Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dawns y Cynhaeaf
Addasiad o ddrama Brian Friel
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Dawns y Cynhaeaf gan John Roberts. Coleg Cerdd a Drama Caerdydd. Mawrth 2007.


  • Gosodir Dawns y Cynhaeaf, y ddrama a ystyrir y fwyaf hunangofiannol o weithiau'r Gwyddel, Brian Friel, yn 1936, cyfnod o groesffordd yn hanes Iwerddon.

    Mae'r chwiorydd Mundy - pump ohonyn nhw - yn ddibriod ac yn crafu byw ar dyddyn ar gyrion Ballybeg yn Donegal.

    Tyndra a thraddodiadau
    Daw tyndra'r gwahanol gyfnodau a thraddodiadau ynghyd ar drothwy gŵyl baganaidd i nodi dechrau'r cynhaeaf.

    Digwyddiad sy'n ennyn cynnwrf, cariad a chynhesrwydd teuluol ochr yn ochr â gwrthdaro'r grefydd Babyddol a'r hen draddodiadau paganaidd.

    Yr un pryd daw dyfodiad y radio a'i cherddoriaeth ddawns newydd i herio'r hen ddawns draddodiadol.

    Daw'r stori o enau a thrwy lygaid y plentyn Michael (Dyfan Dwyfor), sy'n stelcian, ran fynychaf, ar gyrion y llwyfan a'r digwyddiadau.

    Ef yw mab anghyfreithlon Chrissie (Danielle Branch), y ferch ramantus a ddaeth a gwarth ar enw'r teulu.

    Amlygrwydd i ferched
    Mae'r ddrama'n arbennig am y lle o gydraddoldeb a phwysigrwydd a roddir i ferched.
  • Dyna'r athrawes Kate (Morfudd Hughes), teyrn y teulu, ond gyda'i chydymdeimlad â theuluoedd y bryniau sy'n cadw'r hen arferion, paganaidd neu beidio.

  • Maggie (Erin Richards) sy'n cynnal yr aelwyd, yn paratoi'r bwyd;
  • Agnes (Marion Wilkison) yn dawel a siriol gadw'r ddysgl yn wastad;
  • a Rose liwgar (Laura Carli Hughes), yn llawn asbri os nad yn llawn llathen.

    Pobl ymylol yw dynion y ddrama.
    Daw'r brawd hÅ·n, y Tad Jack (Russell Clough), adref wedi chwarter canrif o genhadu ymysg cleifion Affrica ond heb fod wrth fodd yr Eglwys Gatholig.

    Fel ei chwaer Kate, yr oedd ganddo ormod o gydymdeimlad â'r hen arferion brodorol a bydd hyn yn achosi problemau'n y dyfodol pan fo'r offeiriad lleol yn deddfu bod Kate yn colli ei swydd athrawes.

    Ac y mae Jack yn ymhyfrydu mai plentyn anghyfreithlon yw Michael gan ddweud bod merched Affrica yn ymfalchïo mewn plant siawns - mwya'i gyd, gorau'i gyd.

    Cyflawni breuddwydion
    Y cymeriad arall ymylol yw Gerry Evans (Aneurin Barnard), tad Michael, breuddwydiwr gyda syniadau am wneud ei ffortiwn a mynd i ymladd yn Rhyfel Sbaen.
    Ond nid breuddwydiwr llwyr mohono gan ei fod yn cadw rhai o'i addewidion .

    Duw'r goleuni
    Yn gysgod dros ac yn gefndir i'r digwyddiadau mae dawns y Lughnasa, dawns cychwyn y cynhaeaf.

    Lugh yw duw'r goleuni sy'n rhaid iddo farw er mwyn atgyfodi'r bywyd newydd.

    Cynrychiolir yr hen draddodiadau a chrefyddau gan ddawnsio'r merched o gwmpas y gegin - dawnsio cyhyrog, gwyllt.
    Hynny a'r amheuaeth ynglŷn â'r priodoldeb o ferched yn eu hoed a'u hamser nhw i fynd i ddawns y Lughnasa.

    Myfyrwyr coleg
    Ac eithrio Morfudd Hughes, cast o fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd oedd y rhain i gyd gydag Elen Bowman yn Cyfarwyddo ac mae'r cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd, a'r perfformio, o safon broffesiynol ardderchog.

    Rhaid cymeradwyo cyfieithad John Roberts (Y Groeslon, a chyn drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y gogledd) o Dancing at Lughnasa.

    Nid yn unig mae'n argyhoeddi ond y mae'n rhoi haen gadarn o Gymreictod i'r gwaith hefyd.

  • Llwyfennir y ddrama yn Stiwdio Caird y coleg, Mawrth 28-31, 2007 am 7.45 ac am 2.30 brynhawn Sadwrn.

    Cysylltiadau Perthnasol

  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý