ifanc sawl ardal - Bala, Bro Ddyfi a Bow Street, i enwi dim ond rhai. Diolch, BJ, am fod yn chi eich hun. Gwyddai pawb oedd yn ei hadnabod am beth rwy'n sôn.

Cemlyn, Bordeaux
Diolch Buddug am eich cymorth ac am eich egni di-derfyn dros y blynyddoedd. Roeddech yn ffrind annwyl ac rydych yn gadael gwagle mawr ar eich hol yn ardal Aberystwyth.

Rhian Dobson
Nai fyth anghofio BJ. Bydd colled enfawr ar ei hol yng ngogledd Ceredigion. Llawer o atgofion da - mynd i wyliau drama bont a chorwen ac i gystadleutahu'r urdd gyda cwmni ifanc licirs alsorts. Torri lawr yn y car bach gwyn ar ol bod yn actio'n felin fach a chael andros o help efo'r tgau a'r lefel A. Ron in mwynhau yn ei chwmni.. yn gwrando ar ei storeuon di-ri ac yn rhoi'r byd yn ei le dros baned o de. Ar hyn o bryd dwi'n astudio theatr ar cyfryngau ym mhrifysgol bangor - ac mae'r diolch am hynny i BJ.

Ian Lloyd
Colled fawr, cofio'r hwyl, cofio'r dysgu, cofio yr ymroddiad llwyr. Erbyn hyn dwi'n athro drama pitw a Buddug na'th agor y drws.



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý