Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Lois CernywMarat - Sade
Adolygiad o addasiad Cymraeg o ddrama Peter Weiss
Adolygiad Glyn Evans o Marat - Sade. Cynhyrchiad myfyrwyr Adran Gyfathrebu Prifysgol Cymru Bangor o ddrama Peter Weiss wedi ei haddasu i'r Gymraeg gan Nic Ros.

Bu hen garchar Biwmares yn lleoliad effeithiol ar gyfer perfformiad myfyrwyr Cwrs Cyfathrebu Prifysgol Bangor o ddrama ysgytwol Peter Weiss, Marat - Sade.

Ers ei pherfformio gyntaf yn 1964 bu Marat Sade - neu, a rhoi iddi ei theitl llawn, Erlyniad A Llofruddiaeth Jean Paul Marat, Wedi'i Pherfformio Gan Gleifion Ysbyty Meddwl Charenton Dan Gyfarwyddyd y Marquis De Sade- yn garreg filltir theatrig fel yr enghraifft enwocaf o'r hyn sy'n cael ei alw yn theatr creulondeb lle mae gair ac emosiwn yn cordeddu'n ddidostur i greu profiad i'w gofio.

Dianc rhag Natsïaid
Yn Almaenwr o dras, daeth Weiss, i amlygrwydd ddechrau'r chwedegau yng Ngorllewin yr Almaen.

Ym Merlin y'i ganwyd, yn 1916, lle'r oedd ei dad yn berchen ffatri deunyddiau a'i fam yn actores.

Ond, a'i dad o dras Iddewig, ffodd y teulu i Loegr yn 1934 yn sgil twf Natsïaeth gan symud wedyn i Sweden yn 1939 ac yno y treuliodd Weiss weddill ei fywyd a dod yn un o ddinasyddion y wlad.

Arlunio yn gyntaf
Arlunwaith oedd ei ddiddordeb celfyddydol cyntaf gan ddod dan ddylanwad swrealwyr fel Salvador Dali a Max Ernst.

Dilynodd y dylanwadau hynny ef pan drodd ei olygon at y theatr ac mae hynny i'w weld yn holl gysyniad yr enwocaf o'i ddramâu, Marat - Sade

Yn wir, nid yn unig yr oedd hon yn garreg filltir artistig yn hanes Weiss ond yn garreg filltir hefyd o ran cynnwys gwleidyddol a'i ddaliadau sosialaidd.

Yn her
Byddai Marat - Sade yn her i unrhyw gwmni a rhaid edmygu myfyrwyr Bangor am ymdaflu i'r her honno a gwneud hynny dan amgylchiadau mor 'arbrofol' trwy hepgor y dull traddodiadol o berfformio ar lwyfan.

Drama wedi ei lleoli yn seilam neu wallgofdy Charenton yn Ffrainc toc wedi'r Chwyldro Ffrengig ydi Marat - Sade a hynny'n rhoi'r cyfle i Weiss drafod yr hyn a alwodd ef mewn cyd-destun arall yn "bob eithafrwydd a syniad gwyllt heb orfod gofyn beth maen nhw'n ei olygu."

Ffaith a ffantasi
Disgrifiwyd hi fel cyfuniad o ffeithiau hanesyddol ac o ffantasiâu dramatig a hynny yn ychwanegu at yr haenau o ystyron a dehongliadau.

Cyflwynwyd haen newydd i 'gynhyrchiad Carchar Biwmares' Nic Ros a ddewisodd leoli'r ddrama yn adran y merched yng ngwallgofdy Charenton.

Merch. Felly, sy'n chwarae rhan Marat.

Lle go iawn
Ond cymerwn gam yn ôl cyn troi at hynny er mwyn egluro fod Charenton yn wallgofdy go iawn yn cael ei redeg gan yr Abbe Coulmier a hoffai feddwl amdano'i hun fel un blaengar yn ei driniaeth o gleifion salwch meddwl.

Hoffai wahodd pwysigion lleol yno i ddangos iddyn nhw ei therapïau ar waith.

Un o 'gleifion' enwocaf y sefydliad oedd y Marquis de Sade wedi ei garcharu yno yng nghanol y gwallgofiaid am "beryglu moesau'r cyhoedd".

Coulmier - Dafydd wyn JonesCychwynnodd y ddrama Gymraeg yng nghyntedd carchar Biwmares - a gynrychiolai Charenton - gyda Coulmier (Dafydd Wyn Jones) a'i staff yn ein croesawu yno a'n gwahodd i gael ei harwain o gwmpas y sefydliad, cyfarfod rhai o'r cleifion a gweld yr hyn a dybiai ef oedd yn waith da ac arloesol a wnaed gyda hwy.

I gyd yn fechgyn tal, trwsiadus yn nillad y cyfnod, roedd ffurfioldeb y croeso yn y lled dywyllwch yn effeithiol iawn.

Er y gallai'r profiad annisgwyl hwn o orfod crwydro i fyny ac i lawr grisiau cerrig, culion, o gell i gell, fod wedi peri ansicrwydd ymhlith rhai sydd wedi arfer bod yn gynulleidfa oddefol gweithiodd yn ddigon da gan lwyddo i greu'r syniad o anesmwythyd o fod ymhlith pobl yr oeddem yn ansicr ohonyn nhw ac a allai fod yn beryglus.

Ychwanegai agwedd led ddifrïol, led ysgafn, y gwarchodwr tuag at y cleifion at yr awyrgylch.

Gwahoddiad i wylio
Diwedd y daith oedd capel bychan y gwallgofdy lle'n gwahoddwyd gan Coulmier i wylio criw o gleifion benywaidd yn perfformio, fel rhan o'u therapi arloesol, ddrama a sgrifennwyd ac a gynhyrchwyd gan de Sade (Dafydd Rhun).

Ac yr oedd hyn, cofier, yn rhywbeth a ddigwyddai'n go iawn yn y Charenton go iawn.

Lois CernywMae'r ddrama a berfformir i ni yn nrama Weiss yn ymwneud â llofruddio un o arweinwyr y Chwyldro Ffrengig, Jean-Paul Marat (Lois Cernyw) yn ei fath gan leian o'r enw Charlotte Corday (Ann Barker) oedd o blaid y frenhiniaeth.

Gydol y perfformiad mae 'Marat' mewn bath o ddŵr yng nghanol y llawr.

Mae'n hanesyddol gywir i Marat gael ei lofruddio gan Corday yn ei fath ond yn achos y perfformiad hwn mae'r bath hefyd yn rhan o therapi dŵr newydd Coulmier i helpu'r ferch sy'n chwarae rhan Marat.

Syniadau chwyldro
Wrth i'r perfformiad fynd rhagddo buan iawn y sylweddolwn fod hwn, o safbwynt de Sade, yn llawer iawn mwy na chyfle i gynnig therapi ond, yn hytrach, yn gyfle iddo ef ddefnyddio'r cleifion i roi llais i'w syniadau ei hun ynglŷn â rhyddid, chwyldro, hawliau'r bobl a hyd yn oed natur gwallgofrwydd ei hun.

Michelle Davies, aelod o'r corwsO flaen ei lygaid - a ger ein bron ni y bobl bwysig y mae wedi eu gwahodd i weld ei ddulliau arloesol o drin cleifion yn gweithio - gwêl Coulmier y cyfan yn datod ac yn chwalu allan o reolaeth a hynny yn ei orfodi i dorri ar draws y perfformiad sawl tro mewn ymgais i ffrwyno de Sade cyn i'r cyfan droi'n afreoleidra llwyr.

Ar yr un pryd mae hi'n troi'n ddadl syniadau rhwng de Sade a Marat a'r cyfan yn creu awyrgylch o densiwn wrth i Coulmier a de Sade golli gafael ar y sefyllfa a'r cleifion yn troi'n fwy a mwy bygythiol a gorffwyll wedi eu tanio gan syniadau.

Mor agos
Ychwanegir at y tyndra hwnnw gan ein bod fel cynulleidfa mor agos ac mor glos at y perfformwyr. Ni yw'r 'bobl bwysig' yn eu canol ac yn darged uniongyrchol rhai o sylwadau'r cleifion.

Mae'r diweddglo yn bwerus, treisgar ac ysgytwol.

Rheswm da
Gwnaed defnydd ardderchog o'r awyrgylch a gynigiai hen garchar Biwmares - yn enwedig o safbwynt y sain y gellid ei gynhyrchu yno. Nid gimic oedd perfformio yno - yr oedd pwrpas i'r peth.

Roedd y sgrechiadau, a'r synau eraill 'all-lwyfan', yn iasol o effeithiol.

Efallai y gallwyd fod wedi gwneud mwy o anniddigrwydd Coulmier wrth iddo weld y perfformiad yn llithro o'i reolaeth - ond gan ei fod ef yn eistedd y tu cefn i gynulleidfa'r capel tebyg nad amharodd hynny yn fawr ar fwynhad neb.

Perfformiadau
Cafwyd perfformiad unigol canmoladwy gan Lois Cernyw er gwaethaf ei anghyfforddusrwydd o fod yn chwarae rhan Marat mewn bath o ddŵr!

Yr oedd yn dra effeithiol yn newid ei hwyliau, oherwydd ei pharanoia, a'i gwahanol ddulliau o ynganu geiriau Marat yn adlewyrchu ei chyflwr mewnol ei hun fel claf.

Yr un modd Ann Barker fel Corday oedd ar adegau yn addfwyn ar adegau yn sinistr - yn glaf ac yn gymeriad mewn drama.

Er mai rhan ymylol oedd iddi hi fel rhan o gorws effeithiol tynnodd Elin Davies sylw fel Francesca, merch y stryd yn dioddef o un o glefydau ei bywoliaeth.

Elin DaviesBu sawl ysgytwad ddramatig yn ystod y perfformiad - mewn gair a gweithred - ond yn ogystal a bod yn her i berfformwyr a chynhyrchydd mae Marat - Sade yn her i gynulleidfa nid yn unig o ran syniadaeth ond o ran ei hadeiladwaith.

Mae'n galw am fwy nag un gwrandawiad.

Gyda'r cymhlethdod hwnnw mewn golwg byddai wedi bod yn gaffaeliad cael rhaglen ar gyfer y perfformiad gyda rhywfaint o gyflwyniad i'r gwaith a'i gysyniadau ac yn nodi, wrth gwrs, pwy chwaraeai y gwahanol rannau.

Roedden nhw a'r cynhyrchydd yn haeddu cydnabyddiaeth am roi inni brofiad i gnoi cil arno.

Cysylltiadau Perthnasol




cyfannwch

caernarfon
welais yr ddrama ac oedd yn un dda iawn



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý