Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gareth GlynPloryn
Sioe gerdd Gareth Glyn ac Angharad Tomos
Mae cyfansoddwr blaenllaw ac awdur adnabyddus wedi dod at ei gilydd i greu stori gerdd frawychus ar gyfer plant.

Bydd Ploryn gan Gareth Glyn ac Angharad Tomos yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn ystod Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy, ddydd Iau, Medi 22, 2005.

Disgrifiwyd y gwaith fel cymysgedd rhwng Roald Dahl a Phedr a'r Blaidd gydag arlliw o ffilmiau arswyd 'Hammer' hefyd.

Mae'r stori yn ymwneud â Phloryn, mab i ddau gymeriad erchyll o'r enw Sothach a Sglyfaeth sy'n ei gloi mewn cloc yng Nghastell Gyrn Wigwy.

Tro cyntaf
Dywedodd Ann Atkinson, Cyfarwyddwr Artistig yr Å´yl: "Rydym wrth ein boddau ac yn llawn cyffro wrth feddwl am glywed y darn cerddorol pwysig hwn am y tro cyntaf.

"Cael plant i ymddiddori mewn cerddoriaeth glasurol yw'r nod ac rwy'n siŵr y bydd Ploryn yn brofiad ardderchog iddyn nhw. Yn wir, bydd yn ddigwyddiad bythgofiadwy."

Mae Angharad Tomos o Benygroes, Arfon, yn awdur poblogaidd ymhlith plant ac oedolion ac mae'r stori hon yn ddilyniant i'w stori i blant, Sothach a Sglyfaeth.

Mae Gareth Glyn, o Langwyllog, Ynys Môn, yn fwyaf cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru fel prif gyflwynydd y Post Pnawn ond y mae hefyd yn gyfansoddwr sydd wedi ennill bri gyda darnau cerddorfaol ar hyd a lled y byd.

Ymysg y sêr sydd wedi perfformio ei waith am y tro cyntaf y mae Bryn Terfel a Charlotte Church.

Caiff Ploryn ei berfformio gan gerddorfa siambr wyth darn o Ensemble Cymru, a gomisiynodd y darn.

Yr actor Llion Williams fydd yn adrodd y stori gyda darluniau a gaiff eu dangos fel rhan o'r profiad amlgyfrwng wedi'u llunio gan Marc Vyvyan Jones.

Offeryn i bawb
Meddai Gareth Glyn: "Mae'r darluniau yn wefreiddiol, yn llawn mynegiant a manyldeb - a hiwmor."Dywedodd y bydd gan bob un o'r cymeriadau - Ploryn, y ci, y gath, y sgerbwd, llyffant ac ati - eu thema a'u hofferyn eu hunain i helpu'r plant i ddod i'w hadnabod.

"Mae yna rywbeth yn y thema sy'n dweud rhywbeth wrthych am y cymeriadau unigol - er enghraifft mae Stwmp, y llyffant, yn gwneud sŵn sboncio a chrawcian.

"Mae thema'r sgerbwd yn cynnwys sain esgyrnog, ac yn y blaen. Nid effeithiau sain ond cerddoriaeth sy'n plethu'r gwahanol gymeriadau ynghyd," meddai.

"Un peth a fu'n bosibl yw creu awyrgylch dychrynllyd - mae popeth yn digwydd yng Nghastell Gyrn Wigwy ac mae pob un o'r cymeriadau sy'n byw yno'r un mor frawychus â'i gilydd.

"Rwy'n gobeithio y bydd y themâu cerddorol agoriadol yn creu'r un fath o awyrgylch â'r hyn a geir mewn ffilm arswyd 'Hammer'," ychwanegodd.

"Mae'r stori yn eithaf trist ac emosiynol mewn un rhan ond yn fuddugoliaethus yn y diwedd." Gwahanol iawn
Dywedodd Angharad Tomos mai cael plant i ymddiddori mewn cerddoriaeth glasurol yw'r syniad tu ôl i'r gwaith.

"Mae'n wahanol iawn i'r adeg pan oeddwn i'n tyfu i fyny - y gorau y gallech obeithio amdano yn yr ysgol bryd hynny oedd gwersi recorder neu biano.

Angharad Tomos "Rwy'n meddwl fod y plant yn ffodus iawn. Maen nhw'n cael cyfle na chafodd fy nghenhedlaeth i yn y 60au a'r 70au."Ychwanegodd fod ysgrifennu Ploryn yn ddisgyblaeth hollol wahanol i ysgrifennu llyfr.

"Yn yr achos yma roedd angen cyn lleied o eiriau â phosibl, gan mai'r gerddoriaeth sy'n llywio'r darn. Mae'r geiriau a'r plot yn darparu canllaw i'r plant ei ddilyn.

"Rwy'n hoffi boddi pobl mewn geiriau felly roedd defnyddio llai o eiriau yn anodd i mi. Mae'n well gen i ysgrifennu nofel na stori fer, heb sôn am lên micro fel hyn.

"Roedd dileu geiriau disgrifiadol o'r darn a gadael i'r gerddoriaeth greu'r awyrgylch yn dipyn o her i mi."

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans: "Pwrpas y darn yma yw galluogi pobl sy'n deall rhywfaint o Gymraeg fwynhau cynhyrchiad drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Rydym eisiau cyflwyno offerynnau'r gerddorfa a'r traddodiad cerddoriaeth glasurol i blant ifanc a theuluoedd."

Mynd ar daith
  • Yn dilyn Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, bydd Ensemble Cymru yn mynd ar daith.
  • Dydd Iau, Hydref 13 - Neuadd Powis, Prifysgol Cymru, Bangor;
  • Dydd Gwener, Hydref 14 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli;
  • Dydd Sadwrn, Hydref 15 - Gŵyl Cilcain, Cilcain, ger Yr Wyddgrug;
  • Dydd Sul, Hydref 16, Canolfan Ucheldre, Caergybi.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý