Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
BitshBitsh
Catalog o brofiadau anllad a diwedd erchyll
  • Adolygiad Alwyn Gruffydd o Bitsh - addasiad llwyfan John Ogwen o nofel Eirug Wyn.


  • Pan oeddwn i'n llefnyn yn fy arddegau y man cyfarfod i laslanciau - a glasferched - LlÅ·n ac Eifionydd oedd ar y grisiau'n arwain at ddrysau gwydr Sinema'r Palladium ym Mhwllheli.

    Yno y penderfynwyd a oedd yr arlwy diweddaraf o Hollywood y noson honno'n werth hanner coron ai peidio.

    Yn ei thro ymwelodd ffilm o'r enw The Bible - In the Beginning â Phwllheli a phan aed ati yn ôl yr arfer i drafod gwerth gwylio'r ffilm arbennig honno dyma'r ffraethaf o'n plith yn datgan:
    "Tydw i ddim am fynd i'w gweld hi beth bynnag - mae'n well gen i'r Llyfr."

    Anhawster pob addasiad
    A dyna yn y bôn anhawster pob addasiad o waith sydd eisoes wedi ymddangos mewn print.

    Sut mae gwella ar y gwreiddiol?
    Neu hyd yn oed a oes modd ei wella?

    Anhawster amlwg arall gydag addasiadau, wrth gwrs, yw bod rhai yn y gynulleidfa wedi darllen y gwreiddiol a rhai nad ydynt wedi'i ddarllen.

    Ac yr ydych wedi tybio erbyn hyn, yn gwbl gywir, fy mod i'n perthyn i'r garfan gyntaf yn achos Bitsh.

    Nofel fwyaf llwyddiannus
    Roedd, ac y mae, yna bictiwrs arall ym Mhwllheli - sef yr hen Town Hall - "Neuadd Dwyfor" bellach - ac yno yr es i weld yr addasiad diweddaraf ar gyfer y llwyfan.

    Nofel o waith y diweddar, ysywaeth, Eirug Wyn yw Bitsh.

    Hon oedd yr olaf o doreth o nofelau awdur oedd ar dân yn ei sgwennu, ar dân dros ei genedl ac ar dân dros y gwerthoedd gorau.

    Mae'n sicr mai hon oedd ei nofel fwyaf llwyddiannus gan ennyn clod a bri pan ddyfarnwyd Gwobr Goffa Daniel Owen iddi yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002.

    Mewn llai na dwy flynedd roedd Eirug wedi mynd.

    Profiadol yn y grefft o addasu
    Mae'r addasiad gan John Ogwen; ac fel addasiad y mae'n un diddrwg didda.

    Wedi'r cwbl, does dim llai i'w ddisgwyl gan rywun sydd mor feistrolgar a phrofiadol yn y grefft.

    O'm cof bu ei addasiadau o nofelau Caradog Prichard a T Rowland Hughes - Un Nos Ola Leuad ac O Law i Law - ar gyfer y llwyfan yn llwyddiannau nodedig.

    Ond efallai nad yw golygfeydd pytiog Bitsh yn cynnig yr un cyfleon a theimlais innau golli'r dilyniant ar adegau ac efallai mai addasiad ar gyfer radio, neu hyd yn oed ffilm/teledu, fasa orau ar gyfer y nofel arbennig hon.

    Ffantasi rywiol
    Heb ymhelaethu'n ormodol ar y plot, ffantasi yw Bitsh. Ffantasi rywiol nad yw'n gadael nemor ddim i'r dychymyg wrth i'r prif gymeriad, Abednego Thomas - Abi i bawb o'i deulu a'i gyfoedion - ein harwain drwy gatalog o brofiadau anllad hyd at ei ddiwedd erchyll a gwallgof.

    Mae'n treisio ei deulu, yn treisio'i genedl ac yn ei dreisio'i hun.

    Caiff ei gymell a'i brocio gan ganeuon poblogaidd Chwedegau y ganrif ddiwethaf hyd at heddiw.

    Ei wendid yw merched sy'n clymu eu gwalltiau yn pony tail.

    Dywed rhai fod yna elfennau hunangofiannol yma ond pa waith creadigol o bwys sydd heb elfennau o'r fath?

    Yr actorion
  • Y cyfarwydd Jonathan Nefydd sy'n chwarae rhan Abi ac mae'n gwneud hynny gyda'i fedrusrwydd arferol ar lwyfan. Pob sill yn glir - pob symudiad i bwrpas.
    oddi ar y poster
  • Mae Rhian Blythe yn portreadu pum cymeriad i gyd gan lwyddo i wneud iawn â phob un. Dyma actores ifanc sy'n prysur berffeithio ei chrefft ac yn datblygu gyda phob cynhyrchiad.

    Mae ei champ hi a Charwyn Jones - actor ifanc arall eithriadol addawol - o gynnal cymeriadau'r Americaniaid, Juliette a Jake, yn gofiadwy a dweud y lleiaf.

  • Awgrymais dro'n ôl cymaint o drysor yw'r actorion Eilir Jones a Maldwyn John i'r gomedi Gymraeg gyda'r ddawn ganddynt i ennyn chwerthin heb yngan yr un gair a doedd eu hymddangosiad ar lwyfan Neuadd Dwyfor ddim yn eithriad ac er bod yna elfennau sy'n ddoniol o fath ynddi ni ellir honni am funud mai comedi yw Bitsh.

    Ar ôl dweud hynny roedd dehongliad Eilir Jones o'r gweinidog yn berffaith.

  • Un aelod o'r cast sydd ar ôl.
    Chwaraewyd rhan Anti Mabel gan Catrin Fychan a hwn yw'r darn anoddaf o ddigon.

    Mae'n rhaid i'r cymeriad yma ddirywio mewn moes ac mewn ymarweddiad o olygfa i olygfa.

    Ar y dechrau roeddwn yn bryderus o gamgastio. Nid hon oedd yr Anti Mabel o'r nofel. Ond diangen fu'r pryder. Datblygodd Catrin Fychan fel y chwalodd Anti Mabel a chafwyd perfformiad clodwiw a mentrus.

    Gorwneud achlysurol
    Iola Ynyr sy'n cyfarwyddo ac ar wahân i orwneud achlysurol - roedd ymddangosiad y pram yn arbennig o ddiangen - mae'n gynhyrchiad derbyniol iawn.

    Caroline Roberts fu'n gyfrifol am y set ymarferol a dirodres.

    Dyma'r cynhyrchiad cyntaf i deithio Cymru benbaladr gan Gwmni'r Frân Wen a does dim byd fel neidio'n syth i'r dwfn.
    Nid yw Bitch yn gynhyrchiad hawdd. Mae bron a bod yn ffinio â'r anweddus.
    Ond efallai mai fy nychymyg i ydi hynny.
    Wedi'r cwbl rydw i wedi darllen y llyfr.

    Y daith
    Nos Fawrth, 10 Hydref 2006 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
    Nos Fercher, 11 Hydref 2006- Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
    Nos Iau, 12 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
    Nos Wener, 13 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
    Nos Sadwrn, 14 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
    Nos Fawrth, 17 Hydref 2006 - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
    Nos Fercher, 18 Hydref 2006 - Theatr yr Halliwell, Caerfyrddin.
    Nos Wener 20 Hydref 2006 - Theatr Glan yr Afon, Casnewydd.
    Nos Fawrth, 24 Hydref 2006 - Theatr Ardudwy, Harlech.
    Nos Fercher, 25 Hydref 2006 - Theatr Ardudwy, Harlech.
    Nos Iau, 26 Hydref 2006 - Theatr John Ambrose, Rhuthun.
    Nos Wener, 27 Hydref 2006 - Theatr John Ambrose, Rhuthun.
  • Pob perfformiad yn dechrau am 7.30
  • Cynhyrchiad ar gyfer rhai dros 14 oed yw hwn.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Mwy am Bitsh

  • Eirug Wyn yn Eisteddfod Tyddewi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý