Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Maldwyn JohnJac yn y Bocs
Sioe Glybiau newydd
  • Adolygiad Alwyn Gruffudd o Jac yn y Bocs gan Theatr Bara caws. Gwesty'r Marine, Cricieth. Gorffennaf 5, 2006.


  • Os ydych chi â rôl fach neu fawr ym myd y teledu yng Nghymru ac am gadw pob blewyn sydd gennych chi yn eich trwyn peidiwch â mentro i weld sioe glybiau diweddaraf Theatr Bara Caws.

     Mae'r dychan, y tynnu coes a'r dynwared ynddi'n ddidrugaredd.

    Gyda chymeriadau absẃrd a chyfeiriadaeth sydd mor amlwg â haul canol dydd nid gormodaeth yw datgan nad oes owns o gynildeb yn Jac yn y Bocs.

    Ychwanegwch yr iaith fras, y cyfeirio diddiwedd at yr organau rhywiol a gwawdio arferol aelodau benywaidd y gynulleidfa fentrodd godi o'u seddi i ateb galwad natur yn ystod y perfformiad, nid yw Jac yn y Bocs fymryn gwahanol o ran ei chyflwyniad i sioeau clybiau eraill Theatr Bara Caws dros y blynyddoedd.

    Yn ôl dro ar ôl tro
    Ond dyna efallai yw'r apêl.
    Dyna yw'r fformiwla sy'n denu cynulleidfa, gan fy nghynnwys innau, yn ôl dro ar ôl tro.

    Nid oes digon o drythyllwch i'w gael ac roedd hynny'n amlwg unwaith eto yn ymateb y gynulleidfa ddaeth i weld Jac yn y Bocs ar noson chwilboeth o haf yng Ngwesty'r Marine yng Nghricieth.

    Triawd sydd wedi perffeithio'r fformiwla yw awduron Jac yn y Bocs.

    Mae gan Bryn Fôn, Tony Llewelyn a Dyfan Roberts brofiad helaeth o ysgrifennu sgriptiau ar gyfer sioeau fel hyn ac nid yw Jac yn y Bocs ddim gwaeth nag arfer - a dweud y gwir mae rhai elfennau'n well.

    Y stori
    Y stori'n fras y tro hwn yw hanes gŵr ifanc cyffredin o'r enw Jac Jones gafodd ei anfon o'r Ganolfan Waith i stiwdio deledu i weithio gyda ceffyle.

    Ond o ddeall y cyfarwyddid yn iawn cael ei anfon yno i weithio gyda CYFLE - y corff hyfforddi ym myd teledu - wnaeth y llanc!

     Mewn cyfres o sgetsiau, caneuon a dawns mae'r sioe yn olrhain ei daith o'r swydd fwyaf distadl ym myd teledu hyd at ei benodiad, drwy amrywiol ddulliau anllad, yn bennaeth S4C.

    Ofer yw dweud i'r canlyniadau brofi'n anorfod o drychinebus. Rwy'n peidio ymhelaethu rhag datgelu gormod.

    Vesuvius
    Digon yw dweud bod pob agwedd bron o fyd y cyfryngau, o flaen a thu ôl i'r camera, o dan lach Jac yn y Bocs - o raglenni newyddion i raglenni plant, o'r ddrama glasurol i operâu sebon ac o ragolygon y tywydd i Gefn Gwlad a Garddio.

    Mae'r cyflwynwyr, y cyfarwyddwyr y cynhyrchwyr a'r cynllunwyr set, hyd yn oed, yn ei chael hi.

    Bydd y defnydd o sparkler i ddynodi mynydd Vesuvius yn ffrwydro yn aros yn y cof am amser maith.

    Haeddu cyfres
    Agwedd arall fydd yn aros yn y cof o weld Jac yn y Bocs yw'r dychan gwleidyddol na fu mor amlwg yn sioeau clybiau diweddar Theatr Bara Caws ac sydd i'w groesawu.

    Heb os mae'r cymeriad Ieuan Bach ymddangosodd yn sgets y rhaglen blant yn haeddu cyfres iddo'i hun.

    Clown yw Ieuan Bach gyda wyneb a dwylo dyn yn ei oed a'i amser ond â chorffolaeth corrach.

    Fel pob clown mae ganddo drwyn coch ac yn mynnu gwadd pawb i'w Barti hi hi hi.

    Mae ganddo flodyn mawr melyn neu babi Cymreig ar y frest - melyn oherwydd mai dyna yw lliw "sybmarine y Beatles, bananas ...a... a...a chachwrs!!

    Dim ond pump
    Pum actor yn unig sy'n cynnal Jac y Bocs a hynny'n ddi-dor am awr a hanner.

    Methais â chyfrif sawl gwahanol gymeriad a bortreadwyd ganddynt i gyd. Cryn gamp fu amlder y newid dilladau o ystyried yr hin.

    Unwaith eto profodd berfformiadau ac amseriad perffaith Maldwyn John ac Eilir Jones gymaint o drysor yw'r ddau actor yma i fyd y gomedi Gymraeg.

    Mae'r gallu gan y ddau gymêr yma i ennyn chwerthin heb yngan yr un gair - mae eu hedrychiad yn fwy na digon yn aml.

    Llwyddodd Eilir ddiosg stamp y Ffarmwr Ffowc y tro hwn gan bortreadu sawl rôl cameo yn llwyddiannus. Ond fe ddrylliwyd y cwbl pan ymddangosodd y Ffarmwr Ffowc hefyd ar y llwyfan yn y man.

    Yn eironig ddigon teimlwn mai dyna oedd portread gwanaf y sioe.
    Bwriadol?
    Wn i ddim.

    Llyr Evans sy'n chwarae Jac yn y Bocs ei hun a chafwyd perfformiadau clodwiw hefyd gan Lisa Jên Brown a Catrin Mara. Roedd ynni symudiadau y cast i gyd yn ddigon i fynd â gwynt rhywun ar adegau.

    Mae'r set gan Emyr Morris-Jones yn aml bwrpas ac effeithiol gyda'r bylchau ar y wal gefn yn cyfleu sgriniau teledu i'r dim.

    Mae'r gerddoriaeth gan Emyr Rhys a'r Cyfarwyddwr yw Tony Llywelyn.

    Parod i chwerthin
    I grynhoi mae Jac yn y Bocs yn nodweddiadol o Sioe Clybiau Theatr Bara Caws; felly byddwch yn barod i chwerthin nes bod eich hochrau'n brifo pan ewch i'w gweld.

    Os ydych chi'n gweithio ym myd y teledu byddwch yn barod hefyd i gael eich gwawdio ar goedd yn ddi-dostur.

    Ond pwy bynnag ydach chi ewch i'r lle chwech cyn i'r perfformiad ddechrau da chi.
    Ni chewch unrhyw faddeuant os y codwch chi o'ch cadair yn ystod y sioe, mae hynny'n siŵr.

  • Dyma fanylion y daith:

  • Hefyd: Bydd Jac yn Y Bocs yn cael ei llwyfannu o nos Fawrth i nos Wener, Awst 8-11 yn ystod Wythnos yr Eisteddfod yn Neuadd Gymuned Pontlliw, Abertawe. Tocynau ar Werth yn Theatr y Maes neu ffonio 07740637648

  • Nos Fawrth Gorffennaf 4 Gwesty'r Marine, Cricieth Chris: 01766 5222946
  • Nos Fercher Gorffennaf 5 Gwesty'r Marine, Cricieth Chris: 01766 5222946
  • Nos Iau Gorffennaf 6 Gwesty'r Marine, Cricieth Chris: 01766 5222946
  • Nos Wener Gorffennaf 7 Clwb Simdde Wen, Wylfa, Cemaes Ian 07919205217 neu Linda: 01286 676335
  • Nos Sadwrn Gorffennaf 8 Clwb Simdde Wen, Wylfa, Cemaes Ian 07919205217 neu Linda: 01286 676335
  • Nos Fawrth Gorffennaf 11 Clwb Wellmans, Llangefni Gareth: 01248 421660 neu 07766 241786
  • Nos Fercher Gorffennaf 12 Clwb Wellmans, Llangefni Gareth: 01248 421660 neu 07766 241786
  • Nos Iau Gorffennaf l3 Clwb Rygbi Bethesda Linda: 01248 601526 neu Huw: 01248 602480
  • Dim sioe Nos Wener
  • Nos Sadwrn Gorffennaf 15 Clwb Rygbi Bethesda Linda: 01248 601526 neu Huw: 01248 602480
  • Nos Lun Gorffennaf 17 Clwb Golff Bala Y Clwb: 01678 520359 neu Bethan: 520309
  • Nos Fawrth Gorffennaf 18 Clwb Golff Bala Y Clwb: 01678 520359 neu Bethan: 520309
  • Nos Fercher Gorffennaf 19 Clwb Pel-droed, Caernarfon Huw: 01286 675607 neu 07818651752
  • Nos Iau Gorffennaf 20 Clwb Pel-droed, Caernarfon Huw: 01286 675607 neu 07818651752
  • Nos Wener Gorffennaf 21 Clwb Pel-droed, Caernarfon Huw: 01286 675607 neu 07818651752
  • Nos Fawrth Gorffennaf 25 Gwesty Kinmel Manor, Abergele Deiniol, Menter Iaith Conwy: 01492642357 neu Siop Bys a Bawd, Llanrwst
  • Nos Fercher Gorffennaf 26 Gwesty Kinmel Manor, Abergele Maldwyn: 01745 860515 neu 07780730166
  • Nos Iau Gorffennaf 27 Clwb Chwaraeon Porthmadog 01766 514217 neu 07831 101231
  • Nos Wener Gorffennaf 28 Clwb Chwaraeon Porthmadog neu 01766 512055
  • Nos Sadwrn Gorffennaf 29 Clwb Chwaraeon Porthmadog
  • Nos Fawrth Awst 1 Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, Blaenau Ff. Glyn: 01766 830314 neu'r Clwb: 01766 830005
  • Nos Fercher Awst 2 Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, Blaenau Ff. Glyn: 01766 830314 neu'r Clwb: 01766 830005
  • Nos Iau Awst 3 Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, Blaenau Ff. Glyn: 01766 830314 neu'r Clwb: 01766 830005
  • Nos Wener Awst 4 Gwesty Dolbadarn, Llanberis Aneurin: 01286 870277
  • Nos Sadwrn Awst 5 Gwesty Dolbadarn, Llanberis Aneurin: 01286 870277
  • Nos Fawrth Awst 8 EISTEDDFOD GENEDLAETHOL ABERTAWE A'R CYLCH - Canolfan i'w threfnu



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý