Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dominios - adolygiad
Dilyniant o olygfeydd
  • Adolygiad Glyn Evans o Dominos gan Branwen Davies, Angharad Llwyd, Mared Swain a Manon Wyn. Theatr Genedlaethol Cymru. Perfformiad cyntaf, Clwyd Theatr Cymru. Ionawr 26, 2006.


  • Yng Nghymru mae rhywun yn gyfarwydd iawn a'r cnul arbennig a berthyn i ymadroddion fel "gan yr ifanc" ac "yn arbennig ar gyfer yr ifanc" mewn perthynas â rhaglenni teledu neu gynyrchiadau llwyfan.
    Fe'i synhwyrais yn sgil cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, Dominos.

    Iaith gref a rhyw
    Wrth imi drefnu adolygiad awgrymwyd imi y byddai'n ddoeth cael adolygydd "ifanc" ac, yn wir, yr oedd yna ar wefan y cwmni rybuddion am "iaith gref" a "golygfeydd o natur rhywiol" y mae rhywun yn gwybod yn iawn na all neb dros rhyw oed ddygymod â hwy.

    Ystyr "iaith gref", wrth gwrs, ydi rhegi. Nid yw yr un peth o gwbl a "iaith rymus" y byddai rhywun yn ei chroesawu mewn drama.

    Mae yna gryn ddefnydd o "iaith gref" neu iaith fudr yn y Gymraeg - dim cymaint o iaith rymus neu iaith fydr, hyd yn oed.
    Gwaetha'r modd.

    Rhown hynny o'r neilltu am funud; yn ogystal â rhegi - digon cymhedrol o'r dyddiau hyn - cawsom dameidiau o ddeialog digon gafaelgar a blasus yn ystod y dilyniant o olygfeydd yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Dominos.

    Digon anarferol
    Mae Dominos yn greadigaeth digon anarferol.

    Fe'i sgrifennwyd gan bedair o ferched ifainc cymharol ddibrofiad a gafodd gyfle i ddod at ei gilydd i ymarfer eu doniau.

    Pedair gwaith cymaint o dalent ag arfer ar gyfer un cynhyrchiad, fel yr awgrymodd un ohonyn nhw, heb arlliw o unrhyw hen ffug swildod gwirion, wrth sôn am y fenter ar Wythnos Gwilym Owen ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.

    Gan gofio i gamel gael ei ddisgrifio fel ceffyl wedi ei gynllunio gan bwyllgor edrychwn ymlaen at weld sut anifail theatraidd a fyddai'r pwyllgor-pedair yma wedi esgor arno ac er mwyn cytbwysedd barn fe es a "rhywun ifanc" gyda mi i Clwyd Theatr Cymru.

    Ond gorgyffwrdd â'r un blynyddoedd blin a minnau yr oedd llawer o'r gynulleidfa o bron i gant - er bod yno sawl briallen hefyd yn ein plith.

    Yn eironig ddigon, yn fy achos i, apeliodd y cynhyrchiad fwy ataf i na'r friallen a oedd yn dal i chwilio am "bwynt" i'r peth ar y ffordd adref yn y car.

    Ar yr egwyl yr oedd eisoes yn holi "I ble mae hwn yn mynd?" ac fe'i siomwyd hi a minnau mai yn yr elfennau unigol yr oedd y nerth a champ y cynhyrchiad yn hytrach nag yn ei gyflawnder.

    "Pe byddai ar deledu dydw i ddim yn meddwl y byddwn wedi dal i wylio - neu pe byddwn, fe fyddwn wedi teimlo'n siomedig wedyn," meddai.

    Mewn dinas
    Dilyniant o sefyllfaoedd neu olygfeydd mewn dinas (Caerdydd) a gafwyd - yn ymwneud â saith o bobl ifanc - Siôn, Ann, Nigel, Ceinwen, Robat, Frances a Mati - y mae eu llwybrau yn croesi ac effaith hynny arnyn nhw.

    Y ddelwedd yw un o res o ddominos gyda'r cyntaf yn syrthio yn yr erbyn yr ail, yr ail yn erbyn y trydydd ac yn y blaen.

    Mae rhywun yn amharod i fanylu mewn adolygiad am y cymeriadau na'u ffawd ond maen nhw'n dra gwahanol i'w gilydd ar un wedd ond oll yn cael eu hysu gan eu diafoliaid mewnol.

    Gosodwyd y llwyfan yn y canol gyda rhesi o seddau i'r gynulleidfa y naill ochr a'r llall yn wynebu ei gilydd. Weithiau, golygai hyn mai cefnau actorion oddech chi'n eu gweld.

    Perfformiadau campus
    Cafwyd ambell i berfformiad campus gyda Rhian Blythe fel Ann, y 'Miss Bropor' o'r Gymru wledig, ac Angharad Lee fel Ceinwen o'r Cymoedd yn ganmoladwy iawn.
    Yn wir, doedd neb yn wael a Rhian Blythe a Dave Taylor goleuid yn syth bob golygfa yr ymunai Lee â hi ac y mae rhywun yn edmygu Blythe am fod mor ddeheuig gyda chymeriad mor ofnadwy o ystrydebol - sbectol, gwallt wedi'i dynnu'n ôl yn dynn, siwt, sgert hir - a'n hargyhoeddi ei bod yn gredadwy iddi fod yn y picil yr oedd ynddo mewn dinas.

    Yr oedd rhyw elfen sinistr i Dave Taylor fel Robat.

    Daeth y cyfan i derfyn mewn golygfa ar orsaf y ddinas. Cyn cyrraedd y fan honno cafwyd sawl moment ddigon dramatig gan gynnwys y golygfeydd o natur rywiol.

    Dod at ei gilydd
    O wylio'r cynhyrchiad gall rywun ddychmygu sut y crewyd yr elfennau ond un o ganlyniadau'r dull cydweithredol hwn o weithio, hyd y gallaf i weld, yw bod gennych chi ambell i olygfa wirioneddol afaelgar - mae'n werth nodi y pryd bwyd rhwng Robat (Dave Taylor) ac Ann (Rhian Blythe) a'r olygfa Angel rhwng Ceinwen (Angharad Lee) a Nigel (Trystan Wyn).

    Bu sawl llinell glyfar hefyd fel Nigel (Trystan Wyn) yn cynnig llwnc o Liwcosêd i Ceinwen a hithau'n ymateb gyda'r cwestiwn, "Ti'n sâl?" gan gysylltu'r ddiod hon ond â salwch.

    Ysbeidiau heulog
    Ond er gwaethaf ysbeidiau heulog o'r fath yr hyn na lwyddwyd i'w wneud fu cyfuno ac asio'r rhain yn y fath fodd ag i greu drama a rhoi, yng ngeiriau'r friallen, bwynt i'r cyfan.

    Megis mewn ymarferiad sgrifennu creadigol roedd yr elfennau yn llwyddiannus ond gwelwyd eisiau llaw sicr i'w huno'n gyfanwaith gyda rhywbeth newydd i'w ddweud mewn ffordd newydd a mentrus.

    Tybiaf mai dim ond drama o un pen allai gyflawni hynny. Gweledigaeth, awch a dehongliad unigolyn. Mae mwy i ddrama na chyfanswn ei rhannau.

    Hefyd, o ystyried yr holl ymyrraeth ifanc, yr oedd yn rhywfaint o syndod ac o siom pa mor 'geidwadol' ac ystrydebol oedd llawer o'r elfennau.

    Ble'r beiddgarwch ifanc? Ble'r herfeiddiwch? Ble'r weledigaeth ifanc, wahanol? Ble'r byrbwylledd llencynaidd? Ble'r fenter?

    Na, tra bo Dominosyn gamel digon del dydi o ddim yn geffyl lluniaidd sy'n mynd i ennill unrhyw Grand National.

    Ac am unwaith yr oedd cytundeb barn rhwng hen ac ifanc yn ein teulu ni.
    Doedd Dominos ddim yn dda ond doedd o ddim yn sâl ychwaith ym marn y friallen a'r hen ddant y llew.

    Holi eto
    A chyn gorffen, mae'n deg holi unwaith eto ai dyma'r math o weithgarwch theatraidd y dylai ein theatr genedlaethol fod yn ei ysgwyddo ac yn llafurio arno.

    Onid tiriogaeth rhywun arall yw hwn o arbrofi a meithrin a rhoi cyfle cyntaf i dalentau ifanc?

    Wedi'r cyfan nid oedd Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dim gyda Dominos na fyddai unrhyw un o'n mân gwmnïau eraill ei gynnig.

    Mae hyn, wrth gwrs, yn ymwneud a holl hanfod y cwmni ac yn destun trafodaeth llawer eangach na phwt fel hwn o adolygiad.

    Ond y mae disgwyliadau cynulleidfa yn wahanol yng nghyd-destun ein cwmni cenedlaethol. Onid dyma'r pinacl? Y llwyfan lle gwelir ein perfformwyr a'n dramau gorau? Nid lle chwarae i brentisiaid.

    Y rhaglen
    A chyn gorffen gair am y rhaglen. Un hardd gyda 12 o'i 30 o ddalennau yn ddim ond gwahanol wynebau teils dominos.

    Er bod gwybodaeth am yr awduron, yr actorion â'r cwmni does dim am y ddrama ei hun.

    Ond y mae rhywun yn cwyno fwyaf am y gwastraff gofod gan nadyw hwn math o ddylunio ag i apelio at bobl ifainc sydd gymaint eu gofal o adnoddau naturiol a'r amgylchedd.

    Cysylltiadau Perthnasol
    Mwy am Dominos ac amserlen y daith



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý