Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Huw Garmon - nid Hedd Wyn y tro hwn (Llun gan S4C)Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Adolygiad gan Eifion Lloyd Jones
  • Adolygiad Eifion Lloyd Jones o gynhyrchiad Llwyfan Gogledd Cymru o Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr gan Iwan Llwyd. Theatr Gwynedd, Mawrth 3, 2007.

    Breuddwydio am y sêr?
    Cynhyrchiad cynnil ac effeithiol sy'n gadael ei ôl ar feddwl a theimlad y gynulleidfa oedd hwn gan Lwyfan Gogledd Cymru, ond heb ddilyn trywydd unrhyw gwestiynau dadleuol iawn.

    Roedd teitl drama Iwan Llwyd yn gwrth-ddweud cerdd Hedd Wyn, Y Blotyn Du, ac felly'n awgrymu fod cwestiynau niferus y gellid eu gofyn am hanes a myth y bardd o'r Ysgwrn.

    Haeriad go chwyldroadol
    Mae'n naturiol fod ei farw'n ŵr ifanc ar Gefnen Pilkem cyn taenu'r lliain du dros gadair Penbedw wedi cynhesu emosiynau'r genedl tuag ato.

    Ac mae'n rhesymol tybio y gallai'r awdurdodau gwleidyddol fod wedi ceisio manteisio ar hynny i chwifio baner aberth yr hogia' dros eu "gwlad".

    Ond awgrymai cyhoeddusrwydd y cwmni ymlaen llaw mai er mwyn codi'r faner honno y dyfarnwyd mai Fleur-de-lys oedd piau'r gadair ac nad oedd o'n wir yn ei haeddu - haeriad go chwyldroadol i'r genhedlaeth hÅ·n sydd wedi cadw lle annwyl i Elis Evans yn eu calonnau ar hyd y blynyddoedd.

    Yn ffodus, nid dyna oedd neges y ddrama i mi ond cyfle i rannu teimladau tebygol llanc digon cyffredin o Drawsfynydd a gafodd ei aberthu, fel y miloedd anadnabyddus, yn ffosydd Ewrop.

    Aros yn y cof
    Set syml, lonydd, pur wag, oedd ar y llwyfan, yn cynrychioli bar yfed tlodaidd a budr un o strydoedd cefn chwilfriw Fflandrys, ac oherwydd ei symlrwydd naturiol, mae'n debyg, y mae'n ddelwedd sy'n parhau yn y cof wedi'r cynhyrchiad - a'i gwacter yn cyfleu gwacter ystyr y gyflafan o'i chwmpas.

    Merch ifanc gyffredin sy'n gwarchod y bar, merch sydd wedi dioddef creithiau emosiynol y rhyfel ond sy'n dal i freuddwydio am yfory gwell pan fydd ei chariad o yrrwr trên yn cyrraedd i'w chipio i wynfa well.

    Mae hi'n anwylo'r sodlau uchel coch fydd yn adfer y ddawns i'w bywyd llwyd.

    Yr actorion
  • Rhian Blythe sy'n portreadu'r ferch yn effeithiol dros ben gyda'r symlrwydd naturiol yn ei symud a'i llefaru yn argyhoeddi; fel sy'n nodweddiadol o waith Rhian.

  • Huw Garmon sy'n meddiannu'r llwyfan am gyfran helaeth o'r ddrama ond nid fel Hedd Wyn y ffilm.

    Rwsiad, neu Wcraniad, ydi o yma, yn filwr o dras sydd wedi'i ganfod ei hun mewn brwydr y mae'n disgwyl gweld ei diwedd "cyn y Nadolig", er mwyn dychwelyd i frwydr bwysicach yn ei famwlad.

    Breuddwydio y mae yntau, felly, am oruchafiaeth y bobl dros hen drefn uchelwrol Rwsia, ond fod osgo'r uchelwr milwrol yn ei ymarweddiad ei hun.
    Dyma berfformiad grymus llawn argyhoeddiad gan Huw Garmon.

  • Huw Llyr, fel Hedd Wyn, oedd y cymeriad gwanaf ar y llwyfan - ac nid beirniadaeth o'r actor mo hynny.

    Roedd yntau'n argyhoeddi fel y milwr diniwed ar gwr y llwyfan oedd ddim yn deall arwyddocâd y rhyfel ond oedd yn magu peth hyder o'r poteli cwrw

    Yr hyder hwnnw oedd yn ei alluogi yntau i rannu'i freuddwyd - am ennill cadair y Genedlaethol.

    Ac er bod dyfynnu barddoniaeth yn anorfod, 'doedd dim gormod ohono, hyd yn oed o Saesneg Shelley.
    Ond mi fyddwn i'n awgrymu mai'r pregethu undonog am gerdd Shelley oedd un o ychydig wendidau'r cynhyrchiad.

    Heb ddilyn y ffasiwn!
    O grybwyll y dyfynnu derbyniol o gerdd Saesneg, dyma gyfle i ganmol y dramodydd am beidio â dilyn y ffasiwn syrffedus o gael cymeriad neu ddau ym mhob drama lwyfan a theledu i siarad Saesneg.

    Yma, roedd milwr o'r Wcrain a merch o wlad Belg yn llefaru Cymraeg mor naturiol â'r llanc o Drawsfynydd.

    Bardd ydi'r dramodydd

    Sgript gredadwy, ac eto, nid sgript gyffredin oedd hi. Roedd rhythmau a delweddau yn cyfleu mai bardd ydi'r dramodydd.

    Camp fawr Iwan Llwyd oedd gwneud i'r farddoniaeth lafar swnio mor naturiol yma.
    Dim ond unwaith neu ddwy y clywyd ambell ffurf rhy lenyddol, fel "i f'atgoffa" a "'Doeddwn i ddim".

    Roedd llinellau llafar gafaelgar yn llawer mwy cyffredin:
    "Mae'r dre 'ma'n bla o Gymry sy'n meddwl bod nhw'n feirdd" a "Be' ŵyr bardd am y byd go iawn?"

    Gydag ambell ddyfyniad o ddyddiadur Hedd Wyn yn gymysg â'r ddeialog rhwng y cymeriadau, 'doeddwn i ddim wedi f'argyhoeddi'n llwyr o'u gwerth, ac eto 'doedden nhw ddim yn dramgwydd, 'chwaith.

    Pethau i'w cofio
    Eiliadau cofiadwy oedd:
  • Arwisgo'r bardd â Jac yr Undeb,
  • Cymharu'r Archdderwydd â Tsar Rwsia,
  • Chwifio'r cledd yn fygythiol uwchben y bardd,
  • Ac yn arbennig y recordiad Eisteddfodol o "A oes heddwch?" yn gymysg â tharannu'r gynnau mawr.

    Chwalu'r breuddwydion
    Drama gynnil a chofiadwy, felly, a'r olygfa ola'n afaelgar dros ben: ar ôl i bleidiwr y Faner Goch ymadael, mae Alois yn tynnu'r sodlau uchel coch, cyn i olau coch y gwaed ganolbwyntio ar y blodau coch o amgylch cadair wag yr Eisteddod ffug.

    Dyma olygfa fud sy'n crynhoi sgript grefftus am chwalu breuddwydion oedd yn gwrth-ddweud teitl y ddrama tra'n cadarnhau barddoniaeth Hedd Wyn:
    "Nid oes gennym hawl ar ddim byd
    Ond ar yr hen ddaear wyw."


    Y daith
    Cychwynnodd y daith yn
  • Theatr Gwynedd, Bangor, Mawrth 2 a 3
    gan ymweld wedyn â:
  • Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Mawrth 6
  • Theatr Ardudwy, Harlech, Mawrth 8
  • Theatr Elli, Llanelli Mawrth 10
  • Canolfan Hamdden, Llanfair Caereinion Mawrth 12
  • Galeri, Caernarfon, Mawrth 15.
    Clwyd Theatr Cymru, Mawrth 16.
  • Neuadd Gyhoeddus, Llanrwst, Mawrth 17.
  • Chapter, Caerdydd, Mawrth 19 - 20.
  • Neuadd y Pentref, Trawsfynydd, Mawrth 22.

  • Cysylltiadau Perthnasol

  • Rhagor am y ddrama

  • Vaughan Hughes ac Ian Rowlands yn trafod


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý