Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ros Evans gyda pherfformwyrRedflight Barcud
Gwynt dan adenydd
Adolygiad Gwyn Griffiths o Redflight Barcud gan adran WNO MAX o Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm, Gorffennaf 19 a 21 2005.

Opera siambr fer sy'n dod a bywyd gwyllt y wlad at blant y ddinas yw Redflight Barcud.

Eisoes gwelwyd y perfformiad yn amryw o drefi a phentrefi Cymru a bydd yn mynd i Birmingham a Lerpwl yn yr hydref.

Ennyn diddordeb
Mae'r stori yn cychwyn gyda'r Cofnodwr Barcutiaid - a genir gan Craig Yates - yn ceisio denu diddordeb y plant yn hanes yr aderyn prin. Gwyneth Lewis

Nid yw'n hawdd, ond mae'n llwyddo.

Mae'r stori'n cael gwynt dan ei hadenydd ac awn i fyd y barcud.

Mae'r Iâr Farcud o Gymru (Ros Evans) yn cyfarfod â Cheiliog Barcud o wlad dramor (Mark Evans) ac yntau'n cael ei swyno gan ei harddwch a'i hacen, a hithau'n ceisio dysgu tipyn o'i hiaith iddo.

Y mae libreto Gwyneth Lewis (uchod) yn cynnwys rhywfaint o Gymraeg.

Syrthio mewn cariad
Mae'r plant a'r Cofnodwr anaracaidd yn gwylio dawns garu'r Ceiliog a'r Iâr, sy'n syrthio mewn cariad, adeiladu nyth a gwylio'n gariadus dros eu hwyau nes iddyn nhw ddeor.

Mae'r Cofnodwr, drwy'r plant, yn hysbysu'r gynulleidfa am y peryglon i nythod y barcutiaid - pobl yn dwyn wyau ac adar eraill, yn arbennig brain - yn ymosod arnyn nhw.

Wedi i'r cywion ddeor a thra bo'r Ceiliog allan yn chwilio am fwyd, daw'r brain ac ymosod ar y nyth a lladd un o'r cywion.

Gwelir y ddau farcud ifanc, gwancus, a arbedwyd yn tyfu, yn ffraeo ac yn y diwedd mae'r ceiliog ifanc yn hedfan i ffwrdd ond mae'r iâr ifanc yn aros.

Cawn wybod, drwy'r Cofnodwr a'r plant, ystadegau am y barcutiaid, eu niferoedd a'r lleihad dros y blynyddoedd. Ond y maent ar gynnydd unwaith eto diolch i ymdrechion pobl a gwarchodwyr.

Gwylio pobl
Erbyn hyn, yn ôl y stori, nid yn unig y mae pobl yn gwylio'r barcutiaid ond mae'r barcutiaid yn gwylio'r bobl!

Mae hwn yn gynhyrchiad gwreiddiol sy'n ymestyn dychymyg cynulleidfa ifanc - plant oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn y perfformiad a welais i.

Mae'r olygfa ganolog ar lun lolfa gyda soffa foethus, teledu a'r teledu hwnnw yn sydyn droi'n nyth.

Ceir awgrym mai byd adar yw hwn drwy gymorth darlun ar y wal a phâr o adenydd yn hongian oddi ar y wal.

Mae'r Ceiliog Barcud wedi ei wisgo mewn siwt barchus a'r Iâr mewn dillad hardd, lliwgar.

I gryfhau'r syniad ein bod yn gwylio adar rhaid dibynnu ar symudiadau adarol ac, yn wir, llwyddodd Mark Evans a Ros Evans i wneud hyn yn rhyfeddol.

Yr oedd y golygfeydd caru'n hyfryd.

Syml a dyfeisgar
Defnyddiwyd eisteddle'r gynulleidfa'n ardderchog i gyfleu'r syniad o adar yn hedfan. Syml, ond dyfeisgar.Plant Ysgol Gynradd Crist y Brenin, Caerdydd, oedd yn cynorthwyo'r Cofnodwr, a chwarae rhan y brain yn y perfformiad welais i.

Mewn perfformiadau eraill chwaraewyd y rhannau hyn gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Pwll Coch.

Dywedwyd wrthyf i'r elfen ddwyieithog fod yn gryfach yn y cynhyrchiad gyda'r Ysgol Gymraeg.

Profiad gwerthfawr
Yr oedd hwn yn berfformiad arbennig ac yn brofiad gwerthfawr, yn sicr i'r plant a gymerai ran - ond hefyd i'r gynulleidfa.

Hoffais yn arbennig amrywiaeth cerddoriaeth y cyfansoddwr Richard Chew.

Yn anffodus, nid oedd y geirio bob amser yn glir iawn i fedru barnu pa mor dda oedd y libreto. Nid oeddwn yn siŵr bob amser ai yn Gymraeg ynteu yn Saesneg yr oedd yr unawdwyr yn canu.

Ond cynhyrchiad llawn dychymyg a dyfeisgarwch, serch hynny.

Cysylltiadau Perthnasol
Oriel luniau
Gwyneth Lewis


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý