Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dafydd DafisTÅ· ar y Tywod
- y daith

Cychwyn o amgylch Cymru
Oherwydd anawsterau technegol ni fydd perfformiad o ddrama Gwenlyn Parry, TÅ· ar y Tywod, yn Theatr Clwyd nos Iau, Ebrill 21, 2005.

Hon oedd noson gyntaf taith ddiweddaraf y Cwmni Theatr Genedlaethol.

Yn awr, bydd y perfformiadau cyntaf, nos Wener a nos Sadwrn, Ebrill 22-23, 2005 am 7.30.

"Mae canslo perfformiad yn ofid ond yn amhosib ei osgoi," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.

"Gellir ad-dalu cost tocynnau sydd wedi'u prynu'n barod neu eu defnyddio ar gyfer un o'r ddau berfformiad arall yn Yr Wyddgrug," ychwanegodd.

Fodd bynnag, bydd y sesiwn ar gyfer myfyrwyr Lefel A yn parhau fel y trefnwyd am 4.00 o'r gloch brynhawn Iau, Ebrill 21, gyda'r chyflwyniad i ddysgwyr am 6.30 nos Wener, Ebrill 22, 2005. Awgrymir ffonio 0845 3303565 I sicrhau lle yn y ddau drefniant yma.

Arwyddocâd arbennig
Bydd ymweliad Tŷ ar y Tywod â Clwyd Theatr Cymru yn Yr Wyddgrug o arwyddocâd arbennig i ddau o actorion yr ardal.

Dafydd Dafis o Rosllannerchrugog sy'n chware un o'r prif rannau yng nghynhyrchiad cwmni Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Gwenlyn Parry.

Yng nghynhyrchiad cyntaf y ddrama bron i ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd rhan ganolog gan Gaynor Morgan Rees sy'n awr yn byw yn Ninbych.

"Rwy'n edrych ymlaen yn arw i weld y dehongliad diweddaraf o ddrama glasurol ac arloesol un o ddramodwyr mwyaf amryddawn a chynhyrchiol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru," meddai Gaynor sy'n cyfrif cymryd rhan ym mherfformiad cyntaf TÅ·; ar y Tywod yn un o uchafbwyntiau ei gyrfa fel actores.

Carreg filltir
Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yn 1968 ac fe'i hystyrir yn garreg filltir bwysig yn natblygiad y Theatr Gymraeg.

Fe'i cymharwyd â gwaith swreal ac absŵrd dramodwyr byd eang fel Harold Pinter ac Eugéne Ionesco.

"Mae'r ddrama'n canolbwyntio ar y gwrthdaro sy'n deillio pan fo hen ffordd o fyw traddodiadol, er yn prysur ddiflannu, yn cael ei fygwth gan ddatblygiadau newydd , modern a bas," meddai Dafydd Dafis, sydd hefyd yn gyfarwydd fel canwr.

Dafydd Dafis"Nid yw TÅ· ar y Tywod wedi'i chyfyngu i unrhyw amser neu leoliad penodol ac er bod 35 mlynedd ers y perfformiad cyntaf mae neges gignoeth y ddrama mor berthnasol heddiw ag y bu erioed," ychwanegodd.

Dyn y Ffair a dyn y TÅ·
Stori am ddau ddyn yw Tŷ ar y Tywod yn y bôn; un yn byw mewn cwt ar y traeth a'r llall yn berchen ffair gerllaw.

Mae Dyn Y Ffair eisiau ehangu ei ffair swnllyd a llwyddiannus ond torrir ar ei gynlluniau gan Ddyn y Tŷ sy'n benderfynol o warchod ei gartref doed a ddêl er bod hwnnw'n suddo i'r tywod.

Ar ôl llawer o wrthdaro mae'r rhod yn troi ac mae Dyn y Tŷ'n llwyddo i droi'n Ddyn y Ffair ei hun gyda'r potensial o fabwysiadu cymeriad ei ragflaenydd.

Dafydd Dafis sy'n chwarae rhan Dyn y Ffair.

Gwenlyn
Fel cynhyrchydd drama gyda Ö÷²¥´óÐã Cymru defnyddiodd Gwenlyn Parry, a fu farw ym 1991, ei dalentau mewn myrdd o wahanol arddulliau yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Cyd-ysgrifennodd y gomedi deledu fytholwyrdd, Fo a Fe, gan fynd yn ei flaen i lansio, ysgrifennu a chynhyrchu Pobol y Cwm.

Ef hefyd ysgrifennodd y gomedi deledu Grand Slam am griw yn teithio i Gêm Rygbi Ryngwladol ym Mharis.

Is-gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts, sy'n cyfarwyddo TÅ· ar y Tywod - ei chynnig cyntaf iddi ar ei phen ei hun gyda Theatr Genedlaethol Cymru er iddi weithio'n eang fel cyfarwyddwr theatr ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.

Sesiwn trafod
Bydd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o'r ddrama'n cychwyn taith chwe wythnos yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, nos Wener yn awr - ac nid nos Iau - a nos Sadwrn (Ebrill 22-23, 2005).

Rhwng 4.00 a 6.00 o'r gloch brynhawn Iau, Ebrill 21 bydd sesiwn trafod pwnc, cymeriadau a themâu y ddrama gyda disgyblion sydd â thocynnau i'r perfformiad ac sy'n astudio ddrama fel rhan o'r cwrs Lefel A.

Am 6.30 o'r gloch bydd y cyfarwyddwr, Judith Roberts, hefyd ar gael yn Ystafell Haydn Jones yn Clwyd Theatr Cymru i drafod ffurf y cyflwyniad gyda'r myfyrwyr.

Awgrymir bwcio lle o flaen llaw drwy ffonio 0845 330 3565.

Bydd cyflwyniad mewn "Cymraeg syml" i ddysgwyr yn Clwyd Thetar Cymru am 6.30 o'r gloch, nos Wener, Ebrill 22, 2005.

Y daith
Dros y chwe wythnos wedyn bydd y ddrama yn ymweld â Theatr Gwynedd, Bangor (27-30 Ebrill, 2005);
Theatr y Lyric, Caerfyrddin, ddydd Mercher, 4 Mai;
Theatr Taliesin, Abertawe, 6-7 Mai;
Theatr Mwldan, Aberteifi, 13-14 Mai;
Theatr Ardudwy, Harlech, 17-18 Mai;
Theatr Sherman, Caerdydd, 26-28 Mai.
Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o'r gloch. Cysylltiadau Perthnasol




cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý