Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Golygfa o'r ddramaYn y Ffrâm
'Actio cryf mewn cynhyrchiad cryf'
  • Adolygiad Fiona Elias o Yn y Ffrâm. Talaith y Canolbarth, Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd. Coleg y Drindod, Caerfyrddin, Gorffennaf 11, 2008.


  • Noson mewn amgueddfa
    Ar ddiwedd wythnos hir o ddysgu, a diwedd y tymor yn agosáu ond yn dal i deimlo fel oes cyfan i ffwrdd, y peth olaf roeddwn i eisiau ei wneud oedd treulio nos Wener mewn amgueddfa.

    Ond, dyna'n union wnes i, nos Wener, Gorffennaf 11, a rhaid cyfaddef imi fwynhau'r ymweliad yn fawr!

    Roedd hon yn amgueddfa ddiddorol a phrysur iawn.
    Cefais fy arwain o amgylch gan y tywyswyr brwdfrydig, ac roedd yn hyfryd gweld yr amgueddfa mor llawn.

    Yno, ar yr un noson a mi, roedd Mr a Mrs Charles a Heti Jones, criw siaradus a byrlymus o Ferched y Wawr, oddeutu 10 disgybl ysgol, Iolo'r artist a'i grŵp o ddilynwyr, y ddau feddwyn - a hyn dim ond i enwi llond llaw.

    Wrth gwrs, nid ymweld ag amgueddfa go iawn wnes i ond, yn hytrach, gwylio perfformiad talaith y Canolbarth o'r ddrama Yn y Ffrâm gan Catrin Dafydd.

    Roedd 38 o bobl ifanc a thalentog yn y cast; rhai ohonynt yn amlwg wedi teithio cryn bellter ar gyfer yr ymarferion, a hyn yn dangos eu hymrwymiad i'r cwmni a'u brwdfrydedd i berfformio.

    Hoelio sylw
    Wedi i ni'r gynulleidfa brynu ein tocynnau a sefyll am ychydig yn sgwrsio a hwn â'r llall, cawsom ein tywys i'r "amgueddfa" ac, o'r funud honno, roedd fy sylw wedi ei hoelio ar y perfformiad syml ond slic yma.

    Roedd awyrgylch eithaf sinistr wrth i'r ddrama ddechrau, gyda'r cast yn cerdded yn llechwraidd i'w safleoedd i gyfeiliant ffliwt, a'r mwg yn ychwanegu at y tymer priodol.

    Dechreuwyd y perfformiad gyda'r cast cyfan yn llefaru a chanu, a'r geiriau yma'n ymddangos yn rheolaidd trwy'r perfformiad.

    Fel sydd wedi'i gasglu'n barod, drama wedi'i lleoli mewn amgueddfa yw hon, ac yn y bôn y neges mae Catrin Dafydd yn ei chyfathrebu trwy'r digwydd a'r ddeialog yw'r hyn sydd yn digwydd mor aml yn ein cymunedau a'n siroedd yn ddiweddar, sef moderneiddio a newid.

    Tro ar fyd
    Trwy lygaid y tywyswyr, cawn gipolwg o'r hyn sy'n digwydd yn yr amgueddfa'n feunyddiol a'r math o bobl sy'n galw yno. Cofiwch, nid pawb sy'n dod i'r amgueddfa ar gyfer y rhesymau iawn!

    Actorion yn ymarfer Ond, daw tro ar fyd pan fo'r ddau gynghorydd yn galw draw i weld Mrs Davies, y rheolwraig, a mynnu bod angen newid, a hynny gydag 'N' fawr!
    Gwneud y busnes yn fwy llwyddiannus, a bod yn fwy trefnus.

    Pwy yw'r un fydd yn gallu achub yr amgueddfa a'i newid er gwell? Neb llai na'r rheolwr newydd, Alan Fisher.

    Er ei fod yntau yn siarad Cymraeg, mae ganddo acen Seisnigaidd ac mae'n fwriad ganddo weddnewid yr amgueddfa'n gyfangwbl.

    Mae'n gosod rheolau newydd; iwnifform newydd i'r staff, offer gwrando am £10 yn hytrach na gwasanaeth y tywyswyr , dim bwyta (trychineb mawr i Charles a Heti Jones!) ac yn bendant does dim croeso i'r henoed eistedd o amgylch yn gwneud dim.

    Rhaid i bawb symud o amgylch y lluniau fel peiriannau, does dim amser i stopio, edrych a gwrando.

    Ddim yn llwyddiant
    Wedi'r agoriad swyddogol mawreddog, gwario'r holl arian er mwyn gwneud mwy o elw - gydag 'E' fawr wrth gwrs - mae'n gwbwl amlwg nad yw'r ffordd fodern, newydd yn llwyddiant.

    Rhaid ffarwelio â Fisher a daw Mrs Davies yn ôl i'r amgueddfa ac wrth iddi godi'r allwedd oddi ar y llawr mae hynny'n symbol clir o'r hen ffordd o fyw yn trechu'r newydd.

    Diweddglo gobeithiol sy'n rhoi hyder i gymaint o bobl sydd yn brwydro yn erbyn newid a moderneiddio - cau ysgolion bychain, cymunedau gwledig yn colli eu swyddfeydd post - ac hefyd yn ddiweddglo, i bobl fel y cynghorwyr i gnoi cil arno, y rhai hynny sydd mor barod i wneud penderfyniadau fel hyn er mwyn arbed arian, a gwneud mwy o elw, ond nad ydynt wir yn sylweddoli'r effaith hir dymor.

    Yr actio
    Teimlaf bod nifer o gryfderau i'r perfformiad yma ac un ohonynt oedd safon yr actio.
    O ystyried oedran y cast gwelwyd enghreifftiau o gymeriadu cryf a chredadwy a phob actor yn defnyddio'u lleisiau'n effeithiol.

    Er nad oedd 'prif ran' roedd gan Gethin Lewis, un o'r tywyswyr, ran allweddol.

    Ef oedd un o'r rhai cyntaf i'n croesawu i'r amgueddfa ac ef hefyd oedd gyda'r olaf i ffarwelio â ni.
    Roedd yn sicr iawn yn ei ran ac roedd yn siarad yn ddiddorol.

    Camp anodd oedd gyda Guto Ifan a Elliw Dafydd, sef portreadu cymeriadau Charles a Heti Jones, y cwpwl oedrannus ac roeddwn wedi fy llwyr argyhoeddi gyda'r actio gyda'r ddau yn defnyddio eu cyrff a'u hystumiau'n briodol ac effeithiol.

    Roeddwn wedi gwirioni gyda'r criw o Ferched y Wawr. Credadwy a doniol yw'r ddau air mwyaf addas i'w disgrifio!

    Er mai ond llinell neu ddwy oedd gan rai aelodau o'r cast yn y perfformiad, roeddent yn actio gydol yr amser a nifer o'r actorion ifanc yn dangos emosiwn eu cymeriad yn gwbwl glir drwy'r wyneb a'r corff.

    Ar y llwyfan
    Cryfder arall oedd y modd roedd y cast wedi eu gosod ar y llwyfan.
    Gwnaethpwyd y defnydd gorau o'r gofod actio ac roedd yr actorion yn symud o amgylch y llwyfan yn gyson a slic.

    Wrth i sefyllfaoedd unigol gael eu cyflwyno i'r gynulleidfa, roedd gweddill y cast wedi'u gosod mewn lluniau llonydd ac er imi edrych yn graff ni welais yr un o'r 38 yn colli eu canolbwyntiad - da iawn wir.

    Roedd y set yn syml - chwe ffrâm o wahanol faint, cwpwl o feinciau, bwrdd a phiano - a hynny yn gwbwl ddigonol.

    Trawiadol oedd y defnydd a wnaed o'r golau gyda defnydd o amrywiaeth o liwiau er mwyn cyfleu'r awyrgylch briodol ar gyfer pob sefyllfa.

    Hoffais yn enwedig y defnydd a wnaed o'r golau er mwyn cyfleu camerâu, yn agoriad swyddogol yr amgueddfa ar ei newydd wedd.

    Cerddoriaeth
    Braf oedd gweld y cast eu hunain yn darparu'r gerddoriaeth, a diolch i Beca Davies am gyfeilio ar yr allweddell a Heledd Gwyn ar y ffliwt. Roedd y gerddoriaeth yn bendant wedi ychwanegu at y perfformiad.

    Dyma enghraifft dda o ddramodydd, cyfarwyddwyr ac actorion wedi cydweithio'n llwyddiannus i greu perfformiad diddorol - doniol ar adegau - ond hefyd yn codi cwestiynau oedd, yn fy marn i, yn cael eu ateb am werth newid a moderneiddio.

    Mwynheais bob munud o fod yn yr amgueddfa ac os cewch chithau'r cyfle yn ystod wythnos yr eisteddfod, mynnwch eich tocyn hefyd.

  • Adolygiadau eraill o gynyrchiadau 2008 Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý