Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Deep Cut
Gwobrau i gynhyrchiad Sherman
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o gynhyrchiad Sherman Cymru o Deep Cut gan Philip Ralph.


  • Enillodd cynhyrchiad Sherman Cymru o'r ddrama Deep Cut gan Philip Ralph goflaid dda o wobrwyon a chanmoliaeth yng Ngŵyl Caeredin 2008.

    Ac ar sail y perfformiad a welais yn y Sherman yr wythnos diwethaf haeddai bob anrhydedd.

    Drama yn null y Theatr Verbatim yw hon lle mae pob gair wedi ei godi o adroddiadau a ffynonellau swyddogol a thystiolaeth pobl allweddol.

    Saethu
    Mae'n ymwneud â marwolaeth Cheryl James, 18 oed, fywiog a llawen o Langollen, a saethwyd yn farw yng ngwersyll y fyddin Deep Cut ym 1995, a brwydr ei rhieni, Des a Doreen, i ganfod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd.

    Yr oedd hi yn un o bedwar o filwyr ifanc - a'r unig ferch - a fu farw o anafiadau gwn yn y gwersyll yn y cyfnod rhwng 1995 a 2002.

    Myn y fyddin a'r llywodraeth mai hunanladdiad oedd pob un.
    Hynny er bod un o'r bechgyn wedi llwyddo i saethu ei hun bum gwaith - bedair gwaith o gwmpas ei galon ac unwaith yn ei galon ac un arall wedi llwyddo i saethu ei hun ddwywaith yn ei dalcen!

    Mae'r ddrama yn olrhain ymgyrch ddigalon a rhwystredig y rhieni i ddod o hyd 'i'r gwir'.

    Ar y llwyfan mae'n stori o fwnglera gan yr heddlu o sarhad a difaterwch gan awdurdodau trahaus y fyddin a'r llywodraeth dros ddeng mlynedd o amser.

    Crynhoi
    Camp fawr Philip Ralph yw trylwyredd ei ymchwil a'i lwyddiant yn crynhoi tunelli o adroddiadau a deunydd papur ac oriau o sgwrsio a chyfweliadau i awr a hanner - 90 munud sy'n hedfan mewn chwinciad.

    Brwydr pobl gyffredin yw hon yn erbyn holl rym awdurdodau sy'n ymddangos yn benderfynol o guddio'r gwir.

    Cafwyd cyfaddefiadau gan newyddiadurwyr, hwythau, iddynt fethu yn eu gwaith yn yr achos hwn gyda Mark Lawson yn y Guardian y diweddaraf i wneud hynny wedi iddo weld y ddrama yng Nghaeredin.

    Nid 'mod i'n gweld cymaint â hynny o fai ar y newyddiadurwyr o weld ystrywiau yr awdurdodau i fygu barn y rhieni ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd.

    Ond pan oedd y llywodraeth yn rhyddhau adroddiad hir a chymhleth Nicholas Blake, QC, i'r marwolaethau wnaeth y newyddiadurwyr ddim mwy nag ailbobi'r datganiad swyddogol.

    O'r newyddiadurwyr yr unig rai ddaw allan o'r stori'n anrhydeddus yw Brian Cathcart a Heather Mills o Private Eye. Ystyriwn y cyfle roddwyd i'r rhieni ymateb i adroddiad Blake - trefnwyd lle iddyn nhw gynnal cynhadledd i'r wasg ym mhen arall Llundain. Ddaeth neb yno. Yng ngeiriau Cathcart yn y ddrama, "... cawsom ein twyllo gan yr MoD."

    Cadarnhaol?
    Yn rhyfedd iawn dywedodd yr awdur, Philip Ralph, mewn trafodaeth brynhawn Sadwrn, ei fod yn teimlo'n bositif iawn ynglŷn â'r stori ond yr unig beth cadarnhaol fedrwn i ei ganfod oedd dycnwch a phenderfyniad Des a Doreen James a'r rhieni eraill yn dal ati i frwydro ac i gael gan y Lluoedd Arfog i gydnabod fod ganddynt gyfrifoldeb gofalaeth dros y bobl ifanc hyn - i gyd yn eu harddegau.

    "Rydw i o blaid y fyddin ond yn derbyn yr angen i'w diwygio," meddai Ralph.

    A thystiolaeth y ddrama yw bod, yn sicr, angen diwygio gyda'i darlun o ddiwylliant o fwlio a cham-drin.

    Cafwyd tystiolaeth bellach mewn rhaglen deledu yr wythnos diwethaf nad yw pethau'n gwella.

    Tristaf
    Ceir munud dristaf y ddrama, sy'n cyfleu difaterwch ffiaidd, tua'r diwedd lle mae'r Cyrnol Josling, pennaeth Deep Cut adeg marw Cheryl yn cyfarfod Des a Doreen James am y tro cyntaf, ddeng mlynedd wedi marwolaeth eu merch.

    Mae'n ceisio rhoi'r argraff ei fod wedi eu cyfarfod o'r blaen ac wedi sgrifennu atynt.

    JOSLING: Chawsoch chi ddim llythyr gen i?
    DES: Naddo. Dim byd.
    JOSLING: Mae e yng nghefn fy meddwl - oeddech chi ddim yn byw yn ardal Abertawe ar y pryd?

    A ellid dychmygu dim mwy sarhaus, mwy difater?

    Drama arall
    Mae'n debyg bod dramodydd arall yn sgrifennu drama am fywyd a brwydr rhieni un arall o'r milwyr fu farw yn Deep Cut.

    Mae hynny'n ardderchog.
    Yn y cyfamser, rwy'n argymell yn gryf y gyfrol Deep Cut, sy'n cynnwys sgript y ddrama yn ogystal ag amryw ddogfennau a thystiolaethau ychwanegol. Fe'i cyhoeddir gan Oberon Modern Plays. £8.99.


    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý