Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dan ymbarelPorth y Byddar
Llwyddo mewn sawl ffordd

  • Adolygiad Huw Alun Foulkes o Porth y Byddar. Theatr Genedlaethol Cymru.
  • Wedi i nifer ddatgan eu barn am gynhyrchiad diweddaraf ein Theatr Genedlaethol - rhai yn gadarnhaol, eraill ddim mor ffafriol - mater o raid oedd mynd i flasu'r arlwy drosof fy hun a hynny ar noson lawog, ddu yn Theatr y Sherman.

    Tywyll
    O wrando ar eraill yn trafod y ddrama yn ddiweddar, roeddwn yn disgwyl cynhyrchiad tywyll, hanesyddol ei naws yn cyflwyno gwybodaeth yn hytrach na chyffroi'r dychymyg.
    Diolch i'r drefn, cefais fy siomi ar yr ochr orau!

    Fel ag yr oeddwn yn ymlacio yn fy sedd daeth yr actorion ar y llwyfan mewn cotiau glaw a chyda'u hymbaréls gan gyflwyno ffeithiau yn ymwneud â dŵr.

    Wn i ddim pa mor fuddiol oedd trwytho'r gynulleidfa fel pe byddem mewn ystafell ddosbarth ond cafwyd ambell chwerthiniad a minnau'n gobeithio am fwy o hiwmor tebyg wrth i'r ddrama fynd rhagddi.

    A dyna beth a gawsom - y llwydni rhwng y du a'r gwyn fel petai a'r gymdeithas gyfan yn cael ei phortreadu fel nad oeddwn wedi'i ddychmygu o'r blaen.

    Erioed, i mi, mae hanes boddi Cwm Celyn yn drwm a thrist a'r unig straeon sy'n y cof ydi'r hanes a gyflwynwyd imi mewn dosbarthiadau Hanes a thrwy wrando ar bobl hÅ·n yn siarad am y digwyddiad.

    Er imi deimlo ar sawl cyfrif fy mod yn gwrando ar sawl actor fel pe byddent athrawon Hanes yn trafod a chyflwyno ffeithiau yn y ddrama, 'roedd nifer o'r golygfeydd yn llawn angerdd, eraill yn dod a gwên i'r wyneb ac eraill yn gomedi gwych.

    Chwa o awyr iach
    Cafwyd amseru arbennig gan Sara Lloyd a oedd yn chwa o awyr iach yng ngolygfeydd y plant a hynny ar adegau pan deimlais fod y cynhyrchiad yn arafu.

    O ganlyniad, 'roedd yr awdur wedi gosod golygfeydd y plant yn gelfydd iawn gan sicrhau fod y diniweidrwydd a llais yr ifanc sydd mor absennol o 'hanes y llyfr' yn gyson drwyddi draw.

    I'm cenhedlaeth i, anodd iawn yw dychmygu sut oedd hi i fyw yn y cyfnod ac 'roedd cael cyfle 'i fyw' y cyfan ar ffurf drama yn un arbennig a'r cydbwysedd rhwng y dramatig a'r hanesyddol yn fy siwtio i'r dim.

    'Roedd perfformiadau cyson Phil Reid a Llion Williams rhwng y 'golygfeydd dramatig' yn gaffaeliad gwerthfawr i'r sgript a'r ddau yn cynnal y llinyn storïol oedd yn clymu'r cyfan ynghyd.

    Fodd bynnag, rhaid imi nodi nad oedd pob gair gan Phil Reid i'w glywed yn eglur a hynny'n amharu ar fy mwynhad fwy nag unwaith.
    Er hynny, dyma bâr oedd yn cydweithio'n dda ar lwyfan a'u rhan fel haneswyr o fewn y ddrama yn cyfoethogi'r angerdd.

    Gweledigaeth yn amlwg
    'Roedd gweledigaeth Manon Eames yn amlwg a'r actorion i gyd yn llwyddo i bortreadu'r gwahanol gymeriadau â dyfnder.

    Bu defnydd creadigol o'r gerddoriaeth a'r ailadrodd cyson yn cyfoethogi'r emosiwn. Rhoddai'r set seml gyfle i'r cymeriadau arbrofi â rhan helaeth o'r gofod chwarae a hynny'n ddewis doeth gan fod cynifer ohonynt.

    Uchelbwyntiau'r cynhyrchiad oedd perfformiadau Betsan Llwyd, Sara Lloyd a Llion Williams, y cydbwysedd yr oedd ei angen rhwng drama a ffaith a'r ffordd y llwyddwyd i drosglwyddo un o ddigwyddiadau pwysicaf Cymru yn ddeallus ac ystyrlon.

    Mae'n ddigon posib yr aiff nifer ati i lambastio'r cynhyrchiad am ddiffyg elfen ddramatig, am bentyrru ffeithiau nes diflasu ac am fod yn debycach i gystadleuaeth cyflwyniad llafar mewn eisteddfod neu gynhyrchiad theatr mewn addysg yn hytrach na drama o safon gan ein cwmni cenedlaethol.
    Digon teg.

    Ond i'r bobl ifanc oedd yn y gynulleidfa yn y Sherman, cawsom ein cyfareddu gan yr hanes a'r emosiwn - hanes sydd bellach yn llawer mwy eglur oherwydd i'r digwyddiad gael ei drosglwyddo mor gelfydd ac mor ddirdynnol gan gwmni proffesiynol o actorion safonol a lwyddodd i danio'r dychymyg.

    Dal i ganu
    Wrth gamu 'nôl i'r glaw ar fy ffordd adref y noson honno, 'roedd seiniau'r emynau yng Nghapel Celyn yn canu yn y cof a hynny'n ddigon i'm hargyhoeddi i hwn fod yn gynhyrchiad llwyddiannus ar fwy nac un lefel.


  • Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý