Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
T James Jones, 'awdur' Dan y WenalltDan y Wenallt
Cynhyrchiad cyntaf taith Theatr Ieuenctid yr Urdd 2007
  • Adolygiad Catrin Dafydd o Dan y Wenallt - Theatr Genedlaethol yr Urdd - Talaith y Canolbarth. Caerfyrddin. Nos Iau, Rhagfyr 12, 2007.

  • Yr her
    Mae perfformio Dan y Wenallt yn her.
    Nid am ei fod yn gofyn am berfformiadau grymus nac am ei fod yn trafod materion mawr y byd.

    Yr hyn sy'n her amdano yw ei undonedd a'i arddull anecdotaidd.
    Ni welwch linyn stori clir nac uchelbwyntiau dramatig yng ngwaith Dylan Thomas, dim ond cip dros dro ar fywydau unigolion.

    Ni chewch weld digwyddiadau arswydus ar lwyfan, dim ond eu lled awgrymu nhw wna Thomas.

    A dyma'r her.
    Her o allu perfformio gwaith sydd heb linyn storïol pendant yn ogystal a'r her o berfformio gwaith sydd wedi ei wneud gymaint o weithiau o'r blaen.
    Bron iawn hyd syrffed...

    Deall pam
    Ond, a'r holl rhagdybiaethau hyn yn fy mhen, siomwyd fi ar yr ochr orau gan berfformiadau meistrolgar actorion Talaith y Canolbarth a ddaeth a chmeriadau yn fyw o flaen y gynulleidfa.

    Wrth wylio fe ddes i ddeall pam fod yr Urdd wedi dewis y fath ddrama i'r criw ifanc hwn.

    Fel y gŵyr pawb, cyfres o olygfeydd blith draphlith a gawn yn Dan y Wenallt. Golwg gudd ar fywydau beunyddiol trigolion Llaregyb.

    Er y gallasai rhai ddehongli'r cymeriadau fel cymeriadau stoc fe lwyddodd Theatr Genedlaethol yr Urdd i'w codi i lefel uwch. Roeddech yn uniaethu ac yn pendroni, yn chwerthin ac yn deisyfu clywed rhagor am fywydau'r cymeriadau.
    Roedd cil y drws wedi agor, ac roedd blys am fwy arnoch.

    Wrth reswm, profodd addasiad Jim Jones o Under Milk Wood yn gymorth mawr i'r actorion gan nad cyfieithiad mo hwn ond creadigaeth all sefyll yn gydradd a'r gwreiddiol.

    Mae'r elfennau barddonol ynddi yn hudo dyn a thro arall yn ei gynddeiriogi.

    Braidd yn gawslyd
    Er i'r perfformiad gychwyn braidd yn gawslyd gyda llun Dylan ar sgrin fawr o'n blaenau, dim ond gwella a wnaeth.

    Profodd rhai actorion eu doniau cerddorol gan ganu câneuon a gyfansoddwyd ar gyfer y cynhyrchiad ac ychwanegodd hyn elfen bersonol a deinamig i'r cychwyn a hynny i'w ganmol yn fawr, yn bennaf am y rhydd ryw elfen o berchnogaeth i'r bobl ifanc ar eu cynhyrchiad.

    Cyfle i gymaint
    Rheswm arall am ddewis y fath waith a Dan y Wenallt oedd ei fod yn cynnig cyfle i gymaint o actorion berfformio.

    Cafodd ambell aelod y cyfle i fod yn ddarllenwyr stori ac fel canolbwynt i'r ddrama fe arweiniwyd ni gan y storïwyr i fydoedd a chartrefi gwahanol.

    Oherwydd amrywiaeth yr actorion a ddarllenodd y stori nid aeth yr arddull hyn yn fwrn. A da o beth hynny oblegid gallasai fod wedi rhygnu ryw ychydig.

    Mewn jeans
    Roedd pob actor ar y llwyfan wedi eu gwisgo mewn rhyw lun ar jeans ond wn i ddim beth oedd union arwyddocâd hyn i'r cast ond yr hyn a gasglais i oedd fod yna fodd i daflunio ein bywydau modern ni yn erbyn byd dychmygol Thomas, a chanfod cyffelybiaethau.
    Hyd yn oed os na ddymunem weld cyffelybiaethau!

    Rhagfarn yn erbyn rhai yn ein cymuned, rhwystredigaethau priodasol a charwriaethol, casineb, cariad a chwant. Yr elfen fusneslyd sy'n annatod ohonom ni'r Cymry.

    Ac, yn bwysicach na hyn oll, hiwmor.
    Ac roedd digon o hwnnw yn y cynhyrchiad hwn. O'r gwartheg i'r gwragedd oedd yn rheoli eu dynion.

    Yr actorion
    Heb enwi actorion, fe ddangosodd nifer fawr ohonynt botensial enfawr a diau y gwelwn ni nhw ar y sgrin fach dros y blynyddoedd nesaf.

    Prysuraf i ddweud y dymunwn i weld nifer ohonynt ar ein llwyfannau ni yn ogystal. Yn fwy na heb, fe lwyddodd y cast i greu cameos o gymeriadau mewn dim o dro, gan ddangos dawn geirio a symud. Nid hawdd o beth yw cyfleu cymeriad mewn chwinciad chwannen, ond fe lwyddwyd i wneud hynny.

    O gymeriadau lliwgar Mrs Dai Bara Brown a Dai Bara Gwyn i Mr a Mrs Puw, Lili, Mrs Preis y siop losin, Martha Mei a Sinbad a nifer fawr o gymeriadau eraill cafwyd gwledd o olygfeydd doniol a dyrys.

    Deliwyd yn dda iawn gyda'r agweddau sinistr a thywyll yn Dan y Wenallt hefyd gan bwysleisio'r agweddau rhyfedd ac anghyffredin ar bersonoliaethau trigolion Llaregyb.

    Roedd hi'n wych o beth gweld yr actorion i gyd yn bresennol ar y llwyfan drwy gydol y perfformiad.

    Chwyrligwgan
    Da o beth hefyd oedd i'r cynhyrchiad bara am awr ac ychydig yn unig. I mi, dyma brawf llwyddiant y perfformiad. Chwyrligwgan chwareus oedd hi, un ddi-stop. Ond gallasai troelli ar y chwyrligwgan am lawer yn hwy fod wedi fy ngwneud yn swp sâl.
    Diolch am ddethol darnau felly.

    Y set
    O safbwynt set, aed ati yn gynnil ond yn bwrpasol i lunio cyfres o flociau glas golau a'u gosod yn ddestlus yng nghanol y llwyfan.
    Taenwyd rhwydi dros y blociau a dyna'r set.
    Yn syml, ond yn effeithiol.

    Rhaid canu clodydd y bobl fu'n gyfrifol am y goleuadau hefyd. O daflu'r goleuadau glas go gyfer y nos a'r goleuadau euraidd a chochlyd i gynrychioli'r dydd, newidiwyd naws yr adrannau yn y cynhyrchiad gan greu teimlad o drefn.

    Ymddengys i mi ei fod yn holl bwysig i actorion ifanc ein cenedl berfformio llenyddiaeth a dramau clasurol ac enwog fel Dan y Wenallt.

    Dyna wnaethpwyd yn y cynhyrchiad hwn, ac er bod yr her yn un swmpus fe lwyddodd y cwmni.

    Serch hyn, byddai'n hyfryd o beth gweld sut y byddai'r actorion yn ymateb i'r her o gael perfformio drama dywyllach neu fwy modern.
    Diau y daw hynny yn y dyfodol agos.

  • Cliciwch YMA i ddarllen rhagor am Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd a'i dri chynhyrchiad newydd.

  • Rhagor am daith 2007 Cwmni Theatr ieuenctid yr Urdd

  • Cysylltiadau Perthnasol

    Theatr Ieuenctid yr Urdd - taith 2007


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý