Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafliad Carreg
Direidi'n troi'n drychineb
  • Adolygiad Glyn Evans o Tafliad Carreg. Theatr Arad Goch. Theatr Elwy, Llanelwy. Chwefror 8, 2006


  • Ail agor hen gŵys mae Theatr Arad Goch gyda'i gynhyrchiad cyntaf ar gyfer 2006.
    Perfformiwyd Tafliad Carreg gyntaf gan y cwmni theatr mewn addysg hwn bum mlynedd yn ôl a chystal y derbyniad a gafodd y ddrama fer ond ysgytiol hon nid yw'n syndod i'r cwmni ddychwelyd ati.

    Trosiad o Stones gan Tom Lycos a Stefo Nantsou ydi Tafliad Carreg ac wedi ei sylfaenu ar stori wir o Awstralia yn ymwneud â helynt dau fachgen 15 ac 13 oed (Owain Llŷr Edwards ac Iwan Charles) sy'n cael eu dwyn gerbron llys wedi eu cyhuddo o ladd modurwr trwy daflu carreg at ei gar oddi ar bont dros ffordd brysur.

    Y sbardun i'r awduron oedd pennawd ymfflamychol mewn papur newydd yn Awstralia lle bu'r digwyddiad, "Boys on Death Charge".

    Cefndir Cymreig
    Ar gyfer cynhyrchiad Arad Goch addaswyd y stori ar gyfer amgylchiadau yng Nghymru - Jones a Roberts yw'r ddau blismon er enghraifft ac y mae cyfeiriadau at bethau fel 'profiad gwaith' ac yn y blaen.

    GolygfaYn nodweddiadol o Arad Goch mae'r sgript wedi ei theilwrio ar gyfer disgyblion ysgol - cyfoedion y ddau fachgen yn y stori - ac i fod yn sbardun i drafodaeth ymhlith y disgyblion wedi'r perfformiad.

    Yn anffodus, gan mor brin y gynulleidfa mewn perfformiad gyda'r nos yn Theatr Elwy, Llanelwy, cafodd yr elfen honno o drafodaeth ei hepgor ac yr oedd hynny yn golled amlwg gan fod cymaint o bethau yn yr awr hon o ddrama y gellid dal pen rheswm ynglŷn â hwy.

    Egniol
    Ymhlith yr elfennau yr oedd y syniad o gyfiawnder, natur anystywallt pobl ifanc, eu perthynas â'i gilydd, eu hagweddau ac agweddau pobl tuag atyn nhw.

    . Yn naturiol, ac yntau ond yn parhau am awr, mae hwn yn gynhyrchiad egniol gyda digon o fynd a chyffro ynddo.

    A chyda dim ond dau actor yn cymryd rhan mae'r gofynion yn fawr arnyn nhw nid yn unig yn gorfod chwarae rhan y ddau fachgen ond hefyd gymeriadau eraill a throi, o bryd i'w gilydd, yn 'storïwyr' hefyd.

    Dygymod yn iawn
    Mae'n deg dweud i Iwan Charles ac Owain Llŷr Edwards ddygymod yn foddhaol a'r gofynion hyn a'r alwad ychwanegol arnyn nhw i feimio a chreu eu heffeithiau sain eu hunain - sŵn ceir yn pasio ac yn y blaen ac yr oedd hyn yn llawer mwy effeithiol nag a fyddai rhywun yn ei dybio o ddarllen am y peth fan hyn.

    Gwnaed defnydd helaeth o ychydig iawn o bropiau hefyd.

    Er mai cyfyngiadau cwmni bychan ar daith sy'n gorfodi teilwrio o'r fath daeth y cyfan at ei gilydd yn daclus ac effeithiol iawn ac er yn ddrama drist a thrasig yn ei hanfod y mae pethau i oglais cynulleidfa hefyd.

    Mae'r portread o'r berthynas rhwng y ddau fachgen yn un craff iawn - yr hynaf yn cymell a'r ieuengaf eisiau plesio ac yn gorfodi ei hun i wneud rhai pethau rhag cael ei ystyried yn gachgi.

    Perthynas sy'n gymysgedd od o gyfeillgarwch a gormes yw hon - un o annifyrrwch a brawdgarwch mewn antur.

    Diweddarwyd rhywfaint ar iaith a chyfeiriadaeth y cynhyrchiad gwreiddiol ar gyfer 2006 ond yn y gwraidd yr un cynhyrchiad â'r gwreiddiol yw hwn hyd y gallaf gofio.

    Yn 2000 daeth y dramodwyr o Awstralia i Gymru i gynhyrchu ond y tro hwn Sêra Moore Williams sy'n cynhyrchu.

    Canmolodd Iwan Charles y ddrama am fod mor berthnasol i fywydau pobl ifainc heddiw gyda'i chymysgedd o "angst a hiwmor".

    Dechreuodd y daith yng Nghasnewydd ar Chwefror 6, 2006.

    Manylion taith 2006
    Chwefror
    6- Riverfront, Casnewydd, 1.30pm & 7.30pm, Swyddfa Docynnau 01633 656757
    7 - Ysgol Bryntawe, Abertawe, Menter Iaith Abertawe 01792 460906
    8 - Theatr Elwy, Ysgol Glan Clwyd, John Evans 01745 582611
    9 - Neuadd Dwyfor Pwllheli, 1.30pm & 7.30pm, Swyddfa Docynnau 01758 704088
    13 - Galeri, Caernarfon , Swyddfa Docynnau 01286 685222
    14 - Muni, Pontypridd, 1pm, Swyddfa Docynnau 01443 485934
    15 - Ysgol Bro Morgannwg, Menter Bro Morgannwg 01446 720600
    17 - Neuadd Bronwydd, Iwan Evans, Menter Taf Myrddin 01994 241222
    21 - Chapter, Caerdydd, 8pm, Swyddfa Docynnau 02920 304400
    23 - Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, 6.30pm 01970 617998
    27 - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre, (English Performance), Box Office 01970 623232
    28 - Theatr Llwyn, Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Dux 07817175305
    Mawrth
    1 - Neuadd Dinas Mawddwy, Clwb Ffermwyr Ifanc Dinas, Gwawr 01650 511946
    2 - Canolfan Gymunedol Penmaenmawr, Menter Conwy, 01492 642357
    3 - Theatr Gwynedd, Bangor 01248 351708
    6 - Ysgol Gyfun Ystalafera, Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot 01792 864949
    7 - Ysgol y Cymer, Menter Rhondda, 01685 882299
    8 - Theatr Ardudwy, Harlech 01766 780667
    9 - Ysgol Uwchradd Caergybi/ Holyhead High School, Cyngor Sir Ynys Môn, 01248 752939 (English Performance)
    10 - Ysgol Bro Ddyfi, Nicola Dunkley, Gwasanaeth Ieuenctid Powys, 01654 703514

    Cysylltiadau Perthnasol


    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý