Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Rhiannon MorganCrash
Drama i'r ifanc gan Sêra Moore Williams
Adolygiad gan Glyn Evans

Dim ond saith oedd yn y gynulleidfa ar gyfer Crash yng Nghlwb Rygbi Dinbych - wyth gyda'r adolygydd!

Gerbron cyn lleied mae'n deyrnged i'r tri actor a'u cerddor (Owain Llyr) iddynt berfformio gyda chymaint o arddeliad - go brin iddi fod yn hawdd iddyn nhw gymryd y noson o ddifrif gerbron cyn lleied. Ond fe wnaethon nhw.

Cynhyrchiad i blant ysgol a rhai yn eu harddegau oedd un Sêra Moore Williams i Gwmni Theatr Arad Goch - a dyna oedd hanner y gynulleidfa a oedd i'w gweld yn gwrando'n astud iawn ac yn mwynhau.

Pobl ifanc
Yr oedd yn gynhyrchiad addas hefyd i oedolion; yn agor cil y drws ar fywydau pobl ifanc yn eu harddegau - y pethau sy'n eu poeni a'u ffordd o ddygymod a hwy.

Elin a Wes Yn parhau ond ychydig dros awr mae'r stori'n tyfu trwy gyfrwng nifer o olygfeydd byrion - teledol eu hyd - rhwng tri chymeriad.

Pwysau teuluol
Disgyblion blwyddyn arholiad yn yr un ysgol uwchradd ydi Wes (Dafydd Rhys Evans) , Rhys (Rhys ap Trefor) ac Els (Rhiannon Morgan) sydd yn ganolog i'r stori fel y cyswllt rhwng y ddau gymeriad arall.

Mae'r tri, yn eu gwahanol ffyrdd, yn gwrthryfela ac yn ceisio torri'n rhydd o hualau teuluol.

Daw Els - Elin yn go iawn - a Rhys o 'gartrefi da' ond Wes o deulu mwy anffodus ac wedi torri'n rhydd ar ôl cael ei guro gan ei dad.

Mae'n yfed fodca, yn ymwneud â chyffuriau - ac yn dwyn ceir a'u rasio a hynny'n rhoi i'r ddrama ei theitl.

Mae Els dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad ag ef; yn methu cadw ei dwylo oddi arno; wedi mopio'n llwyr ag ef; wedi ei swyno gan ei ryfyg a'i fenter a'i ddifeindrwydd.

Perthynas ffrindiau gorau ydi un Els a Rhys, o safbwynt Els, ond yn un ddyfnach i Rhys.

Rhys yw'r un y gall Els drafod ei phroblemau ag ef ac mae'n ysgytwad iddi pan yw'r ddau yn ffraeo ac ymbellhau dan ddylanwad difaol Wes.

Yn un sy'n cymryd ei waith ysgol o ddifrif ac yn gobeithio am rhyw fath o ddyfodol iddo'i hun gofidia Rhys fod y ferch y mae am ei chael yn gariad yn caniatáu cael ei hudo ar gyfeiliorn gan Wes anystywallt.

I Wes mae Rhys ac Els fel ei gilydd yn posh ac mae'n rhaid amau ei gymhellion o'r cychwyn ynglÅ·n ag Els.

Rhys a Wes Arwain hyn oll at wrthdaro rhwng Wes a Rhys sy'n cyrraedd ei benllanw mewn ffeit drawiadol rhwng y ddau.

Cyrraedd y ddrama ei hun ei huchafbwynt ar golgwyn uwchben y môr ond efallai bod hon yn un o'r ychydig olygfeydd y gellid fod wedi ei thynhau.

Hiwmor hefyd
Er yn trafod problemau a theimladau digon ysig dydi'r ddrama ddim heb ei hiwmor ac mae dialog slic sy'n argyhoeddi rhwng y cymeriadau.

Wes: Be sy gen ti y pnawn 'ma?
Els: Math gynta - be sy gen ti?
Wes: Dwi'n mynd i'r dre . . .

Ac meddai Rhys sydd yn cael cysur o fwyta pob math o sothach :
"Dwi'n meddwl mod i'n bwlemic - jyst ddim yn gwneud y chwydu bit."

Mae'r sgwrsio, wrth gwrs, yn frith o'r dywediadau hynny sy'n lefeinio iaith pobl ifanc y dyddiau hyn - ti'n sad, get a leiff; no way, whatever ac yn y blaen.

Mae'r tri actor gystal a'i gilydd yn eu gwahanol rannau.

Syml a diwastraff
Yn sioe sydd wedi ei chynllunio ar gyfer ymweliadau ag ysgolion ac ystafelloedd cyfyng mae'r llwyfannu syml a diwastraff yn ddigon effeithiol, serch hynny, gyda'r actorion eu hunain yn gosod y props rhwng y golygfeydd - ond byddwn wedi bod yn fwy cyfforddus pe byddai Owain Llyr cymeriad nad oedd yn rhan o olygfa allan o'r golwg yn hytrach nag yn eistedd ger ochr y llwyfan yn 'disgwyl ei dwrn' fel petai.

Ond ar y cyfan, ychydig iawn o le sydd yna i weld beiau gyda'r cynhyrchiad hwn ac yr oedd yn drueni i gyn lleied fanteisio ar y cyfle i'w weld yn Ninbych.

Gobeithio y bydd gwell cefnogaeth yn ystod gweddill y daith o amgylch Cymru a diau, mewn perfformiadau mwy niferus y byddai cyfle i ymuno â disgo trawiadol sydd yn y stori.

Dyma weddill y daith:
Ionawr 27 Ysgol Gyfun Llangefni. 01248 752939.
Ionawr 28, Canolfan Gymunedol Llanrwst. 01492 642357.
Ionawr 31 - Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Y Barri. 01446 720600.
Chwefror 1 - Y Ganolfan Gymraeg, Merthyr Tudful. 01685 722176.
Chwefror 2 Ysgol Gyfun Ystalyfera. 01792 460906.
Chwefror 3 - Yr Urdd, Canolfan y Mileniwm. 02920 635685.
Chwefror 4 - Ysgol Gyfun Cymer, Y Rhondda. 01685 882299.
Pob perfformiad yn dechrau am 7.30.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý