Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dominos
Cydweithio - er mwyn yr ifanc
Rhybuddiwyd na fydd cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru - Dominos - yn addas ar gyfer rhai dan 16 oed ac y bydd yna olygfa rywiol a llawer o regi.

Mae'r cynhyrchiad wedi ei anelu yn benodol at bobl ifainc a chyda hynny mewn golwg daethpwyd a phedair awdures newydd cymharol ddibrofiad at ei gilydd i sgrifennu.

Bydd cyfle cyntaf i weld sut y daetho nhw drwyddi yn Clwyd Theatr Cymru Yr Wyddgrug nos Iau, Ionawr 26, 2006.

"Daeth pedair dramodwraig ifanc at ei gilydd i ysgrifennu drama o'i chwr gan dorri tir newydd fydd yn apelio'n bennaf ar gyfer pobl ifanc," meddai llefarydd ar ran y cwmni am Dominos.

Ond ychwanegwyd: "Mae 'Dominos' yn anaddas i rai dan 16 oed. Defnyddir iaith gref a golygfeydd o natur rhywiol," meddir.

Hwrli bwrli
"Roedd y broses fel hwrli bwrli o'r dechrau i'r diwedd," meddai Mared Swain, 24 oed o Lantrisant ger Caerdydd a chydysgrifennydd Dominos gyda Manon Wyn o Landwrog ger Caernarfon, Branwen Davies o Landegfan, Ynys Môn, ac Angharad Llwyd o Brion ger Dinbych.

Mared Swain, Branwen Davies, Angharad Llwyd a Manon Wyn.
"Fy ngobaith yw y bydd y ddrama'n denu cynulleidfaoedd o bob oed ond os gallwn ddenu cenhedlaeth newydd i'r theatr byddaf wrth fy modd," ychwanegodd.

Cymerwyd bron i flwyddyn i gwblhau'r gwaith gyda phob un yn cyfrannu tuag at y cyfanwaith ac yn cydweithio wedyn gydag actorion a roddodd gig a gwaed i'r cymeriadau a ddarparwyd ar eu cyfer.

Bydd Dominos yn mynd ar daith chwe wythnos wedyn.

Mewn dinas
"Gyda'n gilydd datblygwyd drama, sydd wedi'i lleoli mewn dinas, gyda saith cymeriad o gefndiroedd a natur wahanol i'w gilydd," meddi Manon Wyn a fydd yn 24 oed ddiwrnod perfformiad cyntaf Dominos.

"Mae'r adegau clasurol ddramatig ynghyd â chyfnodau o gomedi du'n cyfuno i greu profiad theatrig sy'n hwyl yn ogystal â bod yn ysgogiad," meddai.

Dilyn y ddrama ddiwrnod ym mywyd y saith cymeriad - bywydau sy'n cyd-daro yn dilyn un digwyddiad ar hap.

Fel rhes o ddominos
"Mae'r cwbl yn digwydd megis cwymp rhes o ddominos a dyna sy'n rhoi'r teitl i'r ddrama," meddai Branwen Davies, 25 oed.

"A dweud y gwir dyna fu hanes y broses ysgrifennu hefyd wrth i syniadau ddeilio ar syniadau eraill," ychwanegodd.

Cyfansoddwyd cerddoriaeth
ar gyfer Dominos gan Osian Gwynedd gynt o Big Leaves ond yn awr gyda Sibrydion.

"Mae'r cynhyrchiad terfynol yn gyfuniad o dalent a ddeilliodd o broses gynhyrchu gynhyrfus, buddiol ac arbrofol," ychwanegodd Angharad Llwyd, 26 oed.

"Mwynheais y profiad yn fawr ac rwy'n siŵr y bydd cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru'n rhannu'r boddhad hwnnw," meddai.

"Mae Dominos yn torri'r mowld artistig yn ogystal ag o ran y mannau y bydd y ddrama'n ymweld â hwy," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.

"Bydd y cynhyrchiad hwn, heb os, yn cynnig cyfleon newydd i Theatr Genedlaethol Cymru fydd yn sail i drafodaeth ac yn ysbrydoliaeth i'r gynulleidfa."

Yr actorion fydd: Cast - Melisa Annis, Owen Arwyn, Rhian Blythe, Carys Eleri, Angharad Lee, Dave Taylor a Trystan Wyn.

Gweithdai
  • Bydd sesiwn cyn un perfformiad ym mhob theatr ar gyfer dysgwyr y Gymraeg.

    "Y tro yma rydan ni'n anelu'n arbennig ar gyfer y rhai sydd newydd ddechrau dysgu," ychwanegodd Elwyn Williams.

    "Rydan ni hefyd yn cynnig gweithdai ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr drama lefel "A" neu mewn coleg o dan arweiniad profiadol ein Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Judith Roberts," meddai.

    Dylai'r rhai sydd â diddordeb yn y gweithgareddau ychwanegol hyn gysylltu â'u theatr leol neu ffonio Judith Roberts ar 01554 780650 (e-bost: judith@theatr.com) neu drwy ymweld â gwefan Dominos

    Y daith
  • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug ar nos Iau a nos Wener, Ionawr 26-27, 2006.
  • Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Nos Fawrth a nos Fercher, Ionawr 31 a Chwefror 1.
  • Galeri Caernarfon. Nosweithiau Mawrth, Mercher ac Iau, Chwefror 7-9.
  • Theatr Sherman Caerdydd. Nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, Chwefror 14-17.
  • Theatr Brycheiniog, Aberhonddu. Nos Lun a nos Fawrth, Chwefror 20 - 21.
  • Theatr y Grand, Abertawe. Nos Iau a nos Wener, Chwefror 23 - 24.
  • Theatr y Gromlech, Crymych. Nos Lun a nos Fawrth, Chwefror 27-28.
    Pob perfformiad yn dechrau am 7.30pm.

    Cysylltiadau Perthnasol



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý