Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ffion Dafis Branwen
Cwlwm Celtaidd - cwlwm brau
  • Adolygiad Alwyn Gruffydd o Branwen. Llwyfan Gogledd Cymru. Theatr Gwynedd, Bangor.


  • BRANWEN Ar hyd yr oesoedd ni fu'r berthynas rhwng y Gwyddyl a'r Cymry yn un y gellid ei galw'n un gyfforddus.

    Wedi'r cwbl onid er mwyn ein hamddiffyn ni rhag ymosodiadau o'r gorllewin y teithiodd Cunedda a'i Feibion yma o'r Hen Ogledd?

    Onid gelyniaeth bur o du'r Cymry Anghydffurfiol a wynebai Blant Mair, fel y'u gelwid, ddihangodd i Gymoedd y De rhag angau Newyn Mawr eu gwlad eu hunain?

    Ac onid y Gymraeg a siaradai rhai o'r milwyr mewn lifrai'r 'Brits' a gerddai strydoedd y Falls, y Divis a'r Ardoyne am dri degawd a mwy?

    Cariad yn blodeuo
    Wrth gwrs cafwyd eithriadau wrth i gyfeillgarwch, a chariad weithiau, flodeuo rhwng unigolion o'r ddwy ochr i'r Môr Celtaidd.

    Dysgodd rai ohonom ni'r Wyddeleg fel y dysgodd nifer o Wyddelod y Gymraeg ond at ei gilydd edrych o bell a hynny gydag amheuaeth gynhenid fu hanes y Cymro a'r Gwyddel erioed ac nid oes gwell stori i gyfleu'r amheuaeth honno wy nac ail gainc y Mabinogi.

    Fel y gŵyr y cyfarwydd mae Branwen Ferch Llŷr yn stori o frad, mae'n stori o chwerwder, mae'n stori eithriadol o drist a diobaith hefyd yn y bôn.
    Ond oes ganddi neges i'n dyddiau ni?

    Go brin.
    Er, ar ôl dweud hynny, fe ellid ei defnyddio fel sail i alegori fodern gan edrych eto, gyda thafod yn y boch, ar ein perthynas gyda'n cefndryd Celtaidd.

    Ar y cyd
    A dyna i raddau geir yng nghynhyrchiad diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru neu'n hytrach y cynhyrchiad ar y cyd diweddaraf rhwng y cwmni o Gymru a Chanolfan Gelfyddydau Project yn Nulyn.

    Cofiwch i'r ddau gydweithio'r llynedd hefyd gyda Fron-goch.

    Ysgrifennwyd 'Branwen' ar y cyd gan y Cymro, Ifor ap Glyn, a'r Gwyddel, Darach Ó Scolaí, a chyfarwyddwyd y ddrama ar y cyd rhwng Ian Rowlands, y Cymro, a Darach Mac Con Iomaire, y Gwyddel.

    Cyd-gynhyrchiad o'r iawn ryw felly. Ond yr eironi yw mai cyd-gynyrchiadau o'r byd teledu yw cocyn hitio mwyaf Branwen - ar yr wyneb beth bynnag.

    At ei gilydd
    Ynddi cawn Mari, Cymraes nodweddiadol stormus, emosiynol ac ansicr o Gaerdydd (Ffion Dafis) a Séan, Gwyddel nodweddiadol hunangyfiawn, parablus ac alcoholaidd o Gonamara (Stephen Darcy) yn cael eu taflu at ei gilydd mewn bwthyn y Swydd Wiclo, i lunio sgript deledu ar gyfer ffilm Gymraeg, Wyddeleg a Saesneg (ar gyfer y farchnad ryngwladol!) wedi'i selio ar chwedl Branwen Ferch Llŷr.

     Ond yn ddiarwybod i bawb arall roedd y ddau'n fwy nac adnabod ei gilydd o'u dyddiau'n fyfyrwyr yn Aberystwyth bymtheng mlynedd yn ôl - perthynas a ddaeth i ben yn sur a dweud y lleiaf.

    Megis y Franwen chwedlonol collwyd plentyn, fe'i bradychwyd ac nid oedd amser wedi lleddfu mymryn ar y boen.

    Clodwiw
    Ar noson gyntaf taith Branwen yng Nghymru (bu taith yn Iwerddon yn barod) yn Theatr Gwynedd, Bangor, cafwyd perfformiadau clodwiw gan Ffion Dafis a Stephen Darcy.

    Yn yr un modd Dafydd Dafis fel y cynhyrchydd teledu cartwnaidd bron ei ymarweddiad, a Brídín Nic Dhonncha fel gwraig gwynfanus a thrallodus Séan - y ddau gymeriad naill ai'n ceisio dechrau teulu neu'n ceisio cynnal un.

    Syrthio i bydew
    Yn anffodus - ac yn siomedig braidd - nid yw'r sgript yn deilwng ohonynt ac yn hynny o beth collwyd cyfle.

    Werth i bopeth o driniaethau IVF i agwedd y 'Gardai' tuag at yfed a gyrru erbyn hyn gael eu trafod syrthiodd y cwbl i bydew melodramatig wrth i Mari ei chloi ei hun yn y lle chwech a wrth i Séan ddioddef pigiadau o euogrwydd am yr hyn a wnaed ac am yr hyn a wneir ganddo.

    Ni wnaeth barn Séan y dylid manteisio ar y cyfle i edrych ar chwedl Branwen drwy lygaid Matholwch (brenin Iwerddon) unrhyw les ac roedd ei awgrym y dylid cyflwyno'r cymeriadau ar ffurf ddychanol y Manga Siapaneaidd yn 'dop-hat' ar y cwbl!

    Taflodd y sgript ei gysgod dros y llwyfannu hefyd.
    Mae'n rhaid wrth y deunydd crai os yw'r cynhyrchiad i daro deuddeg ac mi daerwn weithiau bod blas y Manga wedi treiddio o'r sgript i'r cynhyrchiad ei hun.

    Efallai bod hyn y fwriadol ond os felly yna roedd o'n fwriad cynnil dros ben.

    Aml gyfryngol
    Gwnaed defnydd helaeth o'r dulliau aml-gyfryngol diweddaraf yn Branwen i gyfleu lleoliad, awyrgylch ac ambell gyffelybiaeth.

    Bu'r rhan fwyaf o'r dulliau yma'n effeithiol tu hwnt ond yr oedd yna achosion lawn mor aneffeithiol hefyd yn enwedig yr olygfa yn y car.

    Fel Fron-goch drama dairieithog yw Branwen gyda'r Cymry a'r Gwyddelod yn siarad y lingua franca tra bo'r Wyddeleg a'r Gymraeg yn cael eu dangos mewn Saesneg ar sgriniau ar y llwyfan.

    Ond o mae'n rhaid bod yn ochelgar. Nid yw lamb's prick yn swnio'r un fath rhywsut!

    Cafwyd enghreifftiau tebyg yn y Wyddeleg hefyd ond gellid fod wedi gallu osgoi'r 'embaras', chwedl Ifas y Tryc, pe bae'r Wyddeleg wedi'i chyfieithu i'r Gymraeg a'r Gymraeg i'r Wyddeleg.
    Ond, er mwyn ein cyfeillion uniaith debyg...

    Cwlwm Celtaidd
    Daw'r Branwen i ben gyda datganiad o ffydd bod yna'r fath beth â Chwlwm Celtaidd ac yn cael ei ymgorffori, mae'n debyg, mewn cyd gynyrchiadau llwyfan neu deledu.

    Efallai i hynny fod yn wir yn achos Fron-goch oherwydd yr arwyddocâd amlwg a ffeithiol iddi i Gymru ac Iwerddon - ond nid felly Branwen.

    Wedi'r cwbl, nid yw'r enw na'r chwedl amdani'n golygu dim i Wyddel.

    Y Daith:
    Poster
  • Tachwedd 8-9, 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor
  • Tachwedd 14-15 - Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
  • Tachwedd 18 - Theatr Elli, Llanelli
  • Tachwedd 22 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli
  • Tachwedd 24 - Theatr Ardudwy, Harlech

  • Darlith a Symposiwm

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Glyn Jones

  • Fron-goch - adolygiad



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý