Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nia Roberts - EstherEsther - adolygiad
Cynhyrchiad godidog
  • Adolygiad Eifion Lloyd Jones o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Esther gan Saunders Lewis. Clwyd Theatr Cymru, nos Sadwrn, Ebrill 22, 2006.


  • Ar ddechrau eu Tymor o Glasuron, mae'n braf cael datgan yn hyderus fod y Theatr Genedlaethol wedi dod i'w hoed.

    Dyma gynhyrchiad teilwng a chaboledig, gyda sawl perfformiad nodedig ac un cwbl arbennig.

    Daniel Evans Er mai fel drama radio y comisiynodd Emyr Humphreys Saunders Lewis i gyfansoddi Esther tua diwedd y pumdegau, mae ei ŵyr, Guto Humphreys, wedi cynllunio set urddasol blaen a chymesur o dywodfaen ymddangosiadol sy'n creu cyfle i'r actorion sefydlu perthynas agos a llwyddiannus â chynulleidfa'n hoes ni.

    Coler a thei
    I'r un perwyl o gyfoesi ag y gwnaeth John Gwilym Jones gydag ail gynhyrchiad llwyfan Esther bryd hynny, gwisgwyd cymeriadau'r cynhyrchiad hwn, hefyd, yn nillad cyfnod canol y ganrif ddiwethaf, gan atgoffa'r gynulleidfa'n weladwy fod triniaeth y Natsïaid o'r Iddewon yn adleisio bwriad Haman ac Ahasferus yn Llyfr Esther yn yr Hen Destament.

    'Doeddwn i ddim wedi f'argyhoeddi'n llwyr fod hynny'n gam doeth: go brin fod ei weld yn gwisgo siwt a choler a thei yn cyfleu mawredd teyrnasiad brenin Persia Fawr, a estynai o Ethiopia i'r India, nac awdurdod gŵr oedd yn gallu cyhoeddi difodiant Iddewon yr holl fyd.

    Dichon y byddai gwisg arweinydd Arabaidd Dwyrain Canol ein cyfnod ni yn fwy effeithiol wrth berthnasu ag eithafiaeth dau ddiwylliant (neu ddau ddiffyg diwylliant) yr oes hon.

    Heb egwyl
    Gyda'r ddrama wreiddiol wedi'i rhannu'n dair act draddodiadol, cryn syndod oedd canfod na fyddai unrhyw egwyl ac y bwriedid cyflwyno'r cyfanwaith mewn rhyw awr a hanner.

    Aeth yr amser ar wib, heb unrhyw awgrym o lusgo na meithder yn chwarae'r cymeriadau.

    Ond un anfantais cyfuno'r tair act oedd y gostwng tensiwn a chyffro anorfod ar ddechrau pob act - yn dilyn uchafbwynt dramatig yr act flaenorol.

    Yn draddodiadol, byddai'r agoriad tawel yn ail-afael bwriadol ar ddechrau pob act cyn i'r tensiwn gynyddu unwaith eto.

    Ond o gyfuno'r cyfan, teimlai'r canu a'r dawnsio ar ddechrau'r act ola' fel ychwanegiad y byddwn i wedi dymuno'i osgoi er mwyn parhau gyda'r cyffro.

    Balch iawn ohono
    At y perfformiad ei hun, dim ond ail gynhyrchiad Daniel Evans, ac un y gall fod yn falch iawn ohono, gyda'r patrymu llwyfan yn canoli'r sylw'n effeithiol trwy'r amser, a'r llefaru'n eglur ac yn argyhoeddi gan bob cymeriad.

    Llwyddodd, hefyd, i fanteisio ar yr ychydig ysgafnder sydd i'w ganfod ymhlith yr areithiau grymus.

    Mae'r llefaru coeth yn nodwedd amlwg o'r dechrau, gyda'r actor ieuenga', Carwyn Jones, yn rhagori ar lu mawr o'i gyfoedion sy'n tueddu i ynganu'n ddiog a myngus, wedi'u difetha'n aml gan feicio clos y teledu.

    Er cyflymed ei barablu ar adegau, ni chollwyd yr un sill o'i eiriau.

    .Ffynnon fechan yn troi'n afon fawr
    Yn fychan ac eiddil yr ymddengys Nia Roberts... nes iddi ddechrau llefaru a'n swyno, gan bersonoli'r gymhariaeth o Esther yn y ddrama ei hun: y ffynnon fechan sy'n troi'n afon fawr.

    Ymdeimlwn â phob un o'i hemosiynau wrth iddi ein argyhoeddi'n llwyr fod yma eto un o ferched unigryw a chyfrin gweledigaeth Saunders Lewis.

    Graenus ac amrywiol
    Cymeriad cymhleth a digon anodd i'w bortreadu sydd gan Rhys Richards, yr Iddew dioddefus mewn sach liain a lludw wrth y porth sy'n esgyn i brif swydd y deyrnas. Mae'r perfformiad yn raenus ac amrywiol addas i'r gwahanol sefyllfaoedd.

    Cawr ym mhob ystyr
    Rhys Parry Jones sy'n meddiannu'r llwyfan o'r dechrau.

    Cawr ym mhob ystyr, gyda'i faint a'i lais yn llawn awdurdod a balchder wrth fynnu sylw, ond sydd hefyd yn bradychu cynllwynio, ansicrwydd a nerfusrwydd y cymeriad diweddarach yn grefftus dros ben trwy ystum llygaid a dwylo aflonydd.

    Tasg anodd
    Julian Lewis Jones oedd â'r dasg anodd o fod yn frenin mewn siwt, tasg a wnaethpwyd yn llawer anos gan fawredd perfformiad ei brif weinidog, Rhys Parry Jones.

    Bron nad oedd rhywun yn teimlo tua'r dechrau y byddai wedi bod yn ddoethach castio'r ddau'n wahanol, gyda Rhys, y cawr, yn frenin, a Julian Lewis Jones yn ei wasanaethu: ond down yn ôl at hynny.

    Perfformiad cadarn, derbyniol, oedd un y brenin, ond fod peth anghysondeb yn ei lefaru: clywid yr "-au" ffurfiol ar ddiwedd geiriau ambell dro, ond yr "-a'" llafar wrth hepgor yr "u" bryd arall.

    Er y byddwn i'n ffafrio'r llafar, naturiol, fel arfer, hwyrach y byddai wedi bod yn ddoethach cadw at y llenyddol gywir gyda'r ddrama hon, fel y gwnaeth yr actorion eraill heb swnio'n rhy ffurfiol o gwbl i ddieithrio cynulleidfa.

    Yn wir, mae'n syndod mor naturiol y swniai iaith goeth Saunders yng ngenau'r actorion i gyd.

    I bob oed
    Roeddwn i wedi mentro mynd â'r ddau fab acw, sy'n bymtheg a dwy ar bymtheg oed, i weld a chlywed un o ddramâu clasurol eu treftadaeth.

    Digon pryderus oeddwn i o'u hymateb tebygol i ddieithrwch iaith a chyfnod y ddrama ond er clod i'r cynhyrchiad a'r actorion, mwynhau wnaethon hwythau, hefyd.

    Felly, dyma argymell yn bendifaddau y dylai pawb o bob oed sy'n caru llenyddiaeth a theatr fanteisio ar unrhyw gyfle i weld y cynhyrchiad godidog hwn.

     Dychwelyd yn olaf at y benbleth: pwy ddylai fod yn frenin y llys?

    Heb amheuaeth, Rhys Parry Jones oedd brenin y cynhyrchiad, ond dichon fod angen y ddawn aruthrol a ddangosir ganddo yma i gyfleu mawredd trasiedi Haman, cymeriad mwyaf diddorol Esther.

    'Fedra'i ddim cofio gweld Rhys mewn cynhyrchiad llwyfan safonol o'r fath o'r blaen.

    A 'fedra'i ddim cofio gweld unrhyw actor yn rhagori ar ei berfformiad yma mewn unrhyw ddrama arall, ychwaith.

  • Manylion am y daith

    Cliciwch i weld beth oedd gan Elfed ap Nefydd Roberts i'w ddweud ar Bwrw Golwg

  • Cysylltiadau Perthnasol

    Bwrw Golwg yn trafod Esther
    Esther - sylwadau R Alun Evans


    cyfannwch

    Sian Jones
    Cf: 'Fedra'i ddim cofio gweld Rhys mewn cynhyrchiad llwyfan safonol o'r fath o'r blaen'. Fe roddodd Rhys Parry Jones berfformiad campus yn rhan 'Y Llais' yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Dan y Wenallt rai blynyddoedd yn ôl.



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý